Cyhoeddwyd 17/12/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
17 Rhagfyr 2015
Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4397" align="alignright" width="350"]

Llun o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Mae ffrwythloni in vitro (IVF) yn dechneg beichiogi â chymorth a all helpu rhai sydd â phroblemau ffrwythlondeb i gael babi.
Mae IVF yn golygu tynnu'r wyau o'r ofarïau a'u ffrwythloni gyda sberm mewn labordy. Yna mae un neu fwy o wyau sydd wedi'u ffrwythloni, neu embryonau, yn cael eu rhoi yng nghroth y fenyw i dyfu a datblygu. Mae 'in vitro' yn cyfeirio at y cynhwysydd gwydr yn y labordy lle mae ffrwythloni yn digwydd - dyna pam y defnyddir y term 'babi tiwb prawf'.
Mae'r GIG yn ariannu rhywfaint o driniaeth IVF i gleifion cymwys ac mae'r blog hwn yn ymwneud â'r driniaeth IVF honno a ariennir gan y GIG. Mae gan gleifion nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG, neu sy'n bwriadu talu am eu triniaeth eu hunain, y dewis o gysylltu â chlinigau ffrwythlondeb preifat.
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd
yn adrodd bod anffrwythlondeb ar hyn o bryd yn effeithio ar tua un o bob chwech o gyplau, ac amcangyfrifir bod un o bob tri sberm sy'n cael eu chwistrellu ar hyn o bryd yn ystod IVF yn methu ag ysgogi'r wy.
Mae'r tair blynedd diwethaf wedi gweld cynnydd bob blwyddyn yn nifer y cleifion sy'n cael triniaeth IVF ar y GIG yng Nghymru.
Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015 gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, mewn ymateb i
gwestiwn ysgrifenedig gan Darren Millar, mae nifer y cleifion sy'n cael y cylch cyntaf a'r ail gylch o driniaeth IVF yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol ers 2012/13.
Canllawiau NICE
Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE)
ganllawiau wedi'u diweddaru ym mis Chwefror 2013 i'r GIG ar asesu a thrin pobl â phroblemau ffrwythlondeb.
Mae'r canllawiau yn nodi y gall cyplau fod yn gymwys ar gyfer
hyd at dri chylch o driniaeth IVF ar y GIG os:
- yw'r fenyw o dan 40 oed ar adeg y driniaeth; ac
- nid yw wedi beichiogi ar ôl dwy flynedd o gyfathrach rywiol reolaidd heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu.
Os bydd y ferch yn cyrraedd 40 oed yn ystod y driniaeth, bydd y cylch presennol yn cael ei gwblhau, ond ni fydd unrhyw gylchoedd pellach yn cael eu cynnig.
At hynny, mae'r canllawiau newydd a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2013
yn ymestyn ystod oedran y menywod y gellid cynnig triniaeth ffrwythlondeb iddynt. Os nad yw menyw rhwng
40-42 oed wedi beichiogi ar ôl dwy flynedd o gyfathrach rywiol reolaidd heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu, bydd yn cael cynnig un cylch llawn o IVF, ar yr amod bod y tri maen prawf canlynol yn cael eu bodloni:
- nid yw erioed wedi cael triniaeth IVF yn y gorffennol.
- nid oes unrhyw dystiolaeth o nifer isel o wyau yn yr ofarïau.
- cafwyd trafodaeth am oblygiadau ychwanegol IVF a beichiogrwydd yn yr oedran hwn.
Meini prawf cymdeithasol
Mae'r canllawiau NICE yn cynnwys meini prawf clinigol yn unig, ac mae Gweithgor Beichiogi â Chymorth Cymru Gyfan wedi ystyried ac wedi datblygu meini prawf cymdeithasol ychwanegol. Cafodd y meini prawf mynediad ar gyfer IVF yng Nghymru eu rhoi yn eu lle ym mis Gorffennaf 2005, gyda'r nod o sicrhau gwasanaeth teg a chyson ar draws Cymru. Mae
polisi comisiynu wedi'i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau ffrwythlondeb arbenigol wedi'i gyhoeddi gan y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ym mis Hydref 2015. Mae hwn yn nodi'r meini prawf llawn ar gyfer mynediad i wasanaethau ffrwythlondeb arbenigol a ariennir gan y GIG yng Nghymru a'r rhesymeg y tu ôl i'r meini prawf hyn. Mae menywod cymwys yng Nghymru yn cael cynnig
hyd at ddau gylch o driniaeth IVF ar y GIG yng Nghymru.
Mae'r meini prawf mynediad yn cynnwys yr elfennau hyn:
- Oed y fenyw: Mae gan fenywod sy'n iau na 40 sy'n bodloni'r meini prawf mynediad yr hawl i ddau gylch o driniaeth IVF. Mae gan fenywod 40-42 oed sy'n bodloni'r meini prawf mynediad yr hawl i un cylch o driniaeth IVF, ar yr amod eu bod yn bodloni'r tri maen prawf ychwanegol ar gyfer menywod hŷn a restrir uchod.
- Plant sydd eisoes yn bodoli: Ar gyfer cyplau, nid oes ganddynt unrhyw blant byw (biolegol neu a fabwysiadwyd) gyda'i gilydd, neu lle nad oes gan un partner unrhyw blant byw (biolegol neu a fabwysiadwyd). Ar gyfer cleifion sengl, nad yw'r fenyw/dyn erioed wedi cael plentyn biolegol neu wedi mabwysiadu plentyn;
- Màs y corff: Mae'n rhaid bod gan y cleifion fynegai mas y corff rhwng 19 - 30. Ni fydd cleifion y tu allan i'r amrediad hwn yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros;
- Sterileiddio: Nid yw ffrwythlondeb isel yn ganlyniad i weithdrefn sterileiddio.
- Smygu Pan fydd claf yn ysmygu, dim ond cleifion sy'n cytuno i gymryd rhan mewn rhaglen a gefnogir i roi'r gorau i smygu fydd yn cael eu derbyn ar y rhestr aros ar gyfer triniaeth IVF a rhaid nad ydynt yn smygu ar adeg y driniaeth;
- Hanes triniaeth flaenorol: Ar gyfer cleifion sengl, bydd tri neu fwy o gylchoedd IVF gan y claf yn eithrio unrhyw driniaeth IVF bellach ar y GIG. Ar gyfer cleifion sengl, bydd tri neu fwy o gylchoedd IVF gan y claf yn eithrio unrhyw driniaeth IVF bellach ar y GIG.
- Ffrwythlondeb isel: Rhaid dangos ffrwythlondeb isel cyn y gellir cael mynediad i driniaeth IVF a ariennir gan y GIG. Mae ffrwythlondeb isel i gyplau heterorywiol yn cael ei ddiffinio fel yr anallu i feichiogi ar ôl 2 flynedd o gyfathrach rywiol heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu neu broblem ffrwythlondeb sy'n dod i'r amlwg wrth ymchwilio. Mae ffrwythlondeb isel i gyplau o'r un rhyw neu gleifion sengl yn cael ei ddiffinio fel dim genedigaeth fyw ar ôl semenu ar neu ychydig cyn yr amser ofylu hysbys ar o leiaf chwe chylch heb gael eu hysgogi neu broblem ffrwythlondeb sy'n dod i'r amlwg wrth ymchwilio.
- HEFA: Bydd cleifion nad ydynt yn cydymffurfio â Chod Ymarfer yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol (HFEA) yn cael eu heithrio rhag cael mynediad at driniaeth ffrwythlondeb â chymorth wedi'i hariannu gan y GIG.
Rhaid i gleifion fodloni
holl elfennau'r meini prawf mynediad i fod yn gymwys i gael triniaeth, er y gallai achosion eithriadol sydd y tu allan i'r meini prawf gael eu cyfeirio at banel i'w hadolygu.