Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Dadl Cyfnod 3

Cyhoeddwyd 06/10/2023   |   Amser darllen munud

Gosodwyd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) gerbron y Senedd ar 13 Chwefror 2023. Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil.

Mae’r erthygl hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol Ymchwil y Senedd i gefnogi craffu ar y Bil ac yn nodi sut y mae’r Bil wedi gwneud ei ffordd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Gallwch olrhain cynnydd y Bil ar wefan y Senedd. Mae hyn yn cynnwys y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol gwreiddiol. Gosodwyd Memorandwm Esboniadol wedi ei ddiweddaru ar 7 Gorffennaf 2023.

Bil fframwaith yw’r ddeddfwriaeth hon sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn dau faes:

  • ‘Pŵer datgymhwyso’ a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau Bil Caffael y DU, sydd ar ei daith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, ar ôl ei ddeddfu. Byddai’r Bil hwnnw, fel arall, yn gymwys i gaffael gwasanaethau iechyd.
  • ‘Pŵer creu’ a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno cyfundrefn gaffael newydd ar wahân ar gyfer y gwasanaethau iechyd hyn yng Nghymru.

Mae ein papur briffio Crynodeb o’r Bil yn rhoi cefndir i’r Bil, yn crynhoi ei ddarpariaethau ac yn amlinellu gwaith y Senedd hyd at Gyfnod 1 o’r broses ddeddfwriaethol, gan nodi barn Pwyllgorau’r Senedd a rhanddeiliaid allanol.

Gorffennodd Cyfnod 2 o’r gwaith craffu ar y Bil (cyfnod diwygio pwyllgor) yng nghyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 7 Mehefin 2023. Mae’r Senedd wedi cyhoeddi crynodeb o’r hyn a ddigwyddodd yng Nghyfnod 2, gan ddisgrifio’r gwelliannau a’u tynged.

Roedd y gwelliannau allweddol y cytunwyd arnynt o dan Adran 3 Caffael gwasanaethau etc. fel rhan o'r GIG yng Nghymru. Mewnosodwyd dau baragraff ychwanegol mewn perthynas ag ymgynghori ar unrhyw reoliadau caffael a ddatblygir o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth – un sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ac un sy’n ei gwneud yn ofynnol cynnwys deunydd penodol mewn deunydd esboniadol sy’n cyd-fynd â’r rheoliadau.

Ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 8 Mehefin 2023.

Trefnwyd Cyfnod 3 yn wreiddiol ar gyfer 11 Gorffennaf 2023 yn y Cyfarfod Llawn i ystyried gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2). Ar 30 Mehefin, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a’r Pwyllgor Cyllid i roi gwybod ei bod yn bwriadu gohirio trafodion Cyfnod 3 tan hydref 2023 ac i roi rhagor o wybodaeth am ei hymateb i argymhellion Cyfnod 1 y Pwyllgor.

Cynhelir trafodion Cyfnod 3 ar y Bil yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 10 Hydref 2023 ac mae linc i’r Hysbysiad ynghylch Gwelliannau ar gael o dan adran Cyfnod 3 y wefan sy’n amlinellu cynnydd y Bil.


Erthygl gan Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru