Mae Bil Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2021, yn un o’r Biliau ar ôl Brexit sydd yn mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae Pwyllgorau’r Senedd wedi bod yn craffu ar ddarpariaethau’r Bil mewn meysydd datganoledig fel rhan o’r broses Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn rhagweld y gall y Bil “gael effaith niweidiol ar ddatganoli”. Ond beth mae’r Bil yn ei wneud a beth mae'n ei olygu i Gymru?
Beth yw rheoli cymorthdaliadau, a pham mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth newydd?
Ystyr cymhorthdal yw pan fydd awdurdod cyhoeddus – fel Llywodraeth Cymru neu awdurdod lleol – yn rhoi cymorth ariannol i fusnes, neu sefydliad arall, a all roi mantais iddynt dros gystadleuwyr. Gall hyn fod ar ffurf grant, arbedion treth, benthyciad neu fath arall o gymorth ariannol.
Fel aelod o’r UE, roedd y DU yn ddarostyngedig i reolau’r UE ar gymorthdaliadau (a elwir hefyd yn ‘gymorth gwladwriaethol’) a oedd yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU a’r UE sefydlu eu system annibynnol eu hunain o reoli cymorthdaliadau. O ganlyniad, mae Llywodraeth y DU wedi datblygu cynigion drwy’r Bil Rheoli Cymorthdaliadau.
Beth mae’r Bil yn ei wneud a beth yw ei ddarpariaethau allweddol?
Mae’r Bil yn nodi sut y bydd y DU yn disodli rheolau cymorth gwladwriaethol drwy greu fframwaith cyfreithiol a nodi amodau lle gall awdurdodau cyhoeddus ddarparu cymorthdaliadau i fusnesau.
Mae’r Bil yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried saith egwyddor rheoli cymorthdaliadau cyn rhoi cymhorthdal, fel y nodir yn Atodlen 1 y Bil, a sicrhau bod unrhyw gymhorthdal y mae’n ei ddyfarnu yn gyson â’r rhain. Mae naw o egwyddorion ychwanegol hefyd yn gymwys i gategorïau penodol o gymorthdaliadau ynni ac amgylcheddol (a nodir yn Atodlen 2 o’r Bil).
Mae'r Bil hefyd yn creu'r Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau o fewn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Bydd yr Uned hon yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar sut mae’r gyfundrefn gymorthdaliadau yn gweithio yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â chynghori awdurdodau cyhoeddus ar eu cymhwysiad o’r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau.
Ymhlith y darpariaethau eraill yn y Bil, mae:
- Eithriadau penodol i gymorthdaliadau risg isel o’r prif ofynion rheoli cymorthdaliadau;
- Creu ‘cynlluniau cymhorthdal syml’ a fydd yn caniatáu i Lywodraeth y DU wneud darpariaethau i ganiatáu i awdurdodau cyhoeddus roi cymorthdaliadau risg is yn gynt ac yn haws;
- Gwahardd cymorthdaliadau penodol gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU neu a all gael effeithiau economaidd gorystumiol neu niweidiol.
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil?
Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru wedi dadlau yn 2019 bod rheoli cymorthdaliadau yn fater wedi’i ddatganoli, er bod Llywodraeth y DU o’r farn ei fod yn fater a gedwir yn ôl. Roedd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 yn dileu unrhyw amwysedd trwy gadw’r gallu unigryw i ddeddfu ar gyfer cyfundrefn rheoli cymorthdaliadau yn ôl i Senedd y DU.
O ran y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud: “Ni fyddwn yn gallu argymell i'r Senedd ei bod yn rhoi cydsyniad i’r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd.” Nid yw Llywodraeth Cymru “yn derbyn y bydd y mesurau a gynigir yn y Bil yn rheoleiddio'r ddarpariaeth o gymorthdaliadau'n ddigonol yn y DU.” Mae’n dadlau nad yw’r Bil wedi ystyried ei phryderon. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bu’n ymgysylltu’n rheolaidd â llywodraethau datganoledig ar y Bil, ond bod rheoli cymorthdaliadau yn fater a gedwir yn ôl, a bydd yn gweithredu er budd pob rhan o’r DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn beirniadu rhoi “pwerau eang” i’r Ysgrifennydd Gwladol i lunio’r gyfundrefn yn y dyfodol “heb fawr ddim craffu gan Senedd y DU a dim craffu ar gael i Weinidogion Cymru na'r Senedd”. Mae hefyd yn credu y byddai pwerau eraill a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol yn y Bil o bosibl yn “tanseilio” pwerau y Senedd a Gweinidogion Cymru i weithredu mewn meysydd datganoledig fel datblygu economaidd, amaethyddiaeth a physgodfeydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio nifer o ddiwygiadau i'r Bil i fynd i’r afael â’u pryderon. Mae hyn yn cynnwys diwygiadau sydd â’r bwriad o wneud darpariaethau i ganiatáu i Weinidogion Cymru gynnig cynlluniau cymhorthdal syml a darpariaethau i “leihau’r gwahaniaeth pŵer sydd yn y Bil ar hyn o bryd”. Nid oes unrhyw welliannau anllywodraethol wedi’u gwneud i’r Bil hyd yn hyn.
Beth mae'r Senedd a llywodraethau eraill y DU wedi'i ddweud am y Bil?
Mae dau o Bwyllgorau’r Senedd wedi craffu ar y Bil – Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Daeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i'r casgliad “nad oes digon o fanylder” ynglŷn â sut y gallai'r Bil weithio'n ymarferol, sy’n “atal unrhyw asesiad ystyrlon o'r effaith bosibl ar Gymru”.
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol, gan ganfod y gallai’r cynigion gael “effaith niweidiol ar ddatganoli”, ac na fu gwaith ymgysylltu boddhaol â Llywodraeth Cymru yn y broses o’u datblygu. Mynegodd bryderon am oblygiadau cyfansoddiadol y Bil. Un mater penodol oedd y potensial ar gyfer adolygiad barnwrol o’r ddeddfwriaeth ddatganoledig a nodir yn Atodlen 3 i’r Bil, pan nad yw’r un ddarpariaeth yn gymwys i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU.
Daeth Pwyllgor Economi a Gwaith Teg Senedd yr Alban (heb gynnwys ei Aelodau Ceidwadwyr yr Alban) i'r casgliad bod y Bil yn rhoi pwerau sylweddol i Lywodraeth y DU, gan dorri ar draws y setliad datganoli, ac yn cyflwyno risg y bydd Gweinidogion y DU yn ymyrryd mewn meysydd datganoledig heb ymgynghori’n briodol a heb wybodaeth briodol am amgylchiadau lleol. Hefyd, cododd bryderon tebyg i’r rhai a nodwyd gan Bwyllgorau’r Senedd, gan nodi bod darpariaethau’r Bil yn cynnwys ‘anghymesuredd o ran pŵer’ rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.
Fe wnaeth Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ'r Arglwyddi ysgrifennu i Lywodraeth y DU yn gynharach y mis hwn yn nodi ei bryderon ynghylch sut mae'r Bil yn rhyngweithio â'r Fframweithiau Cyffredin y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig megis y rhai sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth a physgodfeydd. Dywedodd bod hyn yn fater difrifol iawn sy’n effeithio ar weithrediad yr Undeb. Gofynnodd i Lywodraeth y DU egluro sut na fydd y Bil yn bygwth gweithrediad y fframweithiau cyffredin. Adleisiwyd y pryder hwn gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol a thynnodd sylw’r Senedd at y materion hyn.
Beth sydd nesaf?
Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar gydsyniad deddfwriaethol ar 1 Mawrth, pan fydd y Senedd yn penderfynu a ddylid rhoi cydsyniad i'r elfennau datganoledig o’r Bil. Mae’r Bil yn destun craffu yn Nhŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd, ac mae wedi cyrraedd y cyfnod adrodd, sy’n caniatáu i Aelodau Tŷ’r Arglwyddi graffu ar y Bil a gwneud gwelliannau.
Gwnaed pump o welliannau gan Lywodraeth y DU i’r Bil yn ystod y gwaith craffu arno yn Nhŷ’r Cyffredin, a gwnaed pump yng nghyfnod y pwyllgorau yn Nhŷ’r Arglwyddi. Nid oes unrhyw welliannau anllywodraethol i’r Bil wedi’u pasio hyd yn hyn. Bydd rhagor o welliannau yn cael eu hystyried yng nghyfnodau’r Bil sydd i ddod yn Nhŷ’r Arglwyddi, cyn i’r Bil ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin. Gan ddibynnu ar ganlyniadau’r gwaith craffu pellach a’r gwelliannau a wneir i’r Bil, efallai y bydd rhagor o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Senedd eu hystyried yn y dyfodol.
Erthygl gan Gareth Thomas a Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru