Beth yw microbelenni, a beth fyddai eu gwahardd yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 08/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munud

Mae sylw diweddar yn y cyfryngau, yn enwedig yng nghyfres Blue Planet II y BBC, wedi tynnu sylw at raddfa'r gweddillion plastig a'r llygredd yn ein moroedd. Mae un amcangyfrif yn awgrymu bod 12.2 miliwn o dunelli o blastig yn mynd i mewn i'r amgylchedd morol bob blwyddyn. Microblastigau yw tua 0.95 tunnell o'r llygredd hwn.

Nid yw plastig yn pydru, yn hytrach mae'n cael ei ddadelfennu gan olau. Mae golau UV yn torri plastig yn ddarnau llai dros amser, gan greu microblastigau. Gronynnau o blastig yw'r rhain nad ydynt ond yn ambell filimetr eu maint ac a gaiff eu llyncu'n rhwydd gan fywyd yn y môr. Mae hyn nid yn unig yn cael effaith wael ar fywyd yn y môr, ond mae hefyd yn cyflwyno deunydd gwenwynig i'r gadwyn fwyd. Mae'n debyg bod gweddillion microblastigau yn cronni yn ddwfn yn y môr, a hynny i raddau sylweddol yn ôl papur a gyhoeddwyd yn 2014 gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwyddoniaeth Agored.

O'r 0.95 miliwn tunnell o ficroblastigau sy'n cael eu cyflwyno i amgylchedd y môr, mae 35 mil o dunelli yn deillio o gynnyrch cosmetig, fynychaf microblastigau parod ar ffurf microbelenni.

Beth yw microbelenni a pham y maent yn niweidiol?

Mae microbelenni wedi bod yn y penawdau dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil ymgyrchoedd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd, megis Beat the Microbead a gwaith sefydliadau amgylcheddol megis y Gymeithas Cadwraeth Forol a Greenpeace.

Oherwydd eu priodweddau crafog, fe'u defnyddir mewn cynnyrch sgrwbio a chynhyrchion cartref fel past dannedd, geliau cawod, hylif sgrwbio'r croen, cynhyrchion eillio a glanedyddion golchi. Defnyddir hyd at 680 tunnell o ficrobelenni plastig mewn cynhyrchion cosmetig a werthir yn y DU bob blwyddyn gan arwain at gyflwyno biliynau o belenni bychain i'n moroedd yn flynyddol.

Wedi i'r microbelenni gael eu golchi i lawr y draen, maent yn mynd i mewn i ecosystemau'r môr. Mae'n anodd hidlo'r pelenni bychain hyn allan o'r dŵr yn llwyr, felly mae rhai yn aros yn yr amgylchedd morol lle maent yn cronni ac yn cyfrannu at y broblem gynyddol o lygredd morol.

Camau gweithredu ar draws y byd

Yn 2015, cyflwynodd Unol Daleithiau America waharddiad ar gynnyrch golchi cosmetig a chyffuriau a ddarperir dros y cownter sy'n cynnwys microbelenni. Ymhlith y gwledydd eraill sydd wedi cyflwyno gwaharddiadau tebyg ers hynny mae Canada, Ffrainc, Seland Newydd a Thaiwan.

Mae Awstralia, Iwerddon, yr Eidal, yr Iseldiroedd a Sweden oll wedi cyhoeddi eu cynlluniau i wahardd microbelenni yn y dyfodol agos.

Caua gweithredu'r DU

Ym mis Rhagfyr 2016, lansiwyd ymgynghoriad ar draws y DU yn gofyn am sylwadau ynghylch gwaharddiad arfaethedig ar gynhyrchu a gwerthu microbelenni mewn cynnyrch cosmetig a chynnyrch gofal personol. Canlyniad hyn oedd cytundeb rhwng Gweinidogion y DU i wahardd cynhyrchion sy'n cynnwys microbelenni plastig. Er mai ymgynghoriad ar y cyd oedd hwn, mae gwledydd y DU oll yn cyflwyno rheoliadau ar wahân, gan ddefnyddio dull cyson lle bo'n briodol.

Ar 9 Ionawr 2018 cyflwynodd Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Lloegr) 2017 waharddiad rhag cynhyrchu microbelenni yn Lloegr. Caiff microbelenni eu diffinio yn y rheoliadau fel “unrhyw ronyn plastig solet sy’n annhoddadwy mewn dŵr sy’n 5mm neu lai o faint mewn unrhyw fesuriad”.

Ymrwymodd Gweinidogion yr Alban i gyflwyno is-ddeddfwriaeth yn yr Alban. Mae rheoliadau drafft wedi cael eu cyhoeddi, a'r dyddiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth yw 30 Mehefin 2018.

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sut y dylai'r gwaharddiad gael ei gymhwyso i Gymru i ben ar 8 Ionawr 2018. Roedd yr ymgynghoriad yn ystyried opsiynau ynghylch sut y câi gwaharddiad ei weithredu a'i orfodi yng Nghymru. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru

Yn dilyn yr ymgynghoriad, gwnaeth Gweinidogion Cymru ddrafftio Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018.

Mae'r is-ddeddfwriaeth ddrafft (sydd ar ffurf offeryn statudol) yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol y Cynulliad, sy'n golygu bod rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'n ffurfiol yr offeryn statudol cyn iddo ddod i rym.

Mae'r offeryn statudol drafft wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad, ar y cyd â Memorandwm Esboniadol sy'n cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Mae'r cynnig i gynnal dadl ar yr offeryn statudol drafft wedi cael ei osod ar gyfer 19 Mehefin 2018. Os caiff y ddeddfwriaeth ei chymeradwyo, bydd y gwaharddiad ar gynhyrchu a gwerthu cynhyrchion sy'n cynnwys microbelenni plastig yn dod i rym ar 30 Mehefin 2018.

Beth fydd y gwaharddiad yn ei wneud i Gymru?

Unwaith y bydd y gwaharddiad yn weithredol, bydd yn drosedd i unrhyw un gynhyrchu, gwerthu neu gynnig cyflenwi cynnyrch golchi cosmetig neu gynnyrch gofal personol sy'n cynnwys microbelenni plastig yng Nghymru.

Bydd 'camau gorfodi' a 'sancsiynau sifil' yn cael eu cyflwyno. Bydd gan swyddogion gorfodi y pŵer i gynnal unrhyw ymchwiliadau angenrheidiol. Bydd cyfundrefn y sancsiynau sifil yn cynnwys hysbysiadau o ddiffyg cydymffurfio, hysbysiadau stopio ac ymgymeriadau gorfodi. Mewn achos o droseddu, bydd awdurdodau lleol Cymru yn gallu cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy hyd at £20,000.

Bydd y gwaharddiad yn lleihau faint o ficrobelenni a gaiff eu cyflwyno i'r amgylchedd morol, gan gefnogi'r nod o leihau llygredd morol o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol a chan gyfrannu at y nod gyffredinol o gyflawni Statws Amgylcheddol Da ar gyfer ein moroedd. Mae'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliad yn datgan:

The intervention is designed to protect the marine environment from further pollution, foster consumer confidence that the products they buy will not harm the environment, and support the cosmetics industry by setting a level playing field while ensuring a suitable timescale for implementation to minimise impact on the industry. It will also set an example for other countries and encourage wider adoption of legislation.

Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: 'Plastics in the Marine Environment', Eunomia