Beth yw 'budd-daliadau sydd wedi'u pasbortio'?

Cyhoeddwyd 12/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae Deddf Diwygio Lles 2012 Llywodraeth y DU yn cyflwyno dau fudd-dal newydd:
  • Credyd Cynhwysol, a fydd yn cymryd lle nifer o fudd-daliadau yn seiliedig ar incwm cyflogedig a diwaith; a
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol, a fydd yn disodli'r Lwfans Byw i'r Anabl.
Llun o Flickr gan Cyngor Sir Cofentri. Dan drwydded Creative Commons Ar hyn o bryd, gall pobl sydd â'r hawl i gael budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd (fel Cymhorthdal Incwm) neu gredydau treth hefyd fod yn gymwys i gael amrywiaeth o gymorth arall, sef 'budd-daliadau sydd wedi'u pasbortio'. Er nad yw lles wedi'i ddatganoli, bydd gan gyflwyniad y ddau fudd-dal newydd hyn oblygiadau i fudd-daliadau Llywodraeth Cymru a'r gwasanaethau sydd y mae eu cymhwysedd ar hyn o bryd yn seiliedig ar fudd-daliadau Adran Gwaith a Phensiynau'r DU, a fydd yn cael eu disodli. Bydd hefyd yn effeithio ar ddeddfwriaeth eraill Llywodraeth Cymru a'r cynlluniau sy'n cyfeirio at y budd-daliadau hynny. Gweler rhestr lawn o'r budd-daliadau yr effeithir arnynt ar wefan Llywodraeth Cymru - maent yn cynnwys prydau ysgol am ddim, cynllun Nyth ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn y cartref a chostau teithio'r GIG. Cafodd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad sesiwn benodol i graffu ar ddiwygio lles gyda'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar 8 Mai. Gweler y trawsgrifiad yma.
Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun o Flickr gan Cyngor Sir Cofentri. Dan drwydded Creative Commons.