- Os yw Aelod Seneddol yn cael ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd ac yn derbyn dedfryd o 12 mis neu lai o garchar (mae Aelodau Seneddol yn cael eu diarddel yn awtomatig am ddedfryd o fwy na 12 mis).
- Os yw Tŷ'r Cyffredin yn gwahardd Aelod Seneddol am gyfnod sydd o leiaf 21 diwrnod eistedd, neu, os nad yw'r cyfnod yn cael ei nodi fel nifer penodol o ddiwrnodau eistedd, am gyfnod sydd o leiaf 28 diwrnod.
Bil Galw Aelodau Seneddol yn ôl 2014-15
Cyhoeddwyd 10/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud
10 Tachwedd 2014
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1816" align="alignnone" width="300"] Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Cafodd y Bil Galw Aelodau Seneddol yn Ôl 2014-15 ("y Bil") ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin ar 21 Hydref 2014. Mae hanes lliwgar i'r Bil ers cyflwyno'r Bil Drafft ym mis Rhagfyr 2011 a'r gwaith craffu cyn deddfu arno gan Bwyllgor Diwygio Cyfansoddiadol a Gwleidyddol Tŷ'r Cyffredin. Dyma'r casgliad yn adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012:
'We do not believe that there is a gap in the House's disciplinary procedures which needs to be filled by the introduction of recall. The House already has the power to expel Members who are guilty of serious wrongdoing. This should be regarded as an active option; rather than a theoretical possibility.'
Cyhoeddwyd y Bil yn Araith y Frenhines 2014. Ei nod yw galluogi pleidleiswyr i sbarduno is-etholiad os gwelir bod Aelod Seneddol wedi camymddwyn yn ddifrifol.
Mae'r Bil yn nodi proses lle byddai Aelod Seneddol yn colli ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin o ganlyniad i ddeiseb galw yn ôl llwyddiannus, a fyddai'n sbarduno is-etholiad. Nid yw'r Bil yn atal yr Aelod Seneddol sydd wedi colli ei sedd rhag sefyll fel ymgeisydd yn yr is-etholiad.
Byddai dau amod ar gyfer agor deiseb galw yn ôl: