Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): tudalen adnoddau

Cyhoeddwyd 11/11/2025

Cafodd Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) ei gyflwyno yn y Senedd ddydd Llun 3 Tachwedd 2025.

Mae’r dudalen hon yn casglu ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Gallwch ddilyn hynt y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) ar y dudalen we ar ei gyfer. Yno ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Cyhoeddiadau Ymchwil y Senedd

Erthygl gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru