Nod y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yw ei gwneud yn drosedd yng Nghymru i weithredu stadiwm (neu leoliad tebyg) ar gyfer rasio milgwn, neu i fod yn rhan o drefnu rasio milgwn.
Craffodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd (y Pwyllgor) ar y Bil yng Nghyfnod 1 y broses ddeddfwriaethol ac nid oedd yn gallu cytuno ar safbwynt pendant arno. Mae’r materion allweddol sy'n codi yng Nghyfnod 1 yn cael eu trafod mewn erthygl arall gan Ymchwil y Senedd.
Cytunodd y Senedd, yn ei chyfanrwydd, ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Rhagfyr, a chynhaliodd y Pwyllgor drafodion Cyfnod 2 i ystyried gwelliannau i'r Bil ar 28 Ionawr.
Mae'r erthygl hon yn amlinellu datblygiadau allweddol yng Nghyfnod 2.
Mae'r rhestr o welliannau wedi'u didoli a’r cofnod pleidleisio yn darparu rhestr gynhwysfawr o welliannau Cyfnod 2 a'u tynged. Mae fersiwn wedi'i diweddaru o'r Bil, fel y'i diwygiwyd, wedi'i gyhoeddi.
Trafododd y Pwyllgor 20 o welliannau. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru un gwelliant, a gytunwyd gan y Pwyllgor. Cyflwynwyd y 19 arall naill ai gan Rhys ab Owen AS neu James Evans AS, ac fe’u gwrthodwyd.
Troseddau
Cyflwynodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (Ysgrifennydd y Cabinet), welliant 1 ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Roedd y gwelliant yn ceisio egluro cwmpas y drosedd o fod yn rhan o drefnu rasio milgwn yng Nghymru; ei fod yn ymwneud â threfnu rasys milgwn sy'n digwydd yng Nghymru neu y bwriedir iddynt ddigwydd yng Nghymru.
Dyma oedd yr unig welliant y cytunwyd arno gan y Pwyllgor.
Nod Rhys ab Owen oedd ehangu cwmpas y rhai sy'n atebol am drosedd o dan adran 1 y Bil i berchnogion, cyd-berchnogion neu hyfforddwyr milgwn sy'n eu defnyddio neu'n caniatáu'n fwriadol iddynt gael eu defnyddio ar gyfer rasio yng Nghymru, a hefyd mynychwyr rasys milgwn yng Nghymru. Nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi’r gwelliannau hyn, gan ddadlau, fel y'i drafftiwyd, fod y dull a nodir yn y Bil yn ‘gymesur, yn ymarferol ac yn orfodadwy’. Cyfeiriodd at adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor a ddaeth i’r casgliad y gallai ehangu atebolrwydd gyflwyno mwy o gymhlethdod a chanlyniadau heb dystiolaeth glir o angen.
Diffiniad o rasio milgwn
Anelodd Rhys ab Owen hefyd at newid y math o drac a gwmpesir gan y troseddau yn adran 1 o'r Bil, fel y byddai unrhyw drac yn cael ei gynnwys, waeth beth fo'i siâp. Dadleuodd fod y Bil yn darparu ‘bwlch clir’ - sy’n golygu y gallai rasio barhau ar drac llinellol.
Ceisiodd hefyd ddileu cyfeiriad penodol at lith mecanyddol yn y diffiniad o rasio milgwn, gan ddadlau na fyddai'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn stopio rasio byrfyfyr mewn cae o amgylch trac dros dro gyda math gwahanol o lith.
Ni allai Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwelliannau, a dywedodd mai bwriad y gwaharddiad yw dal natur grom traciau confensiynol rasio milgwn, i adlewyrchu normau'r diwydiant. Dywedodd fod y risg o niwed i filgwn yn fwyaf cyffredin ar draciau hirgrwn. Roedd o'r farn bod y risg o draciau syth yn ymddangos yn isel.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fod llith sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol yn gwahaniaethu rhwng amgylcheddau rasio neu hyfforddi ffurfiol (sydd, yn ôl ef, yn achosi niwed i filgwn) a gweithgareddau anffurfiol neu hamdden a allai ddefnyddio dull gwahanol o lith (nad yw'r llywodraeth yn dymuno ei wahardd).
Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf
Cyflwynodd Rhys ab Owen welliant i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf heb fod yn hwyrach na phum mlynedd ar ôl i'r gwaharddiad ar rasio milgwn ddod i rym ac i adrodd ar yr adolygiad. Dadleuodd nad oes unrhyw warant ar hyn o bryd y byddai llywodraeth yn y dyfodol yn cynnal adolygiad ôl-weithredu.
Nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi'r gwelliannau hyn, gan bwysleisio yn hytrach fod Memorandwm Esboniadol y Bil yn cynnwys ymrwymiad i adolygu'r Ddeddf heb fod yn hwyrach na phum mlynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.
Trefniadau trosiannol
Nod James Evans oedd diwygio'r Bil i gynnwys trefniadau trosiannol ar gyfer rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru yn ystod cyfnod dros dro, cyn i waharddiad ar rasio ddod i rym. Dadleuodd heb fframwaith trosiannol fod perygl y bydd y Bil yn creu bwlch rheoleiddio ar yr union adeg pan mae’r angen mwyaf am oruchwyliaeth.
Mewn gwelliant pellach ceisiodd ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y rheoliadau hyn o fewn dwy flynedd ar ôl iddynt ddod i rym.
Ni chefnogodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwelliannau hyn gan ddweud bod rheoleiddio rasio milgwn yn amharu ar fwriad y llywodraeth i gyflwyno gwaharddiad cyn gynted â phosibl. Pwysleisiodd fod yr unig stadiwm yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael ei reoleiddio drwy safonau’r diwydiant.
Asesiadau o effaith
Nod James Evans oedd cyflwyno gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal asesiad cynhwysfawr o effaith economaidd a chymdeithasol gwahardd rasio milgwn yng Nghymru cyn pennu dyddiad cychwyn. Cyflwynodd welliant hefyd i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal asesiad hawliau dynol o'r effaith y bydd y Ddeddf yn ei chael ar bersonau y mae’n effeithio arnynt.
Dadleuodd y byddai'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y penderfyniad i gychwyn y gwaharddiad yn cael ei wneud ar sail dystiolaethol a chyfreithiol gadarn.
Ni chefnogodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwelliannau hyn, gan gyfeirio at Femorandwm Esboniadol y Bil, yr asesiad effaith rheoleiddiol, a'r asesiadau effaith integredig. Dywedodd fod asesiad manwl o’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wedi’i gwblhau ac y bydd yr asesiadau hyn yn cael eu diweddaru cyn Cyfnod 3. Aeth ymlaen i ddweud bod darpariaethau’r Bil bob amser yn destun asesiad trylwyr o hawliau’r confensiwn cyn eu cyflwyno, ac roedd yn fodlon bod y Bil hwn yn gydnaws â’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol.
Dod i rym
Nod Rhys ab Owen oedd dwyn dyddiad cychwyn y gwaharddiad ymlaen i 1 Ebrill 2027 fan bellaf. Fel y'i drafftiwyd, mae'r Bil yn darparu y byddai'r gwaharddiad yn dod i rym heb fod cyn 1 Ebrill 2027, ond heb fod ar ôl 1 Ebrill 2030. Dadleuodd Rhys ab Owen fod y ffenestr gychwyn tair blynedd yn ‘ddiangen’ a dywedodd fod gan ganolfannau ailgartrefu’r capasiti i dderbyn y milgwn. Tynnodd sylw hefyd at gau trac yn Swindon dros gyfnod o naw mis.
Daeth i’r casgliad y bydd dod â rasio milgwn i ben o fewn blwyddyn yn rhoi dyddiad cau pendant a realistig i’r sector achub a’r diwydiant weithio tuag ato.
Ni chefnogodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwelliant gan honni y byddai amser paratoi'r Bil yn caniatáu i randdeiliaid wneud y canlynol:
… adjust to mitigate the impact of the prohibition on the rehoming and the welfare sector, on the greyhounds and their owners and trainers, and on the racing industry, and also the wider community and, of course, the purposeful future use of that site.
Y camau nesaf
Mae'r Bil bellach yng Nghyfnod 3 y broses ddeddfwriaethol lle gall Aelodau o’r Senedd gyflwyno gwelliannau pellach. Bydd y rhain yn cael eu trafod ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Mae rhagor o wybodaeth gefndir ar ein tudalen adnoddau ar y Bil..
Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru