Cyhoeddwyd 21/04/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
21 Ebrill 2015
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru
Mae cyfeiriad polisi clir i'w weld yng Nghymru i newid ffocws y ddarpariaeth iechyd er mwyn canolbwyntio ar wasanaethau gofal sylfaenol cymunedol yn hytrach na lleoliadau (gofal eilaidd) mewn ysbytai. Yn y gorffennol, roedd y ffocws ar drin salwch, ond mae llawer mwy o bwyslais bellach ar rôl y GIG o ran atal salwch ac ymyrraeth gynnar.
[caption id="attachment_2790" align="alignright" width="300"]
Llun o Flickr gan Connor Tarter. Trwydded Creative Commons[/caption]
Yn ei
chynllun newydd ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018 (Tachwedd 2014), mae Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn gwireddu'r uchelgais sydd wedi bod ganddi ers amser, sef sicrhau mai gofal sylfaenol yw 'pwerdy' GIG Cymru. Dyma rai o elfennau allweddol y cynllun:
- Perthynas o 'gydgynhyrchu' rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol.
- Gweithlu amlddisgyblaethol sydd wedi'i ailstrwythuro.
- Datblygu 'clystyrau' gofal sylfaenol ymhellach (grwpiau o feddygfeydd sy'n cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill yn y gymuned) i ategu gwaith cynllunio lleol a'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
- Defnyddio TGCh yn fwy i wella mynediad at ofal iechyd.
- Mynd i'r afael â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal (pan fo pobl mewn cymunedau mwy difreintiedig yn llai tebygol o gael mynediad at ofal sylfaenol, er eu bod yn debygol o fod mewn mwy o angen) a sicrhau mynediad teg at ofal sylfaenol, gan gynnwys gwella mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Arweinyddiaeth mwy cadarn, gan gynnwys penodi arweinydd proffesiynol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol.
Gweithlu
Yn ddiweddar,
tynnodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad sylw at bryderon am gynaliadwyedd y gweithlu meddygon teulu ar ôl clywed tystiolaeth a oedd yn sôn am anhawsterau wrth recriwtio a chadw meddygon teulu, ynghyd â galw cynyddol am wasanaethau.
Mae cynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru yn galw am ailstrwythuro'r gweithlu. Bydd meddygon teulu yn parhau i chware rôl ganolog, ond bydd y rôl honno'n canolbwyntio fwyfwy ar arwain timau amlddisgyblaethol. Dyma a
ddywedodd y Gweinidog Iechyd:
Wrth i ni ailgynllunio'r gweithlu yng Nghymru, rhaid i ni ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus. Ni ddylai unrhyw feddyg teulu fod yn gwneud unrhyw waith yn rheolaidd a allai gael ei wneud yr un mor briodol gan nyrs practis, fferyllydd clinigol neu uwch-ymarferydd parafeddygol.
Rhagwelir rolau newydd neu estynedig i’r gweithlu, yn ogystal â mwy o gyfleoedd ar gyfer ymarfer uwch.
Mae'r cynllun gofal sylfaenol yn disgrifio dull sy'n canolbwyntio ar unigolion, lle y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u cydgysylltu gan ymateb i anghenion unigolion, yn hytrach na dilyn llwybr gofal mwy traddodiadol sy'n benodol i'r salwch.
Er mwyn darparu mwy o ofal yn nes at gartrefi'r cleifion, mae'n glir y bydd angen i weithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid ym maes gofal cymdeithasol a'r trydydd sector weithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, yn enwedig o gofio'r boblogaeth sy'n heneiddio a'r angen i reoli nifer uwch o gleifion â chyflyrau hirdymor ac afiechydon amrywiol. Pwysleisiwyd yr angen am system ofal iechyd a chymdeithasol integredig yn
Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru ym mis Medi 2014, a oedd yn awgrymu model i'r dyfodol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru.
Ym mis Ebrill 2015, cyhoeddwyd
adolygiad o fuddsoddi mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru ar gyfer ymgynghoriad. Mae'r adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion i ategu'r gwaith o ddarparu gweithlu'r GIG yn y dyfodol, gan gynnwys gweledigaeth strategol newydd i GIG Cymru sy'n seiliedig ar yr agenda gofal iechyd darbodus, a sefydlu un corff ar gyfer cynllunio'r gweithlu, a chomisiynu addysg. Bydd
cynllun gweithlu gofal sylfaenol cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu, yn ystyried argymhellion yr adolygiad. Bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol yn y gymuned, ac yn anelu at lywio'r gwaith o integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol ac ategu'r gwaith o ddarparu 'gwasanaeth lleol di-dor'.
Cyllid
Mae'r cynllun gofal sylfaenol yn dangos bod buddsoddiad mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu'n raddol dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, er bod gwariant wedi cynyddu (ar ymarfer cyffredinol, er enghraifft), mewn gwirionedd, roedd y gwariant hwn yn ostyngiad o'i ystyried fel cyfran o gyfanswm cyllideb y GIG, a gwelwyd yr un duedd ledled y DU. Mynegwyd pryderon na fydd modd newid y ffocws o leoliadau eilaidd i ofal sylfaenol yn ystod y fath gyfnod o danfuddsoddi.
Ym mis Ionawr 2015,
cyhoeddodd y Gweinidog gronfa gofal sylfaenol gwerth £10 miliwn ar gyfer 2015-16. Dyrannwyd £6 miliwn o'r arian hwn i'r 64 o glystyrau gofal sylfaenol ledled Cymru i gynllunio blaenoriaethau lleol a'u rhoi ar waith, gyda'r gweddill yn mynd i gynlluniau braenaru a phrosiectau unigol.
Mewn
diweddariad ynghylch Law yn Llaw at Iechyd, mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud y bydd £50 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer y GIG yn 2015-16 yn hwb uniongyrchol i'r gwaith o ddarparu'r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun gofal sylfaenol, gan gynnwys gwella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldeb ym maes iechyd a gwella mynediad at system gofal iechyd a chymdeithasol integredig ac ataliol.
Mae'r Gweinidog yn dweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu'n galetach dros y flwyddyn ddiwethaf i ddefnyddio dull ataliol sy'n seiliedig ar ofal sylfaenol a chymunedol, sydd wedi'i integreiddio â gofal cymdeithasol i sicrhau cymaint o ofal â phosibl yn nes at gartrefi cleifion.
Amser a ddengys i ba raddau y bydd yr ymdrechion hyn yn cyflawni nod Llywodraeth Cymru o drawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd yng Nghymru - gan sicrhau mai gofal sylfaenol yw pwerdy'r GIG.