Ar 9 Gorffennaf 2024, amlinellodd y Prif Weinidog y ymrwymiadau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru am weddill tymor y Senedd hon (sydd i fod i ddod i ben ym mis Mai 2026). Dyma oedd datganiad cyntaf Vaughan Gething ar y rhaglen ddeddfwriaethol ers dod yn Brif Weinidog ym mis Mawrth 2024.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno o leiaf 10 Bil newydd cyn 2026. Bydd deddfwriaeth yn ymdrin â meysydd sy’n cynnwys trafnidiaeth, yr amgylchedd a'r economi ymwelwyr.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar gynigion Llywodraeth Cymru yn fanylach a sut mae arweinwyr y gwrthbleidiau wedi ymateb.
Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru
Yn ei ddatganiad i’r Senedd, nododd y Prif Weinidog y ddeddfwriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y caiff Bil Bysiau hir-ddisgwyliedig ei gyflwyno i “ail-lunio'r system drafnidiaeth gyhoeddus mewn modd sylweddol”.
Ym mis Chwefror 2024, cadarnhaodd y cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, y byddai’r Bil yn cyflwyno “system trafnidiaeth fysiau wedi'i chynllunio, wedi'i chytuno, sefydlog ac wedi'i sybsideiddio yma”, gan sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer llwybrau sy’n “angenrheidiol yn gymdeithasol”.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar Fil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat drafft yn nhymor y Senedd hon. Nod y Bil hwn, yr oedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu ei gyflwyno’n wreiddiol yn y Senedd ddiwethaf, fydd moderneiddio’r drefn trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat i “greu sector sy'n fwy diogel a theg”. Daeth ymgynghoriad papur gwyn ar y mater i ben ym mis Mehefin 2023.
Roedd y datganiad yn cynnwys dau Fil gyda’r nod o warchod a diogelu’r amgylchedd.
Bydd Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth yn “sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol statudol i Gymru, a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru ac yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol gyda nodau ar gyfer amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth”.
Mae cynigion ar gyfer y corff llywodraethu amgylcheddol cynnwys mecanweithiau i ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif ar weithredu cyfraith amgylcheddol, gan ddisodli swyddogaethau blaenorol yr UE. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo yn gyntaf i ddeddfu ar y mater hwn yn 2018. Er bod cyrff llywodraethu statudol wedi'u sefydlu ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r Alban, trefniadau interim sydd ar waith yng Nghymru o hyd.
Ym mis Medi 2023, daeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd ac Isadeiledd y Senedd i’r casgliad, “os nad yw’r corff newydd yn gwbl weithredol cyn diwedd cyfnod Llywodraeth Cymru mewn grym, bydd hynny’n fethiant anfaddeuol ar ei rhan”.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyflwyno Bil Tomenni Nas Defnyddir (Mwyngloddiau a Chwareli) i sefydlu “cyfundrefn reoleiddiol sy'n gynaliadwy, addas i'r diben yn y gyfraith ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir”.
Daeth ymgynghoriad papur gwyn ar y mater hwn i ben ym mis Awst 2022 a gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiadau i weithredu ar domenni yn ei datganiadau deddfwriaethol yn 2022 a 2023.
Ym mis Mawrth 2024, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’r Bil yn cael ei gyflwyno yn nhymor yr hydref 2024.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Digartrefedd i “helpu pobl i aros yn eu cartrefi” a chanolbwyntio ar “atal ac ymyrryd yn gynnar”.
Daeth yr ymgynghoriad papur gwyn ar gynigion Llywodraeth Cymru i ben ym mis Ionawr 2024.
Ym mis Mai 2024, dywedodd Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, y bydd Llywodraeth Cymru yn “cyflwyno Bil yn fuan…i drawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru”.
Ymrwymodd y Prif Weinidog hefyd i Fil Diogelwch Adeiladau gyda’r nod o ddiwygio “ystyriaethau meddiannaeth a rheolaeth barhaus ar adeiladau amlbreswyl” ac yn mynd i'r afael â materion diogelwch tân.
Dywedodd y Prif Weinidog y bydd y Bil yn ymestyn newidiadau a wneir drwy is-ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni.
Fel rhan o'i chynlluniau i ailwampio'r system diogelwch adeiladau, sefydlodd Llywodraeth Cymru Raglen Diogelwch Adeiladau Cymru o dan y Cytundeb Cydweithio.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr. Byddai hyn yn cael ei godi ar arosiadau dros nos yn yr ardal honno. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai arian sy’n cael ei godi drwy’r ardoll “yn cefnogi twristiaeth, yn helpu ein cymunedau ac yn diogelu harddwch Cymru i genedlaethau'r dyfodol”.
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai 2027 fydd y cynharaf y gallai ardoll ymwelwyr fod yn ei le mewn unrhyw ran o Gymru.
Hefyd, ymrwymodd y Prif Weinidog i gyflwyno Bil Llety Ymwelwyr (Rheoleiddio) i “sefydlu cofrestr o letyau i ymwelwyr a chaniatáu i ddarparwyr arddangos eu cydymffurfiaeth â'r gofynion diogelwch”. Dywedodd y Prif Weinidog y bydd hyn yn “gwella’r profiad i ymwelwyr” drwy sicrhau bod llety yn cyrraedd y safonau gofynnol.
Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd y gyfraith yn parhau yn y rhaglen ddeddfwriaethol hon, a disgwylir dau Fil cyn diwedd tymor y Senedd hon.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y caiff Bil Deddfwriaeth ei gyflwyno er mwyn “diddymu'r darpariaethau anarferedig ac a ddisbyddwyd o'r llyfr statud a ffurfioli'r system o lunio a chyhoeddi offerynnau statudol Cymru”. Daeth ymgynghoriad ar Fil drafft ar ddiddymiadau cyfraith statud i ben ym mis Ionawr 2023.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyflwyno Bil i gydgrynhoi cyfraith gynllunio i “symleiddio a moderneiddio’r gyfraith yn y maes hwn” tua diwedd tymor y Senedd hon.
Dyma fyddai’r ail Fil cydgrynhoi i’w ystyried yn y tymor hwn, ar ôl i’r Senedd gytuno ar Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
Pa Filiau eraill y gallem eu disgwyl?
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gefnogi deddfwriaeth i gryfhau atebolrwydd Aelodau o’r Senedd.
Mae hyn yn cynnwys cyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd ac anghymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o ddichell bwriadol.
Dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn rhannu uchelgais y Senedd i gyflwyno mecanwaith galw’n ôl ac yn “barod i gefnogi'r gwaith hwnnw”. O ran dichell bwriadol, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo hefyd i lunio deddfwriaeth” ar y mater hwn.
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi’n trafod y materion hyn fel rhan o'i ymchwiliad i atebolrwydd Aelodau unigol. Dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at argymhellion y Pwyllgor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo eisoes i ddatblygu deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sefydlu system newydd ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Daeth ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru i ben ym mis Hydref 2023.
Pan ofynnwyd iddo am yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, dywedodd y Prif Weinidog fod Bil “y gallwn ddod ato ar ddiwedd y tymor hwn os gallwn gyflawni pob rhan arall o'r rhaglen”.
Ymateb gan arweinwyr y gwrthbleidiau
Roedd Andrew RT Davies AS, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn feirniadol o'r nifer isel o Filiau yn y datganiad. Nododd mai dim ond 13 o Filiau’r Senedd sydd wedi’u cyflwyno ers etholiad diwethaf y Senedd yn 2021, o gymharu â 43 yn Senedd yr Alban a 165 yn Senedd y DU yn yr un cyfnod.
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth AS, arweinydd Plaid Cymru, barhau â'r thema hon, gan nodi ei farn fod pobl Cymru “ag angen a dyhead am fwy na'r hyn sydd gennym ni yn y rhaglen hon”.
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn y 12 mis diwethaf?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ei rhaglen ddeddfwriaethol; cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar 9 Gorffennaf 2024. Bydd cyfle i Aelodau o'r Senedd drafod yr adroddiad hwn a chamau gweithredu deddfwriaethol ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn fwy cyffredinol ar 16 Gorffennaf 2024.
Erthygl gan Josh Hayman ac Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru