Roedd Mehefin yn fis prysur i bobl sy'n hoff o gyllideb wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-26 ar 17 Mehefin 2025, llai nag wythnos ar ôl Adolygiad Gwariant 2025 Llywodraeth y DU.
Mae'r erthygl hon yn nodi'r newidiadau i gyllid a dyraniadau Cymru ers Cyllideb Derfynol 2025-26, a gymeradwywyd gan y Senedd ar 4 Mawrth 2025.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cynyddu bron i £600 miliwn neu 2.1% o'i gymharu â Chyllideb Derfynol 2025-26
Mae Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-26 yn dangos, ar y cyfan, bod cyllid Llywodraeth Cymru yn cynyddu bron i £600 miliwn i £29.5 biliwn, cynnydd o 2.1% ar Gyllideb Derfynol 2025-26.
Mae tua £557 miliwn o'r cynnydd yn ymwneud â newidiadau i ddyraniadau gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y rhai yn ei Phrif Amcangyfrifon (Mai 2025) a’i Hadolygiad Gwariant 2025. Mae hefyd yn cynnwys trosglwyddiadau i Lywodraeth Cymru o adrannau Llywodraeth y DU ac addasiadau i ddyraniadau cyllid i gywiro “gwallau blaenorol”.
Mae £188.2 miliwn o'r cynnydd o £557 miliwn yn ymwneud â dyraniadau adnoddau anghyllidol (neu 'refeniw'). Cyfeirir at y rhain weithiau fel 'nad yw’n arian parod' ac maent ar gyfer benthyciadau myfyrwyr a dibrisiant. Ni all Llywodraeth Cymru eu dyrannu ar gyfer ei gwariant refeniw cyllidol.
Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu £40.0 miliwn i lawr o Gronfa Gyfunol Cymru i ariannu ei gwariant refeniw, rhywbeth nad oedd wedi bwriadu ei wneud ar adeg Cyllideb Ddrafft 2025-26 (Rhagfyr 2024) a Chyllideb Derfynol 2025-26 (Chwefror 2025). Mae ganddi hefyd £2.4 miliwn yn rhagor i'w wario gan fod y swm sydd ei angen i ad-dalu prif fenthyg wedi lleihau ers Cyllideb Derfynol 2025-26.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl unrhyw newidiadau i gyllid datganoledig Cymru, a bydd y symiau sy’n cael eu codi mewn Ardrethi Annomestig a threthi datganoledig (Cyfradd Treth Incwm Cymru, Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi) yn aros yr un fath ag ar adeg Cyllideb Derfynol 2025-26 (Chwefror 2025). Nid yw ei chynlluniau ar gyfer benthyg wedi newid chwaith (wedi'u cadw ar y terfyn benthyg cyfalaf blynyddol a nodir yn y Fframwaith Cyllidol, sef £150 miliwn).
Dyrannu cyllid
Yn gyffredinol, mae dyraniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer refeniw ynghyd â chyfalaf (ac eithrio Gwariant a Reolir yn Flynyddol neu 'AME') yn cynyddu £404 miliwn neu 1.6% o'i gymharu â Chyllideb Derfynol 2025-26.
Newidiadau rhwng dyraniadau cyffredinol yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2025-26 o Gyllideb Derfynol 2025-26
Ffynhonnell: Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2025-26 ac Ymchwil y Senedd
Mae cyfanswm y dyraniadau refeniw ynghyd â chyfalaf (ac eithrio AME) ar gyfer pob adran ond un yn cynyddu yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2025-26 o'i chymharu â Chyllideb Derfynol 2025-26. Mae'r cynnydd mwyaf mewn termau gwerth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (cynnydd o £263 miliwn o'i gymharu â Chyllideb Derfynol 2025-26). Mae cyfanswm y dyraniad ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gostwng £1 filiwn neu 0.1% o'i chymharu â Chyllideb Derfynol 2025-26.
Newidiadau rhwng y dyraniadau ar gyfer Prif Grwpiau Gwariant yn y Gyllideb Atodol Gyntaf 2025-26 o Gyllideb Derfynol 2025-26
Sylwer: Mae addysg yn cynnwys dyraniad o £261.1 miliwn o refeniw anghyllidol oherwydd darpariaeth cyllideb adnoddau benthyciadau myfyrwyr.
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Gweler Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2025-26 ar gyfer ffigurau manwl gywir.
Ffynhonnell: Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2025-26 ac Ymchwil y Senedd
Talu cost Cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £220 miliwn ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch yn 2025-26 ond nid yw hyn yn bodloni’r gost lawn, a gallai fod yn gymorth untro i wasanaethau cyhoeddus at y diben hwn.
Ym mis Mai 2025, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ('yr Ysgrifennydd Cabinet'), Mark Drakeford AS, y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £185 miliwn gan Lywodraeth y DU i dalu cost Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr uwch yn 2025-26. Dywedodd fod hyn yn "llawer llai" na'r gost o £257 miliwn ar gyfer cyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Gan ddefnyddio'r cyllid gan Lywodraeth y DU a £36 miliwn o'i chronfeydd wrth gefn, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £220 miliwn i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus gyda'r gost gysylltiedig yn 2025-26. Mae hyn yn cyfateb i 85.7% o'r gost (£257 miliwn). Bydd angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru dalu'r gost sy'n weddill (£36 miliwn) o'u cyllidebau.
Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-26: Dyraniadau ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch
Ffynhonnell: Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2025-26 ac Ymchwil y Senedd
Er bod Llywodraeth Cymru wedi bodloni hanner y diffyg yn 2025-26, nid ydym yn gwybod a fydd yn gwneud hynny yn y dyfodol.
Ar 26 Mehefin, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid y dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn fel arian untro i ymateb i broblemau sy'n dod i'r amlwg, nid problemau sylfaenol, sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd y byddai’n penderfynu, drwy rownd gyllidebol 2026-27, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cynnwys y cyllid ar gyfer y diffyg (£36 miliwn ar gyfer 2025-26) yn ei dyraniadau sylfaenol, sy'n golygu y byddai cyrff cyhoeddus yn ei dderbyn bob blwyddyn o hyn ymlaen. Neu efallai y bydd yn cael ei ddarparu ar gyfer 2025-26 yn unig. Fodd bynnag, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i dalu cost lawn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr uwch yng Nghymru, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr.
£100 miliwn i leihau rhestrau aros y GIG
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu £100 miliwn i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni ddarparodd unrhyw wybodaeth bellach am y dyraniad hwn yn ei dogfennau cyllideb, ond dau ddiwrnod ar ôl gosod ei Chyllideb Atodol Gyntaf 2025-26, cyhoeddodd gyllid o £120 miliwn i'r GIG "barhau i leihau amseroedd aros".
Daeth y cyhoeddiad o gyllid ar yr un diwrnod â'r diweddaraf cyhoeddiad diweddaraf o ddata perfformiad y GIG, a ddangosodd gynnydd i nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mis Ebrill o'i gymharu â mis Mawrth.
Yn ystod ei waith craffu ar Ail Gyllideb Atodol 2024-25 (Mawrth 2025), a ddyrannodd £50 miliwn i leihau amseroedd aros y GIG, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid:
“If the health service can demonstrate that the £50 million has delivered the activity and the outcomes that it said it would, that will give me confidence in providing money next year. If the £50 million hasn't delivered, then there will be a different level of scrutiny on any proposals for next year.”
Yn erbyn data perfformiad diweddaraf y GIG, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid holi’r Ysgrifennydd Cabinet am y broses a'r craffu iddo ymgymryd â nhw o ran y dyraniad cyllid diweddaraf hwn i leihau amseroedd aros y GIG.
Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet y broses a chadarnhaodd fod y Byrddau Iechyd Lleol wedi cyflawni'r hyn y dywedon nhw y bydden nhw’n ei gyflawni am y £50 miliwn a ddyrannwyd yn 2024-25.
Pa gyllid refeniw sy’n weddill gan Lywodraeth Cymru i'w ddyrannu?
Yn dilyn y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2025-26, mae gan Lywodraeth Cymru gronfa refeniw cyllidol wrth gefn heb ei dyrannu o £1.8 miliwn. Fodd bynnag, nid dyma'r unig offeryn sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid bod gan Lywodraeth Cymru ffigur ymarferol o tua £250 miliwn o refeniw yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru yn dilyn Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-26, y dywedodd oedd yn ddigonol iddi ymdopi drwy'r flwyddyn.
Mae’r Fframwaith Cyllidol (2016) yn cyfyngu’r swm y gall Llywodraeth Cymru ei dynnu i lawr yn flynyddol o Gronfa Wrth Gefn Cymru i £125 miliwn ar gyfer refeniw a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi hepgor y cyfyngiadau tynnu i lawr ar gyfer 2025-26. Er bod hyn yn rhoi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn bresennol, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau hyblygrwydd cyllidol pellach.
Beth sydd nesaf?
Bydd Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf 2025 a bydd ar gael i'w wylio'n fyw ar Gwylio Senedd Cymru.
Erthygl gan Joanne McCarthy a Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.