Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 09/05/2023   |   Amser darllen munudau

Cyflwynwyd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ("Bil CGI") i'r Senedd ar 13 Chwefror 2023. Yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS. Bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil (dadl Cam 1) ar 9 Mai.

Bil fframwaith yw'r Bil. Nid yw'n cynnwys cyfraith sylwedd, ond mae’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau:

  • Pŵer datgymhwyso' a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau Bil Caffael y DU, sydd ar ei daith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, ar ôl ei ddeddfu. Byddai'r Bil hwnnw, fel arall, yn gymwys i gaffael gwasanaethau iechyd.
  • ‘Pŵer creu’ a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno cyfundrefn gaffael newydd ar wahân ar gyfer y gwasanaethau iechyd hyn yng Nghymru.

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.

Mae ein sesiwn briffio Crynodeb o'r Bil yn gefndir i'r Bil, yn crynhoi ei darpariaethau ac yn amlinellu gwaith y Senedd ar y Bil hyd yma yng Nghyfnod 1 y broses ddeddfwriaethol, gan nodi barn Pwyllgorau'r Senedd a rhanddeiliaid allanol.


Erthygl gan Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru