Mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn ystyried Bil Pysgodfeydd y DU 2019-21.
Mae'r atebion hyn i gwestiynau cyffredin yn esbonio beth mae'r Bil yn ei olygu i Gymru.
Rydym wedi cyhoeddi briffiau manwl ar wahân ar:
- drafodaeth y Senedd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil (PDF, 671KB), a
- y berthynas rhwng Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE a rheoli pysgodfeydd yng Nghymru ar ôl Brexit (PDF, 2.6MB)
Beth mae Bil Pysgodfeydd y DU yn ei wneud?
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 29 Ionawr 2020. Mae Llyfrgell Tŷ'r Arglwyddi wedi cyhoeddi papur briffio ar gyfer cyfnodau Tŷ’r Arglwyddi.
Nod y Bil yw darparu 'Fframwaith Pysgodfeydd' cyfreithiol; gan sicrhau dull gweithredu cyffredin o reoli pysgodfeydd ledled y DU ar ôl iddi adael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Fe'i cynlluniwyd hefyd i fynd i'r afael ag ymrwymiadau'r DU o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr (UNCLOS) (o ran gweithgareddau pysgota yn nyfroedd y DU).
Ar gais Llywodraeth Cymru, mae'r Bil hefyd yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru (er enghraifft, ynghylch gwerthu cwota). Caiff y rhain eu nodi ym Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Sut mae’r Senedd wedi trafod y Bil hyd yma?
Gosododd Llywodraeth Cymru ei Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil gerbron y Cynulliad, fel y’i gelwid bryd hynny, ar 12 Chwefror 2020.
Clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad dystiolaeth ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ac maent wedi cyhoeddi eu hadroddiadau:
- Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 326KB); ac
- Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 2MB).
Beth ddigwyddodd i Fil Pysgodfeydd y DU blaenorol?
Mae Bil 2019-21 yn debyg i Fil Pysgodfeydd y DU 2017-19. Cafodd Bil 2017-19 ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin a deg sesiwn mewn pwyllgor bil cyhoeddus ar ddiwedd 2018. Cyhoeddom grynodeb o Fil 2017-19 ym mis Ionawr 2019. Gosododd Llywodraeth Cymru’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil 2017-19 (PDF, 106KB) gerbron y Cynulliad ym mis Tachwedd 2018, cyn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ym mis Ionawr 2019.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (sef y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad erbyn hyn) ill dau adroddiadau ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Chwefror 2019:
- Adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgychedd a Materion Gwledig ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF, 952KB); ac
- Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF, 710KB)
Syrthiodd Bil 2017-19 adeg addoedi Senedd y DU cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019.
Sut mae'r Bil presennol yn wahanol i’r Bil blaenorol?
Er bod Bil 2019-21 yn debyg i Fil 2017-19, mae rhai newidiadau allweddol sy'n ymwneud â chymhwysedd y Senedd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- newidiadau i'r amcanion pysgodfeydd;
- newidiadau i'r darpariaethau datganiadau pysgodfeydd ar y cyd;
- pŵer ychwanegol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n galluogi gwerthu hawliau i ‘gwotâu dal pysgod’ neu ‘gwotâu ymdrech’;
- ehangu’r pwerau cymorth ariannol; a
- phŵer ychwanegol i Weinidogion Cymru osod taliadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau sy'n ymwneud â rheoleiddio gweithgareddau morol.
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil?
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn nodi:
Ym marn Llywodraeth Cymru, mae'n briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn i'r DU gan fod angen dull dros y DU gyfan wrth greu’r Fframwaith Pysgodfeydd … Hefyd, mae’r Bil yn cynnwys nifer o ddarpariaethau y bydd angen iddynt fod ar waith cyn diwedd y cyfnod gweithredu [ar gyfer Brexit]. Ar gyfer pwerau nad ydynt yn ymwneud â’r fframwaith, mae'n bwysig bod Gweinidogion Cymru yn gallu gweithredu'n gyflym ac yn bendant yng Nghymru, nes y gallwn gyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru cynhwysfawr.
I’r gwrthwyneb, roedd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil 2017-19 yn pwysleisio nad oedd yn fodlon â chymal 18 (cymal 23 erbyn hyn) gan ei fod yn rhoi pwerau eang i'r Ysgrifennydd Gwladol bennu cwotâu'r DU.
Er bod y cymal wedi’i ddrafftio yn yr un modd yn y ddau Fil, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 16 Mawrth 2020 ei bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU yr eir i’r afael â’r mater hwn trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyn diwedd cyfnod pontio Brexit.
Pa bwerau newydd y mae’r Bil yn eu rhoi i’r Senedd ac i Weinidogion Cymru?
Caiff y pwerau rheoleiddio ar gyfer Gweinidogion Cymru eu harchwilio’n fwy manwl yn y briff ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil 2019-21.
Mae’r Bil yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd fel y gall wneud deddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas â physgodfeydd ym moroedd Cymru y tu hwnt i 12 milltir forol.
Yn benodol, mae hyn yn golygu deddfwriaeth sylfaenol ar faterion yn ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod yn yr ardal ym Mharth Cymru sy'n gorwedd y tu hwnt i derfynau'r môr tiriogaethol (y tu hwnt i 12 milltir forol o’r lan).
Mae adran 158 o Ddeddf 2006 yn diffinio “Parth Cymru” fel y môr sy’n ffinio gyda Chymru o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain neu a bennir fel arall mewn gorchymyn a wneir o dan y Ddeddf honno.
Beth mae Pwyllgorau'r Senedd wedi'i ddweud am y Bil?
Argymhellodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig bod y Senedd yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil, yn ddarostyngedig i rai amodau penodol. Gwnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae’r manylion ar gael yn yr adroddiadau.
A fydd Bil Pysgodfeydd i Gymru?
Ar 1 Mai 2020, mewn llythyr (PDF, 776KB) at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, dywedodd y Gweinidog:
Mae'n fwriad gennyf o hyd i gymryd y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru ym Mil Pysgodfeydd y DU fel mesur interim nes y gellir cyflwyno bil pysgodfeydd cynhwysfawr i Gymru sy'n cwmpasu Cymru a pharth Cymru. Mae'r ddibyniaeth ar amseru Bil y DU a chamau nesaf ein Polisi ar Ddyfodol Pysgodfeydd yn golygu na allaf fod yn siŵr o'r amseru ac, yn sicr, ni fydd yn bosibl cyflwyno Bil cyn diwedd y Cynulliad hwn, o ystyried yr oedi a gafwyd o ran y Bil y llynedd a'r pandemig COVID-19 presennol.
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi gwneud argymhellion mewn perthynas â Bil i Gymru yn ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
A yw'r Bil yn atal llongau tramor rhag pysgota yn nyfroedd Cymru?
Mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn egluro y bydd mynediad i longau’r UE a llongau tramor eraill i ddyfroedd y DU yn fater i'w drafod.
Mae’r Datganiad Gwleidyddol(PDF, 408 KB), y cytunwyd arno gan y DU a'r UE, yn gosod dyddiad cau ar gyfer cytundeb pysgodfeydd, sef Gorffennaf 2020. Fodd bynnag, mae'r Bil yn caniatáu i ddeddfwriaeth yr UE, sydd ar hyn o bryd yn darparu hawliau awtomatig i longau sydd wedi'u cofrestru â'r UE gael mynediad i ddyfroedd y DU, gael ei dirymu. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Bil hefyd yn gwneud y canlynol:
…introduces a new requirement that foreign fishing in UK waters must be licensed by the MMO [Marine Management Organisation]or one of the Fisheries Administrations to fish in UK waters or be for a purpose recognised under international law (for example, freedom of navigation).
Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn gwahaniaethu rhwng llongau sydd wedi'u cofrestru yn y DU sydd â pherchnogion yn y DU a'r rheini sydd â pherchnogion y tu allan i'r DU. Felly bydd unrhyw longau sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn cael eu trin fel llongau yn y DU ni waeth ble mae eu perchnogion wedi’u lleoli.
Beth yw goblygiadau’r Bil ar gyfer mynediad llongau Cymru i ddyfroedd eraill y DU?
Mae’r Bil yn darparu ar gyfer mynediad cyfartal i longau'r DU yn nyfroedd y DU trwy egluro bod trwyddedau a roddir gan un o'r awdurdodau trwyddedu yn weithredol trwy holl ddyfroedd y DU. Fodd bynnag, mae pwerau hefyd wedi'u cynnwys sy’n caniatáu i wahanol weinyddiaethau'r DU osod amodau ar drwyddedau ar gyfer llongau sy'n pysgota yn eu dyfroedd.
A fydd y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn dal i fod yn gymwys?
Bydd y DU yn gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben ym mis Rhagfyr 2020.
Fodd bynnag, bydd rhai rheoliadau sy'n ymwneud â'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn dod yn gyfraith a ddargedwir yn y DU yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae'r rheoliadau hyn eisoes wedi’u diwygio rywfaint a bydd y Bil, os caiff ei basio, hefyd yn dirymu rhai Erthyglau o'r rheoliadau (gan gynnwys Erthygl 5 ar hawl cyfartal llongau pysgota'r UE gael mynediad i ddyfroedd Aelod-wladwriaethau).
A yw'r Bil yn pennu cwota pysgota ar gyfer Cymru?
Na. Er bod rhai darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â chwotâu (er enghraifft, gwerthu cwota), nid yw'r Bil yn pennu cwota pysgota nac yn newid y broses ar gyfer dyrannu cwota rhwng y DU a'r UE neu o fewn y DU. Fodd bynnag, mae'n cyflwyno rôl newydd i'r Ysgrifennydd Gwladol (gweler isod).
Bydd y dull o ddyrannu cwota ar gyfer stoc a rennir gyda'r UE yn cael ei bennu yn ystod y trafodaethau. Mae Llywodraeth y DU wedi llunio dogfen sy’n nodi ei dull gweithredu ar gyfer perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol, gan gynnwys pysgodfeydd. Mae’r concordat ar ddyraniad cwota rhwng pedair gweinyddiaeth y DU yn parhau i fod ar waith.
Mae’n werth nodi bod cymal 23 yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol bennu cyfleoedd pysgota am flwyddyn galendr ar gyfer y DU. Dim ond at ddiben cydymffurfio â rhwymedigaeth ryngwladol y DU y gellir gwneud hyn. Mae’r pŵer hwn wedi bod yn ddadleuol (gweler yr adran ar safbwynt Llywodraeth Cymru uchod).
A yw'r Bil yn nodi sut y bydd bwyd môr yn cael ei fasnachu rhwng y DU a'r UE?
Na. Bydd hwn yn fater i'w drafod rhwng y DU a'r UE. Mae Briff Llyfrgell Tŷ'r Cyffredinyn disgrifio pysgodfeydd fel elfen bwysig iawn o'r trafodaethau masnach:
The UK Government has set out that it envisages a “suite of agreements” including a comprehensive free trade agreement and an agreement on fisheries. The EU position is that agreement on fisheries shall guide the conditions on agreement of a future economic partnership [PDF, 320 KB], specifically “access conditions under the free trade area”.
O 6 Mai 2020, newidiodd enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, a chyfeirir at y sefydliad yn gyffredin fel y Senedd. O ganlyniad, mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon yn adlewyrchu'r newid enw, gan gyfeirio at y sefydliad fel y 'Cynulliad' mewn cyd-destun hanesyddol (cyn 6 Mai) a'r 'Senedd' wedi hynny.
Erthygl gan Emily Williams, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru