Cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil Amgylchedd 2020-21 (‘y Bil’) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Ionawr 2020. Cafodd y Bil ei ail ddarlleniad ar 26 Chwefror. Mae’r Bil bellach yn cael ei drafod gan Bwyllgor Bil Cyhoeddus, a fydd yn craffu ar ei ddarpariaethau fesul llinell. Oherwydd pandemig y coronafeirws, nid yw’r amserlen ar gyfer trafod y Bil yn hysbys eto. Mae’r Bil wedi’i ailgyflwyno ar ôl y sesiwn seneddol flaenorol. Mae’r rhan fwyaf o’r cymalau yn y Bil yn debyg iawn i gymalau’r fersiwn flaenorol.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 26 Chwefror 2020. Mae’r Bil yn destun i’r broses gydsyniad deddfwriaethol oherwydd bod nifer o’r meysydd y mae’n eu trafod yn dod o dan gymhwysedd y Senedd. Er bod y rhan fwyaf o’r darpariaethau yn berthnasol i Gymru a Lloegr, mae rhai rhannau yn trafod y DU yn ei chyfanrwydd neu’n berthnasol i genhedloedd penodol yn y DU.
Mae’r papur briffio hwn gan wasanaeth Ymchwil y Senedd (PDF 810KB) yn rhoi trosolwg ar y darpariaethau yn y Bil sy’n berthnasol i Gymru, gan drafod llywodraethu amgylcheddol; effeithlonrwydd adnoddau a gwastraff; ansawdd aer; dŵr; a rheoleiddio cemegau.
Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru