Yn ei lyfr, 'The Age of Diminished Expectations', dywed yr economegydd, ac un o enillwyr y Wobr Nobel, Paul Krugman:
Productivity isn’t everything, but in the long run it is almost everything.
Ond beth yw cynhyrchiant, pam ei fod mor bwysig a sut mae ei fesur?
Gyda Phwyllgor Cyllid y Senedd yn ystyried cynhyrchiant yng Nghymru yr wythnos hon yng nghyd-destun gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, yn yr erthygl hon rydym yn ceisio ateb y cwestiynau hyn. Heddiw, rydym hefyd wedi cyhoeddi briff ymchwil ar gynhyrchiant.
Beth yw cynhyrchiant a pham ei fod yn bwysig?
Ym mis Medi 2025, dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ('IFS'):
Productivity captures the relationship between the outputs or outcomes of a system and the inputs that system uses... Broadly, a system becomes more productive if it can produce more or better output or outcomes from the same level of inputs or if the same level of outputs or outcomes can be produced with a lower level of inputs.
Dywed Fforwm Cynhyrchiant Cymru fod twf cynhyrchiant yn arwain at gynnydd mewn elw, yn galluogi mwy o gyflogaeth a buddsoddiad, yn ogystal â chefnogi refeniw treth uwch a gwell gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn nodi:
Productivity is a foundation of prosperity. The only way a country can raise its standard of living sustainably is to produce more with existing or fewer resources. You cannot do that without improving productivity. It’s that simple.
Mae’r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru yn dod yn uniongyrchol drwy’r grant bloc gan Lywodraeth y DU. Yn ôl yr Athro Melanie Jones, Athro Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac Arweinydd Academaidd Fforwm Cynhyrchiant Cymru mae hyn yn golygu bod sefyllfa gyllidol Cymru yn cael ei dylanwadu'n fawr gan gynhyrchiant y DU, sydd wedi bod yn gyfyngiad allweddol ar gyllideb y DU.
Mae cynhyrchiant y DU yn bwnc llosg ar hyn o bryd gyda dyfalu ynghylch y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn israddio ei rhagolygon ar gyfer cynhyrchiant y DU a'r effaith y gallai hyn ei chael ar Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU (26 Tachwedd 2025).
Sut mae mesur cynhyrchiant?
Mae cynhyrchiant yn fater cymhleth meddai Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae'n nodi taw cynhyrchiant llafur a chynhyrchiant ffactorau cyfan ('TFP') yw dau o’r mesurau safonol mwyaf adnabyddus ohono.
Gellir mesur cynhyrchiant llafur yn ôl allbwn (megis, gwerth ychwanegol gros ('GVA')) fesul uned o lafur (er enghraifft, fesul gweithiwr neu fesul awr).
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio GVA fesul awr mewn perthynas â chyfartaledd y DU fel un o'i 50 Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol (rhif 9).
Mae ACCA yn dweud fod cynhyrchiant ffactorau cyfan ('TFP') yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith bod allbynnau yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio cyfuniad o fewnbynnau llafur a chyfalaf. I fesur TFP, mae cyfanswm cyfaint yr allbynnau yn cael ei rannu â chyfaint y mewnbynnau. Mae cynnydd mewn TFP yn adlewyrchu enillion mewn allbwn nad ydynt oherwydd cynnydd mewn mewnbynnau, e.e. gwelliannau technolegol, systemau ariannol mwy effeithlon ac ati.
Penbleth cynhyrchiant y DU
Yn hanesyddol, mae cynhyrchiant wedi tueddu i gynyddu dros amser gyda mwy o nwyddau a gwasanaethau'n cael eu cynhyrchu fesul awr a weithir, gan ganiatáu i safonau byw godi.
Fodd bynnag, fe wnaeth cynhyrchiant yn y DU gwympo’n sydyn pan roedd yr Argyfwng Ariannol Byd-eang ar ei waethaf yn 2008 a 2009. Esboniodd cyn-Aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol Allanol, Banc Lloegr, fod cynhyrchiant y DU wedi bod yn tyfu ers hynny ond ar gyfradd sylweddol is na'r duedd cyn yr argyfwng. Cyfeirir yn gyffredin at hyn fel y penbleth cynhyrchiant.
Tra bo cynhyrchiant mewn economïau datblygedig eraill hefyd wedi arafu, yn ôl Trysorlys Ei Fawrhydi, mae'r gostyngiad wedi bod yn arbennig o sydyn yn y DU. Mae'n nodi, mai tua 2.1% oedd cyfradd twf cynhyrchiant cyfartalog y DU yn y degawd cyn yr Argyfwng Ariannol Byd-eang, (yn yr achos hwn, wedi'i fesur gan gydran o dwf Cynnyrch Domestig Gros ('GDP') y pen). Dywed Trysorlys Ei Fawrhydi fod hyn yn uwch nag yn yr Almaen a Ffrainc, a dim ond ychydig yn is nag yn yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, yn y deng mlynedd ar ôl yr Argyfwng, roedd cyfradd twf cynhyrchiant cyfartalog y DU yn 0.6%, o'i gymharu ag 1.2% yn yr Almaen a 0.9% yn Ffrainc a'r Unol Daleithiau.
Beth mae'r mesurau'n ei ddweud wrthym am gynhyrchiant yng Nghymru?
Mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gynhyrchiant blynyddol rhanbarthau'r DU yn ymwneud â 2023 (cyhoeddwyd Mehefin 2025). Mae’n dangos fod allbwn (wedi'i fesur yn ôl GVA fesul awr) yn is yng Nghymru na holl ranbarthau eraill y DU, 15.1% yn is na’r cyfartaledd yn y DU. Dangosir hyn yn y tabl isod:
Ffynhonnell: Cynhyrchiant llafur rhanbarthol ac isranbarthol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y DU: 2023, (cyhoeddwyd Mehefin 2025) [Wedi'i gyrchu 4 Tachwedd 2025]
Er ei fod yn parhau i fod yr isaf o holl ranbarthau'r DU, dangosodd y data cynhyrchiant ar gyfer 2023 welliant ar 2022 pan roedd allbwn fesul awr yng Nghymru 17.3% yn is na chyfartaledd y DU.
Dangosodd data’r ONS hefyd fod twf blynyddol o 0.2% yn y gyfradd gyfartalog gronnus o 2019 i 2023 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cymharu â 0.3% yn yr Alban ac 1.8% yng Ngogledd Iwerddon. Cynyddodd cynhyrchiant cyfartalog y DU 0.7% dros y cyfnod hwnnw.
Mae'r Athro Melanie Jones yn dweud fod y darlun yn amrywio ledled Cymru, gyda chynhyrchiant mewn ardaloedd fel Powys, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych ymhlith yr isaf yn y DU.
Yn ei nodiadau ar gyfer ei fesurau o gynhyrchiant rhanbarthol, mae'r ONS yn rhybuddio defnyddwyr y bydd mwy o anwadalrwydd yn y data wrth i ddaearyddiaeth ardal leihau. Mae hefyd yn tynnu sylw at rybudd ychwanegol mewn perthynas â'r gostyngiad mewn meintiau sampl o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ('APS') 2023, sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrifo rhai agweddau dethol ar y swyddi cynhyrchiant ac oriau cynhyrchiant. Hefyd, mae disgwyl ail-bwysoli’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth i gyd-fynd â phoblogaeth Cyfrifiad 2021.
Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ('OSR') wedi atal statws ystadegau achrededig swyddogol ar gyfer yr amcangyfrifon y mae'r ONS yn eu cynhyrchu o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Fodd bynnag, mae'r ONS yn nodi nad yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y mewnbynnau llafur a ddefnyddir ar gyfer ei ddata cynhyrchiant rhanbarthol blynyddol. Daw mewnbynnau llafur o Arolwg y Llafurlu ('LFS').
Ym mis Hydref 2025, nododd Sefydliad Resolution:
…the official data on the growth in hours worked are wrong. They come from the Labour Force Survey (LFS), which has been plagued with a small and biased sample, especially since the pandemic. Happily, those problems are being fixed, and we think that the LFS is now broadly accurate when it comes to the number of people in work … But the data wasn’t right a year ago, and this means we can’t trust the LFS when it says that employment has been rising strongly over the past year.
Wedi gwneud cywiriadau am fewnbynnau llafur a fesurwyd yn anghywir,dywed Sefydliad Resolution fod twf cynhyrchiant diweddar [yn y DU] wedi bod yn gryf.
Ble i gael rhagor o wybodaeth am gynhyrchiant
Mae ein briff ymchwil am gynhyrchiant yn cynnwys gwybodaeth am gynhyrchiant y sector cyhoeddus, sydd wedi bod o ddiddordeb i'r Pwyllgor Cyllid yn ei waith craffu ar gyllidebau Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid wrthi'n craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth am gynhyrchiant ar 20 Tachwedd. Gallwch wylio’r rhain ar Senedd TV.
Erthygl gan Joanne McCarthy, Helen Jones a Josh Jenkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru