5 Chwefror 2014
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_911" align="aligncenter" width="300"]
Mae'r term ‘gwasanaeth ecosystem’ yn cael ei ddefnyddio'n aml wrth drafod rheoli tir yn gynaliadwy. Nod y blog hwn yw rhoi golwg sydyn ar ei ystyr ac mae'n trafod gwerth economaidd gwasanaethau ecosystem a pham y dylid eu diogelu.
Diffiniadau
Ecosystem
Mae’r term ecosystem yn cyfeirio at gymuned o blanhigion, anifeiliaid ac organebau llai sy’n byw, yn bwydo, yn atgynhyrchu ac yn rhyngweithio â'i gilydd mewn ardal neu amgylchedd penodol.
Gwasanaeth ecosystemau
Mae Asesiad Ecosystem Cenedlaethol y DU yn nodi mai gwasanaethau ecosystem yw'r ‘manteision sydd ynghlwm wrth ecosystemau ac sy'n cyfrannu at wneud bywyd yn bosibl ac yn werth ei fyw’.
Mae Asesiad Ecosystem y Mileniwm ac Asesiad Ecosystem Cenedlaethol y DU yn gwahaniaethu rhwng pedwar categori o wasanaethau ecosystem a gaiff eu defnyddio'n gyffredinol, ac ystyrir bod y ‘gwasanaethau cynnal’ yn hanfodol ar gyfer y gwasanaethau yn y tri chategori arall;
Gwasanaethau cynnal: gwasanaethau ecosystem "sy'n hanfodol ar gyfer yr holl wasanaethau ecosystem eraill", gan gynnwys ffurfio pridd, ailgylchu maethynnau a phrosesau tyfu planhigion Gwasanaethau darparu: "cynhyrchion a geir o ecosystemau" gan gynnwys bwyd, dŵr ffres, coed tanwydd, ffibrau, biogemegion, adnoddau genetig Gwasanaethau rheoli: "y manteision a geir drwy reoli prosesau ecosystem" gan gynnwys rheoli'r hinsawdd, rheoli afiechydon, rheoli dŵr, puro dŵr, peillioGwasanaethau diwylliannol: "y manteision anfaterol sydd ynghlwm wrth ecosystemau" gan gynnwys manteision ysbrydol, crefyddol ac esthetig, manteision o ran hamdden ac ecodwristiaeth, ysbrydoliaeth, addysg, ymdeimlad o le, treftadaeth ddiwylliannol
Gwerth economaidd gwasanaethau ecosystem
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud i roi gwerth ariannol i wasanaethau ecosystem. Un o'r gwasanaethau hawsaf i'w werthuso yw'r gwasanaethau diwylliannol a hynny oherwydd yr incwm uniongyrchol y mae twristiaeth a gweithgareddau hamdden yn ei greu. Mae Adroddiad Technegol Asesiad Ecosystem Cenedlaethol y DU yn nodi bod twristiaeth yn cynhyrchu incwm o £753 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yng Nghymru, a bod effaith ehangach twristiaeth wedi cynhyrchu tua £4.2 biliwn yn 2007 ac wedi cynnal tua 78,000 o swyddi. Nodir bod pysgota, fel gweithgaredd hamdden, yn cyfrannu £100 miliwn at economi Cymru.
Gellir gwerthuso’r gwasanaethau’n anuniongyrchol hefyd, er enghraifft, mae ymchwil yn dangos mai anifeiliaid sy'n peillio 75% o rywogaethau cnydau, sy'n cyfrif am 35% o'r bwyd a gynhyrchir yn fyd-eang drwy dyfu cnydau ac amcangyfrifir mai gwerth y gwasanaeth hwn yw £125 biliwn y flwyddyn yn fyd-eang.
Diogelu gwasanaethau ecosystem
Mae'r dull unedig hwn o gysylltu meysydd ecoleg ac economeg yn creu fframwaith ar gyfer mesur perfformiad amgylcheddol mewn cyd-destun cymhwysol ac fe'i defnyddir i reoli'r gwaith o ddiogelu a gwella'r modd y mae ecosystemau'n gweithio er budd pobl.
Mae ymchwil ecolegol yn dangos ei bod yn gynyddol amlwg mai pobl sy'n gyfrifol am y dirywiad parhaus yn yr amrywiaeth mewn rhywogaethau ac mae’r dirywiad hwn yn amharu ar wasanaethau ecosystem. Mae posibilrwydd y bydd hyn yn bygwth ein hiechyd, ein cyflenwad bwyd a'n lles. Mae Asesiad Ecosystem Cenedlaethol y DU (2011) yn nodi bod tua 30% o wasanaethau ecosystem yn dirywio ar hyn o bryd a bod angen eu diogelu. Yn dilyn yr ymwybyddiaeth gynyddol hon, mae polisïau amgylcheddol, fel cynlluniau amaeth-amgylcheddol, wedi'u mabwysiadu i geisio adfer a diogelu'r gwasanaethau ecosystem presennol.
Mae amgylcheddwyr yn dadlau bod y twf ym mhoblogaeth y byd a'r galwadau cysylltiedig ar yr amgylchedd naturiol, ynghyd â'r newid yn yr hinsawdd, yn rhoi pwysau ychwanegol arnom i ddiogelu gwasanaethau ecosystemau.
- Ecosystemau a dull rheoli ar lefel yr ecosystem Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Ecosystems and Their Services In: Ecosystems and Human Well-being: A Framework for Assessment (ASesiad Ecosystem y Mileniwn )