Dyma’r gyntaf mewn cyfres o erthyglau sy’n esbonio agweddau ar y system ddigartrefedd yng Nghymru, cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil Digartrefedd a ddisgwylir yn ystod 2025. |
Pan ddaeth yr actor a’r ymgyrchydd Michael Sheen â Chwpan y Byd i’r Digartref i Gaerdydd yn 2019, gwelwyd y digwyddiad yn gyfle i lunio gwaddol hirhoedlog ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd yn y brifddinas a thu hwnt.
Bum mlynedd ac un pandemig yn ddiweddarach, mae digartrefedd yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed, gyda 6,447 o aelwydydd mewn llety dros dro erbyn diwedd 2023-24, sef cynnydd o 18% ar y flwyddyn flaenorol.
Mae strategaeth ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ychydig fisoedd ar ôl Cwpan y Byd i’r Digartref, yn addo sicrhau bod digartrefedd yn prin ac yn fyr ac nad yw’n digwydd eto.
Er mwyn helpu i gyflawni hyn mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth yn ystod y Senedd hon. Nod y Bil fydd cynyddu hawliau pobl i gael cartref a'u helpu i gael unrhyw ofal iechyd neu wasanaethau eraill y bydd eu hangen arnynt.
Un o gonglfeini'r strategaeth yw cysyniad a elwir yn 'ailgartrefu cyflym'. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod am i ailgartrefu cyflym ddod yn ddull diofyn ar gyfer unrhyw aelwyd na ellir ei atal rhag bod yn ddigartref.
Mae'r erthygl hon yn egluro beth yw ailgartrefu cyflym ac yn ystyried beth fydd ei angen i wneud iddo ddigwydd.
Cwestiynu'r system bresennol
Fe’ch maddeuir am gredu bod ymyriad o'r enw 'ailgartrefu cyflym' yn ymwneud â chwtogi'r amser y mae pobl ddigartref yn ei dreulio mewn llety dros dro.
Mae hynny'n rhannol gywir, ond mae ailgartrefu cyflym hefyd yn golygu rhywbeth mwy sylfaenol.
Mae'n cwestiynu rhesymeg y system ddigartrefedd bresennol, lle mae pobl fel arfer yn dilyn model ‘grisiau’ drwy hosteli a mathau eraill o lety trosiannol, gan dderbyn gwasanaethau cymorth ar hyd y ffordd, hyd nes y bernir eu bod yn 'barod am denantiaeth' ac yn gallu byw'n annibynnol.
Yn ôl ymchwil gan yr elusen ddigartrefedd Crisis, mae’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd y model grisiau yn wan iawn mewn gwirionedd. Canfu'r ymchwil fod llawer o bobl ag anghenion cymorth cymhleth yn methu â bodloni gofynion rhaglenni o'r fath, sy’n arwain at gyfraddau uchel o bobl yn gadael yn gynnar a digartrefedd cylchol.
Yn lle hynny, mae ailgartrefu cyflym yn seiliedig ar yr egwyddor bod pobl ddigartref yn gallu mynd i’r afael yn well ag unrhyw faterion sylfaenol yn eu bywydau, megis problemau iechyd meddwl neu broblemau gyda sylweddau, os ydynt mewn cartref sefydlog.
Y syniad yw bod gan bobl well siawns o adael digartrefedd am byth os ydynt yn mynd yn syth i denantiaeth barhaol cyn gynted â phosibl, gyda gweithwyr cymorth yn rhoi cymorth ‘fel y bo'r angen' ar sail symudol yn hytrach na bod ynghlwm wrth lety.
Mae ailgartrefu cyflym yn bennaf ar gyfer pobl sydd angen lefel isel neu ganolig o gymorth. Mae’n perthyn i ddull mwy adnabyddus Tai yn Gyntaf, sy'n darparu cartrefi sefydlog ar gyfer pobl â lefelau uchwl o anghenion cymorth. Mae'r ddau ddull yn debyg ond wedi'u hanelu at grwpiau â chymhlethdod anghenion gwahanol.
Mae prosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru yn cyflawni cyfraddau cynnal tenantiaethau dros 90%, a hynny wrth weithio gyda rhai o bobl fwyaf cymhleth ac ymylol Cymru.
Ond er bod effeithiolrwydd Tai yn Gyntaf yn adnabyddus drwy’r byd, mae ailgartrefu cyflym yn gysyniad mwy diweddar sydd heb grynhoi sylfaen dystiolaeth gadarn eto.
Beth yw’r bwriad yng Nghymru?
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chynllun pontio ailgartrefu cyflym yn cyfarwyddo awdurdodau lleol i drin y rhan fwyaf o hosteli a lletyau â chymorth eraill fel llety dros dro, gan leihau’r defnydd ohonynt dros amser.
Gall rhywfaint o lety â chymorth hirdymor arbenigol aros, ond ni ddylai fod yn ddiofyn, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd; yn hytrach, dylid ei neilltuo ar gyfer pobl sy’n dewis bod yno.
Mae’n ddyddiau cynnar o hyd ar yr awdurdodau lleol o ran gweithredu eu cynlluniau ailgartrefu cyflym, ond dros y tymor hwy, gallai’r newid hwn fod yn arwyddocaol ar gyfer:
- elusennau yng Nghymru sy'n gweithredu llety â chymorth;
- awdurdodau lleol o ran eu gallu fel comisiynwyr llety â chymorth a chymorth lle bo'r angen;
- landlordiaid cymdeithasol, y mae rhai ohonynt yn mynnu bod pobl yn profi eu bod yn barod am denantiaeth cyn y gellir rhoi cartref iddynt; a
- phobl sy'n profi digartrefedd ('mae cael rhywle parhaol i'w alw'n gartref yn bopeth,' meddai un cyfranogwr mewn ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd gan Cymorth Cymru yn 2023).
Beth y dylid ei wneud i newid y sefyllfa hon?
Mae’r pum mlynedd ers i Lywodraeth Cymru nodi ei huchelgeisiau ar gyfer ailgartrefu cyflym wedi bod yn anodd mewn sawl ffordd.
Arweiniodd y dull ‘neb heb help’, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r pandemig, at roi llety dros dro i dros 35,000 o bobl rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2023.
Addawodd Llywodraeth Cymru i gynnal y momentwm hwn a sicrhau na fyddai pobl yn dychwelyd i ddigartrefedd.
Ond mae awdurdodau lleol wedi cael trafferth symud pobl i gartrefi parhaol, sy'n golygu arosiadau hirach mewn hosteli, gwestai a llety gwely a brecwast sy’n gallu bod yn drawmatig iawn.
Yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan Shelter Cymru, mae gwariant ar lety dros dro wedi mwy na dyblu mewn tair blynedd, o £41 miliwn yn 2020-21 i dros £99 miliwn yn 2023-24.
Fel yr amlygwyd gan Sefydliad Bevan a Shelter Cymru mewn adroddiad diweddar:
… reality is moving in the opposite direction to the Welsh Government commitments to minimise the use of bed and breakfast accommodation and improve standards of temporary accommodation.
Mae darlun tebyg i’w weld yn yr Alban, lle mae ailgartrefu cyflym wedi bod yn rhan o agenda’r llywodraeth yno yn hirach fyth nag y mae yng Nghymru.
Y darn amlycaf sydd ar goll o jig-so ailgartrefu cyflym yw llawer mwy o dai.
Daeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i’r casgliad yn ddiweddar bod cyfleoedd, er gwaethaf anawsterau sylweddol megis cost gynyddol deunyddiau a llafur, i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol.
Un her fawr, fodd bynnag, yw goresgyn y rhwystrau i ddarparu digon o gartrefi ar gyfer pobl sengl.
Mae'r rhan fwyaf o bobl ddigartref yn sengl. Roedd 4,266 o bobl sengl mewn llety dros dro ar ddiwedd mis Mawrth 2024, ond yn y 12 mis cyn y dyddiad hwnnw, dim ond 263 o anheddau un ystafell wely gafodd eu cwblhau gan landlordiaid cymdeithasol.
Dywedodd rhai tystion wrth y Pwyllgor fod adeiladu cartrefi un ystafell wely ar raddfa fawr yn annymunol gan fod angen i ddatblygiadau gynnwys mwy o gymysgedd cymdeithasol.
Galwodd y Pwyllgor ar i Lywodraeth Cymru gynyddu cyllid cyfalaf a datblygu strategaeth dai hirdymor sy’n cynnwys ymdrech ragweithiol i ddod o hyd i ffyrdd o ddiwallu’r angen am gartrefi un ystafell wely.
Mae tai a rennir yn opsiwn arall. Er nad yw’r trefniant hwn bob amser yn boblogaidd gyda landlordiaid a thenantiaid, mae rhai prosiectau sydd â hanes o gefnogi trefniadau rhannu sefydlog mewn tai cymdeithasol ac yn y sector rhentu preifat.
Yn y pen draw, gallai ailgartrefu cyflym arwain at arbedion hirdymor i bwrs y wlad a gwell ansawdd bywyd i bobl sydd wedi mynd trwy drawma digartrefedd.
Bydd cael gwared ar y model grisiau a dyfarniadau ynghylch parodrwydd am denantiaeth yn gofyn am arweinyddiaeth gref a gwasanaethau cymorth sy’n cael eu hariannu’n well. Ond, hyd nes y gall Llywodraeth Cymru gynyddu’r cyflenwad o gartrefi parhaol, bydd ailgartrefu cyflym yn aros yn freuddwyd ar gyfer y dyfodol.
Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru