darnau arian £1

darnau arian £1

Beth sydd yn Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25?

Cyhoeddwyd 17/03/2025   |   Amser darllen munudau

Ar 18 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hail Gyllideb Atodol ar gyfer 2024-25. Mae'n dangos newidiadau ers Cyllideb Atodol Gyntaf mis Hydref ac mae’n cynnwys bron i £1 biliwn o refeniw a chyfalaf ychwanegol i adrannau. Er bod llawer o’r dyraniadau’n ymwneud â phethau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, megis £264 miliwn o gyllid ar gyfer bargeinion cyflog, mae’r gyllideb yn dyrannu mwy o gyllid ar gyfer gweithgareddau o ddydd i ddydd nag a welwn fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn.

Yn yr erthygl hon rydym yn edrych ar rai o'r dyraniadau ar draws adrannau a sut mae cyllid wedi newid. Bydd y Senedd yn trafod yr Ail Gyllideb Atodol ar 18 Mawrth.

Lefel annhymhorol o gyllid

Dywedodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wrth y Pwyllgor Cyllid, nad oedd y Gyllideb Atodol yn wahanol o ran cymeriad i unrhyw gyllideb atodol arall, ond roedd yn wahanol o ran maint y cyllid a gynhwyswyd.

Mae cynnydd a gostyngiadau, ond mae'r Gyllideb Atodol yn amlinellu £629 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol (ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd) a £257 miliwn yn fwy o gyfalaf (ar gyfer gwariant ar bethau fel seilwaith), ymhlith newidiadau eraill. Mae'r rhan fwyaf o hyn o ganlyniad i benderfyniadau yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU (30 Hydref 2024).

Mae tua £254 miliwn heb ei ddyrannu yn y Gyllideb Atodol, er mai dim ond £81 miliwn o hwnnw sy’n gysylltiedig â chyllid ar gyfer gweithgareddau o ddydd i ddydd. Gall Llywodraeth Cymru gario rhywfaint o arian o flwyddyn i flwyddyn, yn amodol ar rai rheolau.

Mwy o gyllid ar draws adrannau

Mae cyllid dewisol ar gyfer adrannau, sy'n cynnwys refeniw a chyfalaf, wedi cynyddu 4.1% neu £999 miliwn. Mae mwy o gyllid yn cael ei ddyrannu i bob un o adrannau Llywodraeth Cymru nag yn y Gyllideb Atodol Gyntaf.

Mae £388 miliwn (3.2%) ychwanegol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae Addysg a Thrafnidiaeth yn cael codiadau canrannol dau ddigid. Fodd bynnag, mae £151 miliwn o'r cynnydd mewn Addysg yn ymwneud â benthyciadau myfyrwyr nad ydynt yn arian parod.

Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Refeniw: £22,040 miliwn (cynnydd o £882 miliwn neu 4.2 y cant). DEL Cyfalaf: £3,456 miliwn (cynnydd o £116 miliwn neu 3.5%). Cyfanswm DEL: £25,496 miliwn (cynydd o £999 miliwn neu 4.1%). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £3,327 miliwn (cynnydd o 218 miliwn, neu 7%). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £28,823 miliwn (cynnydd o £1,216 miliwn neu 4.4%).

Mae Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) yn cynnwys y rhan ddewisol o’r gyllideb y mae Llywodraeth Cymru yn dewis sut i’w gwario.

Mae Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) yn rhan nad yw’n ddewisol o'r gyllideb.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol £12,600 miliwn, sef cynnydd o £388 miliwn (3.2%). Tai a Llywodraeth Leol £6,301 miliwn, sef cynnydd o £5 miliwn (0.1%). Addysg £2,666 miliwn, sef cynnydd o £316 miliwn (13.4%). Trafnidiaeth £1,683 miliwn, sef cynnydd o £202 miliwn (13.6%). Newid Hinsawdd a Materion Gwledig £840 miliwn, sef cynnydd o £9 miliwn (1.0%). Yr Economi, Ynni a Chynllunio £814 miliwn, sef cynnydd o £42 miliwn (5.4%). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu £436 miliwn, sef cynnydd o £35 miliwn (8.6%). Cyfiawnder Cymdeithasol £157 miliwn, sef cynnydd o £3 miliwn (1.9%).

Mae addysg yn cynnwys dyraniad o £428 miliwn o refeniw anghyllidol oherwydd darpariaeth cyllideb adnoddau benthyciadau myfyrwyr. Mae hyn yn cyfrif am £151 miliwn o’r cynnydd a welwyd yn y Gyllideb Atodol hon.

 

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd a Llywodraeth Cymru (Ail Gyllideb Atodol 2024-25)

Arian ar gyfer cyflog a phensiynau

Mae'r Gyllideb Atodol yn gwneud £264 miliwn o ddyraniadau ar gyfer dyfarniadau cyflog a gyhoeddwyd eisoes. Ar 10 Medi, nododd y Prif Weinidog gytundeb Llywodraeth Cymru ar gyflog y sector cyhoeddus. Yn 2024-25, mae staff y GIG, athrawon a gweithwyr y sector cyhoeddus mewn llawer o wasanaethau datganoledig yn cael codiadau cyflog o rhwng 5% a 6%.

Ochr yn ochr â chyflog mae £25 miliwn yn gysylltiedig â newidiadau i ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo cyfraniadau i rai cynlluniau pensiwn. Gwelsom ddyraniad llawer mwy ar gyfer rhywbeth tebyg yn y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25.

Dyraniadau allweddol eraill i adrannau Llywodraeth Cymru

Mae'r Gyllideb Atodol yn amlinellu £208 miliwn i “gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog”. Mae hyn yn cynnwys dyraniadau a gyhoeddwyd eisoes. Ymhlith y dyraniadau mae:

  • £50 miliwn ar gyfer amseroedd aros;
  • £27 miliwn ar gyfer lleihau llwybrau gofal;
  • £21 miliwn i gefnogi rhaglen fuddsoddi mewn offer diagnostig a dyfeisiau meddygol ar draws GIG Cymru;
  • £20 miliwn ar gyfer safonau ysgolion; ac
  • £20 miliwn ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion a cholegau drwy'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Mae’r Gyllideb Atodol hefyd yn amlygu £297 miliwn o ddyraniadau net eraill. Mae hyn yn cynnwys £147 miliwn ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â chwyddiant a newidiadau yn y proffil cyflawni sy’n gysylltiedig â Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu £18.5 miliwn o gyfalaf “i gydnabod yr heriau ariannol sylweddol sy'n wynebu addysg uwch”. Mae hyn yn dilyn sylwadau gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, yr adroddwyd yn gynharach ym mis Chwefror, gan awgrymu:

There wouldn't be any additional Welsh government funding available, unless we were looking to cut back from other areas such as the NHS, education, or public services that we all rely on.

Mae nifer o ddyraniadau eraill, gan gynnwys pethau rydym yn eu gweld yn rheolaidd fel dyraniadau ar gyfer y gordal iechyd mewnfudo, yn ogystal â newidiadau technegol, fel £75 miliwn yn gysylltiedig â'r Grant Tai Cymdeithasol.

Mae yna hefyd £215 miliwn o symudiadau mewn DEL Adnoddau Anghyllidol, gan gynnwys y £151 miliwn ar gyfer benthyciadau myfyrwyr, a grybwyllwyd uchod, a £62 miliwn ar gyfer dibrisiant yn ymwneud â Trafnidiaeth Cymru.

Beth nesaf?

Mae'r Canghellor i fod i gyflwyno Datganiad Gwanwyn y DU ar 26 Mawrth. Heb fod yn rhy hir ar ôl hynny byddwn yn cael canlyniadau Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, a ddylai ddod i ben ar 11 Mehefin. Gallai’r ddau o’r rhain fod â goblygiadau i Gymru, ond gallai’r olaf gael effaith ehangach ar yr adnoddau sydd gan Lywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi amlinellu ei awydd am newidiadau o ran terfynau benthyca a sut y gellir defnyddio Cronfa Wrth Gefn Cymru, rhywbeth y mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi’i gefnogi. Mae maniffesto Llafur y DU ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024 hefyd yn nodi bod Fframwaith Cyllidol Cymru ‘wedi dyddio’. Mae wedi'i awgrymu bod y trafodaethau hyn yn rhan o'r Adolygiad o Wariant.

Felly, er y gallai’r Gyllideb Atodol hon ddwyn i ben sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwario ei harian yn 2024-25, mae’r sgwrs ynghylch cyllid i Gymru a’i phwerau cyllidol yn mynd rhagddi.

Gallwch wylio’r ddadl ar Ail Gyllideb Atodol 2024-25 ar SeneddTV ar 18 Mawrth. Bydd trawsgrifiad o'r trafodion hefyd ar gael tua 24 awr yn ddiweddarach.


Erthygl gan Owen Holzinger a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru