Beth yw cyfalaf trafodiadau ariannol a sut y mae’n gweithio?

Cyhoeddwyd 28/01/2025   |   Amser darllen munudau

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyfalaf trafodiadau ariannol ar 29 Ionawr. Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut y mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn gweithio yng Nghymru a chanfyddiadau o adroddiad y Pwyllgor.

Beth yw cyfalaf trafodiadau ariannol?

Mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn elfen wedi’i neilltuo o gyllid cyfalaf, a ddarperir gan Lywodraeth y DU fel rhan o grant bloc Llywodraeth Cymru.

Caiff ei alw weithiau'n ‘fenthyciadau net’ neu’n ‘fenthyciadau polisi’ ac mae'n cynnwys benthyciadau neu fuddsoddiadau ecwiti gan y gweinyddiaethau datganoledig i’r sector preifat.

Rheolir y rhan fwyaf o’r portffolio cyfalaf trafodiadau ariannol gan Fanc Datblygu Cymru (BDC) ar ran Llywodraeth Cymru.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad byr i gyfalaf trafodiadau ariannol i ddeall yn well y rheolau sy’n llywodraethu cyfalaf trafodiadau ariannol, sut y mae’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru a chryfderau a gwendidau cyfalaf trafodiadau ariannol.

Sut y mae cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol yn gweithio?

Mae rhaid ad-dalu cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol i Drysorlys EF. Mae’n wahanol i grantiau cyfalaf am y rhesymau a ganlyn:

  • Disgwylir i gyfalaf trafodiadau ariannol gynhyrchu elw ariannol.
  • Dim ond i endidau sydd y tu allan i ffiniau cyfrifyddu/cyllidebol Llywodraeth Cymru, er enghraifft busnes neu elusen, y gellir rhoi cyfalaf trafodiadau ariannol.
  • Disgwylir i fenthyciwr cyfalaf trafodiadau ariannol ad-dalu’r arian yn llawn i Lywodraeth Cymru, a disgwylir i Lywodraeth Cymru ddychwelyd o leiaf 80% o'r gronfa i Drysorlys EF.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud, o ganlyniad i newidiadau i’r canllawiau cyllidebu cyfunol a’r datganiad o bolisi ariannu (yn dilyn Adolygiad o Wariant y DU ar gyfer 2022-2023), ei bod wrthi’n diwygio’r ffordd y caiff cyfalaf trafodiadau ariannol ei reoli a’i ddyrannu. Disgwylir i’r newidiadau gael effaith o broses y Gyllideb ar gyfer 2026-27.

Beth yw cryfderau a gwendidau cyfalaf trafodiadau ariannol?

Esboniodd Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor fod cyfalaf trafodiadau ariannol yn caniatáu i'r Llywodraeth “weithredu fel Angel Buddsoddi sy’n alinio amcanion cymdeithasol â buddsoddiadau tymor hir” ac y gellir ailgylchu cyllid mewn rhai achosion.

Mae hyn yn golygu bod modd i weinyddiaethau datganoledig ailgylchu ad-daliadau o fenthyciadau y maent yn eu cael mewn benthyciadau newydd am gyfnod amhenodol.

Ers 2022-23, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi cael £1.1 biliwn mewn ad-daliadau cyfalaf trafodiadau ariannol ac wedi ad-dalu £372.2 miliwn i Drysorlys EF, gan ailgylchu dros £695 miliwn o ad-daliadau mewn prosiectau eraill.

Nododd Banc Datblygu Cymru fod cyfalaf trafodiadau ariannol o fudd o ran cyllido rhai meysydd nad ydynt yn cael cymorth benthyca masnachol gan fanciau, er enghraifft cartrefi gofal.

Fodd bynnag, disgrifiwyd defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol fel gweithredu o fewn rheolau cyfyng gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, gan mai dim ond at ddibenion penodol ac ar gyfer sefydliadau penodol y caniateir ei ddefnyddio. Codwyd faint o amser mae’n cymryd i wneud cais am gyllid cyfalaf trafodiadau ariannol gan randdeiliaid fel rhwystr a nodwyd “diffyg eglurder“ hefyd ynghylch cyfalaf trafodiadau ariannol ac o ble mae’n dod.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd fod y ffordd y dyrennir cyfalaf trafodiadau ariannol gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru yn ansicr iawn:

…every year there is uncertainty, because we don’t hear until the autumn statement how much financial transactions capital is coming our way, and we have that short gap between the autumn statement and our own draft and final budget in order to show how we are going to use the quantum that we now have.

Mae symiau canlyniadol Barnett hefyd yn effeithio ar y modd y rheolir cyfalaf trafodiadau ariannol gan fod Llywodraeth Cymru yn cael cyllid sy’n gysylltiedig â chynlluniau yn Lloegr yn seiliedig ar broffiliau risg a thelerau ad-dalu Lloegr.

Fodd bynnag, mae portffolio Llywodraeth Cymru yn wahanol iawn i bortffolio Llywodraeth y DU ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hynny’n “golygu bod y modd y mae Barnett yn cael ei gymhwyso i newidiadau ym mhortffolio [Llywodraeth y] DU yn ffordd eithriadol o ar hap” o wneud penderfynu ar newidiadau i gyllideb cyfalaf trafodiadau ariannol Llywodraeth Cymru.

Sut y mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru?

Mae portffolio cyfalaf trafodiadau ariannol Llywodraeth Cymru yn cynnwys cymysgedd o “fuddsoddiadau economaidd a buddsoddiadau tai, gyda buddsoddiad bach mewn addysg drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol”.

Rheolir y rhan fwyaf o’r portffolio gan Fanc Datblygu Cymru (BDC) ar ran Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r berthynas â BDC, mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai’r adran bolisi berthnasol sy’n gyfrifol am reoli ei phortffolio priodol.

Mae BDC wedi defnyddio dros £1.1 biliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol wedi’i wasgaru ar draws ystod o gronfeydd sector a chyffredinol. Yn ôl BDC, mae hyn yn “diwallu ystod eang o anghenion am fenthyciadau a chyllid ecwiti ar delerau masnachol”.

Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet mai’r adran tai ac adran yr economi sy’n gwneud y defnydd mwyaf o gyfalaf trafodiadau ariannol a bod y sectorau cyfiawnder cymdeithasol, addysg uwch ac addysg bellach ac ynni adnewyddadwy hefyd wedi’i ddefnyddio dros amser.

Mae dadansoddiad o ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol, yn ôl adran a chynllun perthnasol, wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r dogfennau sy’n ategu Cyllideb Ddrafft 2025-26.

Beth ganfu’r Pwyllgor o’r ymchwiliad?

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod cyfalaf trafodiadau ariannol yn “arf cyllidol defnyddiol, ond bod gallu Llywodraeth Cymru i wneud y gorau o’i effeithiolrwydd yn cael ei lesteirio gan y natur ansicr a’r rheolau llym ynghylch ei ddefnydd a osodir yn ganolog gan Lywodraeth y DU”.

Gwnaeth y Pwyllgor 15 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Cyhoeddi data cyfalaf trafodiadau ariannol wedi’u dadgyfuno ochr yn ochr â dogfennau’r Gyllideb Ddrafft o 2025-26 ymlaen;
  • Egluro faint o gyfalaf trafodiadau ariannol sy’n cael ei ailgylchu bob blwyddyn ariannol yn y Gyllideb Ddrafft;
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd trafodaethau â Thrysorlys EF ynghylch diwygio cyfalaf trafodiadau ariannol;
  • Cynnal dadansoddiad o'r defnydd o gyfalaf trafodiadau ariannol, fesul sector, a chyflwyno’r canfyddiadau hynny i'r Pwyllgor Cyllid.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru holl argymhellion y Pwyllgor Cyllid (naill ai’n llawn neu’n rhannol), a dywedodd y canlynol:

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau i wella ei phrosesau ac i gynyddu tryloywder ynghylch y defnydd o CTA. Roedd Cyllideb Ddrafft 2025-26 yn cynnwys mwy o fanylion am CTA nag sydd wedi'u darparu o'r blaen yn y cam drafft er mwyn cefnogi craffu effeithiol ar y gyllideb. Byddwn yn parhau i wneud gwelliannau, ac rwy’n croesawu cyfraniad adroddiad y Pwyllgor at y gwaith hwn.

Os hoffech wybod mwy am gyfalaf trafodiadau ariannol a chanfyddiadau'r Pwyllgor, gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar senedd.tv ar 29 Ionawr.


Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru