Cyflwynwyd y Bil Deddfwriaeth (Cymru) ("Y Bil") yn y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2018. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Mae pedair rhan i'r Bil, gan gynnwys:
- Rhan 1 sy'n gosod dyletswyddau ar y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru sy'n ymwneud â hygyrchedd cyfraith Cymru; a
- Rhan 2 sy'n gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch dehongli a gweithredu'r Bil ei hun a deddfwriaeth Cymru a ddeddfir ar ôl i Ran 2 ddod i rym.
Pam mae'r Bil yn cael ei gyflwyno?
Mae cefndir y Bil wedi cynnwys nifer o ymchwiliadau ac ymgynghoriadau, gan gynnwys adroddiad Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad ar Ddeddfu yng Nghymru (Hydref 2015). Gwnaeth nifer o argymhellion yn ymwneud ag ansawdd, paratoi a chraffu ar ddeddfwriaeth. Yn benodol, argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer atgyfnerthu'r gyfraith yng Nghymru, a bod y Cwnsler Cyffredinol yn gweithio tuag at gynhyrchu Deddf Dehongli Cymru a fyddai ar wahân i Ddeddf Dehongli 1978 ("Deddf 1978") Senedd y DU.
Yn 2016 cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad, The Form and Accessibility of the Law Applicable in Wales. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn polisi atgyfnerthu a chyfundrefnu'r gyfraith yng Nghymru. Gwnaeth nifer o argymhellion yn ymwneud â'r broses o atgyfnerthu a chyfundrefnu, gan gynnwys y dylai fod yn ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol gyflwyno rhaglen gyfundrefnu ac adrodd ar gynnydd i'r Cynulliad.
Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith hefyd fod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad yn adolygu ac yn ystyried manteision ymarferol cyflwyno Deddf Dehongli Cymru, ac yn gwneud argymhellion pellach yn ymwneud ag ansawdd, cyhoeddi ac argaeledd deddfwriaeth.
Ar ôl hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen ymgynghori, Dehongli Deddfwriaeth Cymru: Ystyried Deddf Dehongli i Gymru, ym mis Mehefin 2017. Roedd yn ceisio barn ar y manteision o gael Deddf Dehongli Cymru ar wahân ac ar yr ymagwedd y dylai Deddf o'r fath ei chymryd. Dilynwyd hyn gan ail ymgynghoriad ar Fil Deddfwriaeth Drafft (Cymru) a oedd yn ceisio barn ar yr ymagwedd a gymerwyd yn y drafft. Ystyriwyd yr ymatebion i'r ddau ymgynghoriad wrth ddatblygu'r Bil i'w gyflwyno.
Beth yw nod y Bil?
Hygyrchedd cyfraith Cymru
Mae Adran 1 y Bil yn creu dyletswydd i barhau i adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru. Rhoddir y ddyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol. Mae'n debyg i, ac y bwriedir iddo ategu'r rhwymedigaeth, yn Neddf Comisiynau'r Gyfraith 1965, ar Gomisiwn y Gyfraith i barhau i adolygu'r gyfraith.
Mae'r Bil yn darparu diffiniad o "Gyfraith Cymru":
- Deddfau a Mesurau'r Cynulliad ac is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y rhain;
- is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu'r Cynulliad pan oedd ganddo bwerau gweithredol yn unig, i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru; a
- deddfwriaethau eraill neu reolau cyfraith gwlad y gall y Cynulliad eu diwygio neu eu hailddeddfu.
Mae Adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol i ddatblygu rhaglen weithredu a gynlluniwyd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ar gyfer pob tymor y Cynulliad. Dylai pob rhaglen wneud darpariaeth ar gyfer mesurau a fwriedir i atgyfnerthu a chyfundrefnu cyfraith Cymru, cynnal cyfraith wedi'i chyfundrefnu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
Mae'r i'r Bil yn darparu diffiniadau o atgyfnerthu a chyfundrefnu. Maent yn nodi y byddai atgyfnerthu'r gyfraith yn gyffredinol yn golygu dod â phob deddfwriaeth ar bwnc penodol at ei gilydd, gan ymgorffori'n well y gwelliannau a wnaed i ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei deddfu a moderneiddio'r iaith, yr arddull a'r strwythur drafftio. Daeth i'r casgliad a ganlyn:
Yng Nghymru, bydd cydgrynhoi’r gyfraith yn golygu gan amlaf ailddeddfu cyfreithiau a wnaed gan Senedd y Deyrnas Unedig yn flaenorol, a gwneud hyn yn ddwyieithog.
Bwriedir i'r broses o gyfundrefnu'r gyfraith ddod â threfn i'r llyfr statud. Mae hyn yn golygu trefnu a chyhoeddi'r gyfraith drwy gyfeirio at ei chynnwys a chynnal system lle mae'r gyfraith honno yn cadw ei strwythur yn hytrach na chynyddu.
Mae'r Bil yn mynnu bod rhaglen yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad o fewn chwe mis i benodi'r Prif Weinidog yn dilyn etholiad cyffredinol. Bwriad hyn yw sicrhau y gall pob llywodraeth fod yn atebol am yr hyn y mae ei rhaglen yn ei gyflawni dros dymor y Cynulliad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol lunio adroddiadau cyfnodol i'r Cynulliad ar gynnydd yn erbyn y rhaglen.
Mewn Datganiad Llafar disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol Ran 1 o'r Bil fel rhywbeth "arloesol" wrth geisio "gosod seilwaith a fydd yn ymrwymo Llywodraethau'r dyfodol i gadw hygyrchedd y gyfraith o dan adolygiad, ac i gymryd camau i'w gwneud yn fwy hygyrch.” Aeth ymlaen i ddweud:
Y nod tymor hir yw creu llyfr statud trefnus i Gymru sy'n categoreiddio'r gyfraith mewn i godau ar bynciau penodol, a hyn yn hytrach na dim ond cyfeirio at y dyddiad pan gwnaethpwyd y ddeddfwriaeth. Mae'r Bil, felly, yn gosod dyletswyddau ar y Llywodraeth gan fod maint a natur y dasg yn golygu bod yn rhaid ymrwymo i'r gwaith yn systematig a dros y tymor hir. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyd-grynhoi'r gyfraith a'r gwaith arall sy'n gysylltiedig â gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch fod yn un o flaenoriaethau pob llywodraeth.
Hefyd, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol y bwriedir iddynt ddangos nod Llywodraeth Cymru o gael codau cyfreithiol.
Dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru
Mae Rhan 2 y Bil yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad neu o dan bwerau a roddwyd iddo, ac is-ddeddfwriaeth arall a wnaed gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau datganoledig eraill Cymru.
Ar hyn o bryd mae Deddf Dehongli 1978 yn llywodraethu'r prosesau o ddehongli a gweithredu deddfwriaeth. Bydd Deddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i ddeddfwriaeth a wnaed cyn i Ran 2 ddod i rym. Bydd Rhan 2 ond yn berthnasol i ddeddfwriaeth a wneir ar ôl i Ran 2 ddod i rym (ac i'r Bil ei hun).
Yng Nghyfarfod Llawn 4 Rhagfyr 2018 eglurodd y Cwnsler Cyffredinol:
Mae Rhan 2 o'r Bil yn dilyn yr hen draddodiad a sefydlwyd gan Senedd y DU yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gafodd Deddf ddehongli ei phasio am y tro cyntaf. Dehongli statudol yw'r broses o bennu ystyr ac effaith deddfwriaeth a sut y mae'n gweithredu.
Sut y mae'r Cynulliad yn craffu ar y Bil?
Mae'r Bil wedi'i gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod Un. Ymddangosodd y Cwnsler Cyffredinol, sef yr aelod sy'n gyfrifol am y Bil, gerbron y Pwyllgor ar 10 Rhagfyr 2018. Mae'r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad a fydd yn cau ar 21 Ionawr 2019. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael tystiolaeth lafar gan dystion.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru