Cyhoeddwyd 20/05/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
20 Mai 2014
Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1244" align="alignnone" width="300"]

Llun: o Flickr gan Kevin Saff. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Ddoe, cyflwynodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau,
Fil Addysg Uwch (Cymru) a disgwylir iddo wneud Datganiad Llafar yn y Siambr heddiw (dydd Mawrth 20 Mai 2014). Gellir gweld y Bil (fel y'i cyflwynwyd) a'r Memorandwm Esboniadol ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Bil Addysg Uwch (Cymru).
Prif ddiben y Bil yw rhoi sail gyfreithiol ar gyfer fframwaith diwygiedig i reoleiddio addysg uwch yng Nghymru. I wneud hyn, mae'r Bil yn rhoi'r swyddogaethau angenrheidiol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i:
- sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch,
- gorfodi rheolaethau ffioedd dysgu a gofynion cynllun ffioedd, a
- sefydlu fframwaith ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol darparwyr addysg uwch yng Nghymru y mae eu cyrsiau yn cael eu dynodi yn awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ceisio:
- sicrhau rheoleiddio cadarn a chymesur o ran sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau yn cael eu cefnogi gan fenthyciadau a grantiau addysg uwch a gefnogir gan Lywodraeth Cymru;
- diogelu'r cyfraniad a wneir at les y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru tuag at addysg uwch;
- cynnal ffocws cryf ar fynediad teg i addysg uwch; a
- chadw a diogelu annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd prifysgolion.
Yn y gorffennol, roedd Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar delerau ac amodau sydd ynghlwm wrth arian cyhoeddus a gaiff ei sianelu drwy CCAUC, i reoleiddio'r sector. Rhoddwyd y cyllid hwn i brifysgolion gan CCAUC ar gyfer addysgu a gweithgareddau eraill, er enghraifft ehangu mynediad.
Fodd bynnag, dechreuodd cyllid cyhoeddus addysg uwch newid yn 2012/13 gyda symudiad tuag at sicrhau bod prifysgolion cael cyfran fwy o'u hincwm gan y myfyrwyr eu hunain (drwy ffioedd dysgu uwch) a llai o ddibyniaeth ar gyllid uniongyrchol gan y llywodraeth drwy CCAUC. Roedd hyn yn lleihau gallu CCAUC i osod telerau ac amodau ar y cymorth hwn. Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu arian cyhoeddus sylweddol yn anuniongyrchol drwy gymorth ffioedd dysgu, er enghraifft y Grant Ffioedd Dysgu (Cymru yn unig), benthyciadau myfyrwyr a grantiau eraill.
Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr addysg uwch y mae eu cyrsiau yn cael eu dynodi yn awtomatig ar gyfer cymorth statudol i fyfyrwyr, ymgymryd â gweithgarwch i gefnogi cydraddoldeb o ran mynediad i addysg uwch ac i gael statws elusennol.
Yn ogystal â CCAUC, bydd y Bil yn cael effaith yn benodol ar:
- yr wyth prifysgol yng Nghymru;
- y Brifysgol Agored;
- pum coleg addysg bellach yng Nghymru sy'n darparu cyrsiau addysg uwch; ac
- unrhyw ddarparwyr addysg uwch eraill y mae eu gweithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru ac sy'n dymuno i'w cyrsiau gael eu dynodi yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar nifer o gynigion yn ymwneud â llywodraethu a sicrwydd ansawdd addysg uwch ac wedi gwneud nifer o newidiadau o ganlyniad i'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2013, cynhaliodd Llywodraeth Cymru
Bil Addysg Uwch (Cymru): Ymgynghoriad technegol. Cyhoeddwyd crynodeb o'r 21 ymateb unigol ym mis Ebrill 2014.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mabwysiadu dull graddol o weithredu'r fframwaith rheoleiddio newydd, ond byddai'n hoffi ei weld yn cychwyn yn llawn ym mlwyddyn academaidd 2016/17.