Cafodd Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 Gydsyniad Brenhinol ar 27 Hydref 2025, gan ddod â newidiadau mawr i'r sector rhentu preifat yn Lloegr.
Ar ôl 1 Mai 2026, pan fydd darpariaethau allweddol yn y Ddeddf yn dod i rym, Cymru fydd yr unig genedl ym Mhrydain Fawr lle mae gan landlordiaid preifat y pŵer i droi tenantiaid allan heb roi rheswm (a elwir yn gyffredin yn 'droi allan heb fai'/’no-fault evictions’).
Fodd bynnag, Cymru sy'n parhau i fod â’r cyfnod rhybudd troi allan hiraf o unrhyw genedl yn y DU, gan fod yn rhaid i landlordiaid roi chwe mis o rybudd cyn dechrau cymryd meddiant o dan y sail ‘heb fai’.
Mae'r Ddeddf yn dod â newidiadau eraill i Loegr. Mae'n cryfhau gorfodi yn erbyn codiadau rhent uwchlaw'r farchnad, yn cyflwyno safonau tai newydd, ac yn creu gwasanaeth am ddim ar gyfer datrys cwynion tenantiaid.
Bydd rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf yn dod i rym yng Nghymru, gan wahardd rhai mathau o wahaniaethu yn erbyn darpar denantiaid sy'n chwilio am gartref.
Mae'r erthygl hon yn nodi elfennau allweddol cyfundrefn sector rhentu preifat Cymru ac yn eu cymharu â'r darpariaethau ar gyfer Lloegr yn y Ddeddf Hawliau Rhentwyr, er mwyn dangos sut mae'r ddwy genedl yn mynd ar drywydd gwahanol.
Pa mor ddiogel fydd tenantiaethau preifat Cymru o'u cymharu â thenantiaethau preifat Lloegr?
Yng Nghymru a Lloegr mae'r broses o droi tenant allan yn dechrau gyda'r landlord yn cyflwyno cyfnod rhybudd. Ar ôl i'r cyfnod rhybudd ddod i ben, gall y landlord wneud cais am orchymyn meddiant gan y llys.
Mae fframwaith deddfwriaethol Rhentu Cartrefi Cymru yn rhoi i denantiaid (a elwir yn 'ddeiliaid contract' yng Nghymru) isafswm o 12 mis o ddiogelwch deiliadaeth os nad ydyn nhw'n torri unrhyw delerau yn eu contract. Mae hyn oherwydd y cyfnod rhybudd ‘heb fai’ o chwe mis, ynghyd â gwaharddiad cychwynnol o chwe mis ar landlordiaid yn rhoi rhybudd.
Gall contractau safonol Cymru fod yn rhai cyfnodol neu’n rhai tymor penodol. Yn Lloegr bydd y Ddeddf newydd yn dod â thenantiaethau sector rhentu preifat tymor penodol i ben. O ddyddiad cychwyn y Ddeddf, bydd pob tenantiaeth yn y sector rhentu preifat yn dod yn gyfnodol, a elwir yn 'denantiaethau sicr' (yn hytrach na'r 'tenantiaeth fyrddaliol sicr' ar hyn o bryd).
Ystyr hyn yw y bydd tenant yn Lloegr yn gallu symud allan ar unrhyw adeg gyda rhybudd o ddau fis, ond dim ond os gall y landlord ddarparu tystiolaeth bod y troi allan yn gyfiawn y bydd landlord yn gallu troi tenant allan.
Os ydyn nhw'n bwriadu gwerthu'r eiddo, byw ynddo eu hunain, neu ganiatáu i aelod o'r teulu fyw yno, rhaid i'r landlord roi rhybudd o bedwar mis i'r tenant. Ni ellir defnyddio'r seiliau newydd hyn yn ystod 12 mis cyntaf y denantiaeth.
Mae hyn yn gwarantu o leiaf 16 mis o ddiogelwch deiliadaeth i denantiaid yn Lloegr, o'i gymharu â 12 mis yng Nghymru. Ac yn wahanol i Gymru, rhaid cefnogi'r meddiant â thystiolaeth, gyda chosbau am gamddefnyddio.
Os yw tenantiaid ar ei hôl hi o ddifrif o ran talu eu rhent, gall landlordiaid yng Nghymru a Lloegr gael meddiant yn gyflymach, ond gyda rhai gwahaniaethau:
- Yng Nghymru, gall landlordiaid roi rhybudd os oes gan deiliad contract ôl-ddyledion o ddau fis neu fwy. Y cyfnod rhybudd yw 14 diwrnod.
- Yn Lloegr, mae'r Ddeddf yn codi'r lefel ôl-ddyledion gofynnol i dri mis o rent, ac yn cynyddu'r cyfnod rhybudd i bedair wythnos. Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd hyn yn rhoi mwy o le i denantiaid anadlu.
Beth am gynnydd mewn rhent?
Mae rheoli rhent wedi bod yn fater dadleuol yn ystod y Chweched Senedd.
O dan Gytundeb Cydweithio 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn a fyddai’n cynnwys ystyried ffyrdd o reoleiddio rhenti. Fodd bynnag, yn y Papur Gwyn, a gyhoeddwyd yn 2024, dywedwyd nad oedd Llywodraeth Cymru yn cynnig rheoleiddio rhenti.
Clywodd ymchwiliad 2023 y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y sector rhentu preifat safbwyntiau cryf o blaid ac yn erbyn.
Yng Nghymru, mae cynnydd rhent wedi'i gyfyngu i unwaith y flwyddyn gyda rhybudd o ddau fis. Yn Lloegr, mae'r Ddeddf yn sefydlu'r un terfynau.
Fodd bynnag, bydd gwahaniaeth yng ngallu tenantiaid i herio codiadau rhent uwchlaw'r farchnad.
Yn Lloegr byddant yn gallu mynd i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo). Gall y Tribiwnlys ostwng y rhent i lefelau’r farchnad, ond ni chaiff gynyddu’r rhent uwchlaw’r hyn y gofynnodd y landlord amdano.
Yng Nghymru, dim ond deiliaid contract y mae eu contractau yn dyddio o cyn 1 Rhagfyr 2022 all herio codiadau rhent trwy'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Ond gall fod risg i hyn oherwydd bod gan y Tribiwnlys y pŵer i godi rhenti uwchlaw'r hyn y gofynnodd y landlord amdano. Mae'r risg o gael eich troi allan heb fai yn ffactor arall, yn ôl Shelter Cymru a Cyngor ar Bopeth.
Nid oes gan ddeiliaid contractau y dechreuodd eu contractau ar ôl 1 Rhagfyr 2022 allu cyfreithiol i herio cynnydd rhent.
Gwahaniaethau allweddol eraill
|
Lloegr |
Cymru |
|
|---|---|---|
|
Rhent ymlaen llaw |
Bydd rhent ymlaen llaw yn gyfyngedig i rent mis cyn i'r rhan fwyaf o denantiaethau ddechrau. |
Dim cyfyngiadau ar rent ymlaen llaw. |
|
Cynnig am rhent |
Bydd y Ddeddf yn gwahardd cynnig am rent. Bydd lefelau rhent yn gyfyngedig i'r rhent a hysbysebir. |
Dim cyfyngiadau ar gynigion rhent. |
|
Ombwdsmon y Sector Rhentu Preifat |
Mae’r Ddeddf yn creu gwasanaeth am ddim i ddatrys cwynion tenantiaid am eu landlordiaid. |
Ar gyfer Lloegr yn unig y bydd Ombwdsmon y Sector Rhentu Preifat. Nid oes rhywbeth cyfatebol yng Nghymru. |
|
Cronfa ddata'r sector rhentu preifat |
Bydd rhaid i landlordiaid eu cofrestru eu hunain a'u heiddo. |
Rhaid i landlordiaid gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a bod wedi’u trwyddedu os ydynt yn rheoli eiddo. Rhaid i landlordiaid hefyd gofrestru pob eiddo. |
|
Anifeiliaid anwes |
Bydd y Ddeddf yn gwahardd landlordiaid rhag gwrthod caniatâd i gadw anifeiliaid anwes yn afresymol. Gall tenantiaid herio drwy Ombwdsmon y sector rhentu preifat neu'r llys. Cafodd cymal sy'n caniatáu i landlordiaid ei gwneud yn ofynnol i denantiaid gael yswiriant difrod anifeiliaid anwes ei ollwng. |
Gall landlordiaid a deiliaid contractau gytuno ar delerau ychwanegol sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. Dylai unrhyw gymal sy’n ymwneud ag anifeiliaid anwes ganiatáu i ddeiliad contract ofyn caniatâd i gadw anifail anwes, ac ni chaiff y landlord wrthod y cais yn afresymol. Gall deiliaid contractau herio drwy'r llys, ond gallant hefyd fod mewn perygl o gael eu troi allan heb fai. |
|
Gwahaniaethu o ran rhentu |
Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, i landlordiaid wahaniaethu yn erbyn darpar denantiaid y byddai plant yn byw gyda nhw/ymweld â nhw, neu sy'n cael budd-daliadau. |
Mae'r Ddeddf yn cymhwyso darpariaethau gwahaniaethu tebyg i Gymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu a gwahardd arferion rhentu gwahaniaethol eraill. |
|
Safonau a gorfodi |
Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno'r Safon Cartrefi Gweddus i'r rhan fwyaf o eiddo yn y sector rhentu preifat preswyl. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno Cyfraith Awaab, sy'n berthnasol ar hyn o bryd i dai cymdeithasol yn Lloegr, i'r sector rhentu preifat. Bydd hyn yn gofyn am ymatebion cyflym i beryglon sylweddol ac atgyweiriadau brys. |
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu cyflwyno Safon Ansawdd Tai Cymru i'r sector rhentu preifat yn y dyfodol. Dim ond yn Lloegr y mae Cyfraith Awaab yn berthnasol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynnwys safonau perfformiad ar gyfer ymateb i adroddiadau am beryglon difrifol yn Safon Ansawdd Tai Cymru. |
Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru