Beth y bydd system fewnfudo newydd y DU yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 17/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd system fewnfudo'r DU yn newid o fis Ionawr 2021 a fydd y DU yn gadael yr UE gyda chytundeb neu heb un. Bydd rhyddid i symud yn dod i ben, a bydd un system fewnfudo newydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer holl ddinasyddion yr UE a'r rhai nad ydynt o’r UE sy'n symud i'r DU.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynigion ar gyfer y system fewnfudo newydd eto. Cyhoeddodd Llywodraeth Theresa May Bapur Gwyn mewnfudo yn 2018, ond mae Llywodraeth Boris Johnson yn bwriadu cyflwyno cynllun gwahanol yn seiliedig ar system bwyntiau debyg i un Awstralia.

Nid yw'n glir sut y bydd y system newydd yn wahanol i system bwyntiau bresennol y DU i ymfudwyr nad ydynt o'r UE, y gallwch ddarllen mwy amdani yn ein herthygl o fis Medi.

Beth y gallai'r newidiadau hyn ei olygu i'r 80,000 o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, ac i bobl sydd am symud i Gymru yn y dyfodol?

Trafodwyd y materion hyn gan Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad y llynedd. Cyhoeddodd ei adroddiad ym mis Tachwedd 2019, a derbyniodd Llywodraeth Cymru ei holl argymhellion. Bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad ddydd Mercher 22 Ionawr.

Gallai trothwy cyflog £30,000 leihau ymfudiad o’r UE i Gymru 57 y cant dros 10 mlynedd

Ar hyn o bryd, mae angen isafswm cyflog £30,000 ar ymfudwyr nad ydynt o'r UE er mwyn cael y fisa bwyntiau 'Haen 2' fwyaf cyffredin (gyda rhai eithriadau ar gyfer grwpiau a swyddi penodol).

Yn 2018, argymhellodd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo y dylai system fewnfudo newydd y DU gadw'r trothwy hwn ond ehangu rhestr y swyddi cymwys. Roedd o'r farn y byddai'r trothwy hwn yn helpu i gynyddu cyflogau a chodi cynhyrchiant.

Comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i drafod opsiynau gwahanol ar gyfer y trothwy, a bydd yn cyhoeddi ei adroddiad ym mis Ionawr 2020.

Mynegodd llawer o bobl bryderon i Bwyllgor MADY ynghylch cadw trothwy cyflog £30,000 yn y system fewnfudo newydd. Mae'r lefel hon yn uwch na chyflog cyfartalog gweithwyr amser llawn yng Nghymru, sef tua £26,000.

Canfu ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) na fyddai bron dwy ran o dair o weithwyr yr UE sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn gymwys i gael fisa Haen 2 gyda throthwy cyflog £30,000. Gallai hyn arwain at ostyngiad 57 y cant yn y cyfraddau mewnfudo o'r UE i Gymru dros 10 mlynedd.

Cytunodd Llywodraeth Cymru â chanfyddiadau'r Pwyllgor, a nododd y dylid cyfrifo unrhyw drothwy cyflog yn y dyfodol ar sail pro-rata er mwyn osgoi gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr rhan-amser, sef menywod yn bennaf.

Mae cyflogwyr yn poeni y bydd y system fewnfudo newydd yn costio mwy ac yn gwaethygu prinderau sgiliau

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod rhai sectorau’n “fwy agored i niwed o safbwynt lleihau mudo o’r UE yn y dyfodol”, gan gynnwys gofal cymdeithasol, iechyd, gweithgynhyrchu, bwyd-amaeth, twristiaeth, lletygarwch, manwerthu ac addysg uwch.

Dywedodd ymatebwyr wrth y Pwyllgor y gallai cyflogwyr o Gymru wynebu costau uwch i recriwtio gweithwyr nad ydynt o'r DU o 2021. Er mwyn cyflogi gwladolion nad ydynt o'r UE yn Haen 2, mae cyflogwyr yn talu Tâl Sgiliau Mewnfudo, sef £1,000 y flwyddyn fesul gweithiwr fel arfer.

Hefyd, mae’n rhaid i weithwyr nad ydynt o'r UE dalu Gordal Iechyd Mewnfudwyr i allu defnyddio'r GIG (a fydd yn cynyddu o £400 i £625). Cafodd Llywodraeth Cymru £14.7 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer y Gordal Iechyd Mewnfudwyr yng nghyllideb atodol 2019-20.

Hefyd, dywedodd pobl wrth y Pwyllgor fod yn rhaid i'r system fewnfudo yn y dyfodol sicrhau bod Cymru yn dal i fod yn lle deniadol i fyw, gweithio ac astudio. Dywedodd cyflogwyr fel Airbus wrthym y gallai cynigion y Papur Gwyn rwystro llwybrau recriwtio hirsefydlog a gadael bylchau yng ngofynion Cymru na ellir eu llenwi yn y tymor byr.

Pwysleisiodd y Ffederasiwn Busnesau Bach (FfBB), er bod llawer o fusnesau’n dibynnu ar weithwyr yr UE, nad yw’r mwyafrif ohonynt yn gwybod dim am y system fewnfudo gymhleth i fewnfudwyr nad ydynt o'r UE o ran nawdd a ffioedd.

Cymru sydd â'r gyfran isaf o ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

O Ragfyr 2019, roedd tua 63% o ddinasyddion yr UE yng Nghymru wedi gwneud cais i'r cynllun, o'i gymharu â 84% yn Lloegr, 67% yn yr Alban a 69% yng Ngogledd Iwerddon.

Os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn pasio, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r Cynllun fydd 30 Mehefin 2021, oni bai y caiff ei estyn. Nid yw'n glir o ran yr hyn a fydd yn digwydd i bobl nad ydynt yn gwneud cais mewn pryd.

Pwysleisiwyd diffyg canolfannau sganio dogfennau yng Nghymru gan ymatebwyr i'r Pwyllgor. Ers hynny, mae nifer y canolfannau wedi codi o un i saith. Hefyd, canfu'r Pwyllgor nad oes lleoliadau gwasanaeth 'Cymorth Technoleg Ddigidol' yng ngogledd-orllewin Cymru i bobl y mae arnynt angen cymorth ychwanegol gyda'u cais.

Dywedodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth y Pwyllgor eu bod yn darparu cymorth ychwanegol i helpu pobl i wneud cais, gan gynnwys digwyddiadau ac ymgyrchoedd cyfathrebu. Bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio ei negeseuon i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyngor a'r cymorth a ddarperir drwy Gronfa Bontio’r UE a gynhelir ganddi.

Cydlyniant cymunedol a phrawf o statws preswylydd sefydlog

Clywodd y Pwyllgor gyfrifon personol gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. Roedd llawer o’r farn bod gwneud cais yn achosi straen ac yn gwneud iddynt deimlo'n ddigroeso yn y wlad lle y maent yn byw. Ym mis Tachwedd 2019, ailadroddodd y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol eu negeseuon o gefnogaeth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru.

Argymhellodd y Pwyllgor eto y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chynllun cydlyniant cymunedol i ystyried yr heriau newydd hyn. Ymrwymodd eisoes i wneud hyn ddwywaith o'r blaen (yn 2018 (PDF, 301KB) ac yn 2017 (PDF, 326KB)), ond ni chyhoeddwyd cynllun newydd.

Roedd llawer o bobl yn poeni am ddiffyg dogfennaeth ffisegol i brofi eu statws mewnfudo. Dywedodd y Swyddfa Gartref wrth y Pwyllgor fod y statws digidol yn well nag un ffisegol gan na ellir ei golli nac ymyrryd ag ef. Mae'n honni mai’r cyfan y mae angen i ddinasyddion yr UE ei wneud yw dangos eu prawf adnabod er mwyn cael mynediad at wasanaethau iechyd, tai a budd-daliadau.

Ar 15 Ionawr, mabwysiadodd Senedd Ewrop benderfyniad sy'n tynnu sylw at ystod o bryderon ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, yn enwedig yr ansicrwydd ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd i bobl nad ydynt yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau, y diffyg dogfennaeth ffisegol, a lledaeniad daearyddol canolfannau sganio dogfennau a gwasanaethau 'cymorth technoleg ddigidol'.

Ar 17 Ionawr adroddwyd bod Llywodraeth y DU yr wythnos hon wedi rhoi 'sicrwydd' i'r UE am ddinasyddion yr UE nad sydd yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau.

A ddylid cael rheolau mewnfudo gwahanol ar gyfer Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi “os nad yw polisi mewnfudo Llywodraeth y DU yn y dyfodol yn mynd i’r afael ag anghenion economaidd, demograffig a chymdeithasol Cymru, yna byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer polisi mewnfudo gwahanol i ardaloedd penodol ar ôl Brexit [nad yw] o reidrwydd yn gofyn am ddatganoli pwerau mewnfudo”.

Ond mae hefyd yn nodi na chanfu ymchwil ddiweddar achos cryf dros amrywiadau rhanbarthol i bolisi mewnfudo.

Trothwyon cyflog rhanbarthol

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai trothwyon cyflog is ar gyfer rhanbarthau ag enillion cyfartalog is fod yn broblem, o ystyried penderfyniad y Comisiwn Cyflogau Isel i bennu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar lefel y DU er mwyn lleihau anghydraddoldeb oedran. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dadlau yn erbyn trothwyon cyflog is ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.

System wasgaru ranbarthol debyg i un Awstralia

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi y gallai system bwyntiau debyg i un Awstralia gynnig cyfleoedd ar gyfer amrywiadau rhanbarthol.

Yn ôl y sôn, awgrymodd Priti Patel AS, yr Ysgrifennydd Cartref, y gallai pwyntiau ychwanegol gael eu dyfarnu i bobl am weithio i ffwrdd o Lundain neu dde-ddwyrain Lloegr. Mae hyn yn debyg i ddull gwasgaru rhanbarthol Awstralia, lle y gall taleithiau a thiriogaethau enwebu gweithwyr ar sail meini prawf y maent yn eu datblygu eu hunain.

Rhestr galwedigaethau â phrinder

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid sefydlu rhestr galwedigaethau â phrinder ar gyfer Cymru, fel yn yr Alban. Ond mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r effaith fach y gallai ei chael, o gofio ei bod yn debygol bod y galwedigaethau sydd ar y rhestr yn debyg i'r DU gyfan. Dim ond dwy alwedigaeth ychwanegol a geir yn rhestr yr Alban: gwyddonwyr ffisegol ac ymarferwyr meddygol.

Mae hefyd yn dweud y gallai'r rhestr galwedigaethau â phrinderddod yn llai effeithiol pe bai'r system fewnfudo newydd yn diddymu'r cyfyngiad fisa Haen 2 a phrawf preswylio’r farchnad lafur. Yr unig fanteision sydd ar ôl bod galwedigaeth ar y rhestr galwedigaethau â phrinderyw trothwyon cyflog is a ffioedd fisa is. Mae'r Llywodraeth yn pryderu ei bod hefyd yn debygol y gallai “Llywodraeth y DU gyfleu hyn fel consesiwn sylweddol”, ond na fyddai’n cael fawr o effaith yn ymarferol.

Tueddiadau demograffig

Yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor, cytunodd Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil ar effaith bosibl cyfraddau ymfudo is ar dueddiadau demograffig yn y dyfodol, yn enwedig yr effaith ar y sylfaen drethu.

Yn 2017, dadleuodd Llywodraeth Cymru fod rhyddid i symud yn cael ei gadw, ond â chysylltiadau agosach â chyflogaeth, a chyda dull cryfach o fynd i'r afael â chamfanteisio ar weithwyr a chyflog isel. Gyda chynigion Llywodraeth y DU ar gyfer system fewnfudo newydd yn dal i fod yn y fantol, mae cyfleoedd o hyd i sicrhau y caiff llais Cymru ei glywed.

Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir fel 'dinasyddion yr UE' yn yr erthygl hon.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru