Beth yw'r opsiynau i fyfyrwyr sy’n ymadael â’r ysgol a'r coleg?

Cyhoeddwyd 27/08/2024   |   Amser darllen munudau

Gall gorffen yr ysgol neu’r coleg fod yn gyfnod cyffrous ond brawychus ym mywyd person ifanc. Er bod llawer o opsiynau ar gael iddynt, gall fod yn gymhleth eu llywio. Mae’r erthygl hon yn nodi rhai o'r opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc wrth ymadael â’r ysgol neu'r coleg, yn edrych ar yr hyn y mae pobl ifanc yn dewis ei wneud, ac yn eu cyfeirio at ragor o gyngor.

Y Warant i Bobl Ifanc

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed, sy’n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i ddod o hyd i waith neu ddod yn hunangyflogedig. Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn strwythur mantell ac mae’n cynnwys nifer o opsiynau, gan gynnwys:

  • Prentisiaethau drwy’r rhaglen brentisiaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r costau hyfforddiant, ac mae’r cyflogwr yn talu cyflogau’r prentisiaid;
  • Mae Syniadau Mawr Cymru, yn helpu pobl dan 25 oed i ddechrau eu busnes eu hunain;
  • Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu cyngor cyflogaeth arbenigol i bobl dros 20 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sydd â rhwystr cymhleth i gyflogaeth;
  • Addysg bellach mewn chweched dosbarth neu goleg;
  • Addysg uwch mewn prifysgol;
  • Mae Twf Swyddi Cymru+ yn darparu sgiliau, cymwysterau a phrofiad i bobl rhwng 16 a 19 oed er mwyn cael swydd neu hyfforddiant pellach. Fel rhan o'r rhaglen, mae pobl ifanc yn cael lwfans hyfforddiant wythnosol gan ddibynnu ar yr oriau o hyfforddiant y maent yn ei wneud a'r llinyn y maent arno;
  • Mae ReAct+ yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i bobl dros 20 oed y mae eu swyddi wedi’u dileu’n ddiweddar, neu sy’n gyn-droseddwr neu’n droseddwr sy’n bwrw dedfryd gymunedol.

Beth y mae pobl ifanc yn dewis ei wneud?

Bob blwyddyn, mae Gyrfa Cymru yn llunio arolwg o ymadawyr ysgol ac yn cyhoeddi cyrchfannau disgyblion. Cyrchfan disgybl yw ei weithgaredd hysbys ym mis Hydref ar ôl ymadael y flwyddyn ysgol honno. Mae’r data a gesglir yn cynnwys disgyblion sy’n ymadael â blwyddyn 11 a disgyblion sy'n ymadael â blynyddoedd 12 a 13 yn y chweched dosbarth mewn ysgolion, felly nid yw’n cynnwys y rhai sy’n mynd i golegau addysg bellach.

Mae graff 1 isod yn dangos ffigurau cyffredinol carfan blwyddyn 11 2022-23 mewn ymateb i’r arolwg.

Mae Graff 1 yn dangos cyrchfannau disgyblion blwyddyn 11 a ymadawodd â’r ysgol yn y flwyddyn 2022-23. Dyma’r niferoedd:  Parhau ag addysg ran-amser: 	159; Wedi gadael yr ardal	: 173; Dim ymateb i'r arolwg: 	398; Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant	: 670; Hyfforddiant seiliedig ar waith - statws cyflogedig	: 725; Cyflogedig: 	1,066; Hyfforddiant seiliedig ar waith - statws anghyflogedig: 	1,205; Parhau ag addysg amser llawn yn yr ysgol : 11,256; Parhau mewn addysg amser llawn yn y coleg: 17,458.

Ffynhonnell: Gyrfa Cymru, Hynt Disgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru 2023

Roedd 33,110 o ddisgyblion yng ngharfan blwyddyn 11 yn 2022-23. Aeth 93 y cant o'r garfan i addysg amser llawn neu ran-amser neu hyfforddiant yn y gwaith. Parhaodd 28,714 o ddisgyblion (86.7 y cant) ag addysg amser llawn, gydag 11,256 (39.2 y cant) ohonynt yn parhau ag addysg yn chweched dosbarth eu hysgol ac aeth 17,458 (60.8 y cant) i goleg addysg bellach. Aeth 1,930 o ddisgyblion i hyfforddiant seiliedig ar waith a dechreuodd 1,066 o ddisgyblion gyflogaeth.

Mae graff 2 isod yn dangos ffigurau cyffredinol carfan blwyddyn 13 2022-23 mewn ymateb i’r arolwg.

Mae Graff 2 yn dangos cyrchfannau disgyblion blwyddyn 13 a ymadawodd â chweched dosbarth yr ysgol yn y flwyddyn 2022-23. Dyma’r niferoedd: Wedi gadael yr ardal: 	26; Hyfforddiant seiliedig ar waith - statws anghyflogedig	: 30; Parhau ag addysg ran-amser: 	40; Cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda’r bwriad o fynd i AU: 	81; Hyfforddiant seiliedig ar waith - statws cyflogedig	: 345; Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: 	375; Dim ymateb i'r arolwg: 	408; Parhau ag addysg amser llawn ym mlwyddyn 14 mewn ysgol	: 448; Parhau ag addysg amser llawn yn y coleg	: 619; Cyflogedig	: 1,346; Parhau ag addysg amser llawn mewn addysg uwch: 6,665

 

Ffynhonnell: Gyrfa Cymru, Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2023

Roedd 10,383 o ddisgyblion yn ail flwyddyn chweched dosbarth ysgol a gwblhaodd flwyddyn 13 yn 2022-23. Parhaodd 79.2 y cant o'r garfan i ddysgu ym myd addysg neu aethant i hyfforddiant seiliedig ar waith. Parhaodd 7,813 ag addysg amser llawn, yr aeth 6,665 (85.3 y cant) ohonynt i addysg uwch, 619 (7.9 y cant) i golegau addysg bellach, 448 (5.7 y cant) i flwyddyn 14 mewn lleoliad ysgol, ac roedd 81 (1 y cant) yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda’r bwriad o fynd i addysg uwch (AU). Aeth 375 o ddisgyblion i hyfforddiant seiliedig ar waith a dechreuodd 1,346 gyflogaeth.

Cael cyngor

Mae gan wefan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth i bobl ifanc, rhieni neu ofalwyr, athrawon a chyflogwyr. Mae nifer o ffyrdd o gysylltu i drafod opsiynau ar ôl ymadael a’r ysgol neu’r coleg, gan gynnwys apwyntiadau wyneb yn wyneb neu sgyrsiau ar-lein.

Mae gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu gwybodaeth am y cymorth ariannol a all fod ar gael i bobl ifanc sy’n parhau ag addysg bellach ac uwch. Mae hyn yn cynnwys y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) i bobl 16-18 oed a benthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer astudio yn y brifysgol.

Gall rhiant neu ofalwr sy’n cael budd-dal plant barhau i’w gael ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed os yw’n parhau i fod mewn addysg a hyfforddiant. Mae rhaid dweud wrth CThEF neu bydd y budd-dal yn dod i ben. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar y cymorth cyllid i fyfyrwyr sydd ar gael ar gyfer addysg bellach, ac addysg uwch ar y lefelau is-raddedig ac ôl-raddedig.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru