Rydym wedi llunio rhestr o'r dyddiadau allweddol yn y cyfnod cyn ac ar ôl etholiad y Senedd sydd ar ddod. Byddwn yn diweddaru'r amserlen hon gyda dyddiadau eraill (megis y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio) wrth iddynt gael eu cadarnhau.
Mae llawer o'r wybodaeth hon wedi'i nodi yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, a adwaenir fel y Gorchymyn Cynnal Etholiadau, a Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
27 Mawrth 2026
Diwrnod olaf busnes y Senedd.
30 Mawrth 2026
Dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi hysbysiad ynghylch etholiad, i gynnwys dyddiad y bleidlais a'r dyddiad cau ar gyfer papurau enwebu.
8 Ebrill 2026
Diddymu'r Senedd.
4pm ar 9 Ebrill 2026
Dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr.
4pm ar 10 Ebrill 2026
Dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi datganiadau'r personau a enwebwyd.
7 Mai 2026, rhwng 7am a 10pm
Dyddiad y bleidlais.
28 Mai 2026
Dyddiad cau ar gyfer cyfarfod cyntaf y Seithfed Senedd.
Cânt eu hethol yng nghyfarfod cyntaf y Seithfed Senedd
Enwebu’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd.
4 Mehefin 2026
Dyddiad cau ar gyfer enwebu’r Prif Weinidog.
Erthygl gan Adam Cooke a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.