Llaw yn dal amrywiaeth o nodiadau banc y DU, gan gynnwys £5, £10 a £20.

Llaw yn dal amrywiaeth o nodiadau banc y DU, gan gynnwys £5, £10 a £20.

Beth sydd ar y gweill yn Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26?

Cyhoeddwyd 16/03/2026

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hail Gyllideb Atodol ar gyfer 2025-26 ar 24 Chwefror 2026. Mae'n dangos newidiadau ers y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2025-26 yr haf diwethaf, ac mae'n cynnwys bron £3.2 biliwn o refeniw a chyfalaf ychwanegol ar gyfer adrannau, gan godi'r cyllid cyffredinol a ddyrannwyd i adrannau o £26.3 biliwn i £29.5 biliwn. Fodd bynnag, mae bron £2.8bn o'r rhain yn ddyraniadau anariannol, lle nad oes modd eu dyrannu i wariant adnoddau.

Yn yr erthygl hon rydym yn edrych ar rai o'r dyraniadau ar draws adrannau a sut mae cyllid wedi newid. Bydd y Senedd yn trafod yr Ail Gyllideb Atodol ar 18 Mawrth.

Rheoli'r gyllideb hyd at y diwedd un

Dywedodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, wrth y Pwyllgor Cyllid, fod y Gyllideb Atodol hon yn parhau i adlewyrchu blaenoriaethau'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.

Dyraniadau allweddol i adrannau Llywodraeth Cymru

Mae'r dyraniadau allweddol yn yr Ail Gyllideb Atodol yn cynnwys:

Mae gan Lywodraeth Cymru £46.8 miliwn o adnodd (£42.2 miliwn o adnodd cyllidol) a £45m o gyfalaf (£14.8m o gyfalaf trafodion ariannol) yn ei chronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu yn dilyn y Gyllideb Atodol.

Wrth edrych ymlaen, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid fod y Llywodraeth yn rheoli'r gyllideb hyd at y diwedd un, a nododd y bydd digon yn y cronfeydd wrth gefn i wythnos olaf y flwyddyn ariannol pe bai unrhyw beth annisgwyl yn digwydd.

Yn gyffredinol, mae dyraniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer refeniw ynghyd â chyfalaf (ac eithrio Gwariant a Reolir yn Flynyddol yn cynyddu £3.2bn neu 12.1% o'i gymharu â Chyllideb Atodol Gyntaf 2025-26.

Mae Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) yn cynnwys y rhan ddewisol o’r gyllideb y mae Llywodraeth Cymru yn dewis sut i’w gwario.

Mae Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) yn rhan nad yw’n ddewisol o'r gyllideb.

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru ac Ymchwil y Senedd

Mae gorwariant byrddau iechyd yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r refeniw a ddyrannwyd i iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r Ail Gyllideb Atodol yn dyrannu £200m o gyllid refeniw ychwanegol "i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG gyda phwysau yn ystod y flwyddyn a pharhau i gefnogi'r GIG i gynnal cynnydd yn erbyn ei flaenoriaeth o leihau amseroedd aros yn 2025-26".

Pan ofynnodd y Pwyllgor Cyllid faint o'r £200m hwnnw fydd yn darparu darpariaeth gofal iechyd ychwanegol, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

We made an allocation at the start of the year, which was in the first supplementary budget, of £120 million, and that is the money that has been used to bring down waiting times and waiting lists in this financial year.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid fod y mwyafrif o'r £200m ychwanegol, sef tua £140m, yn mynd tuag at gydnabod gorwariant byrddau iechyd.

Benthyciadau myfyrwyr yn cyd-fynd â'r DU

Mae'r Ail Gyllideb Atodol yn cynnwys bron £2.6bn i'r adran addysg fel swm nad yw'n arian parod i'r gyllideb sydd wedi'i neilltuo ar gyfer benthyciadau myfyrwyr. Mae hyn yn dilyn newid i'r model prisio benthyciadau myfyrwyr yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r model a ddefnyddir gan Adran Addysg Llywodraeth y DU.

Yn 2025, gwnaeth Llywodraeth Cymru brisiad o’r ased benthyciadau myfyriwr, hynny yw yr amcangyfrif o'r swm yr oedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyfyrwyr ei ad-dalu, sef £8.9bn.

Fodd bynnag, gwnaed y cyfrifiad hwn gan ddefnyddio model ystadegol hŷn o'i gymharu â'r un a ddefnyddiwyd gan yr Adran Addysg, sy'n defnyddio techneg wahanol a data mwy newydd. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod y dystiolaeth yn dangos bod y model a'r data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru "yn debygol oorddatgan enillion ac ad-daliadau gyrfa yn berthnasol ac felly gwerth yr ased".

Pan ofynnwyd iddo pam nad yw'r £2.6bn yn cael ei roi i ysgolion, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid bod hyn oherwydd ei fod yn ddyraniad nad yw'n arian parod:

This is not money that we can spend. So, if people say, 'Why aren't you spending that on schools?', the answer is, 'It's not that sort of money.' It is a very large sum of money, but it's not money that comes to the Welsh Government that we can choose to use it for those other sorts of purposes.

Fe wnaeth Mike Hedges AS dynnu sylw at bwysigrwydd ei gwneud yn gwbl glir i randdeiliaid nad yw hyn yn arian sy'n cael ei ddwyn oddi wrth ysgolion, ond ei fod yn hytrach yn rhywbeth hollol wahanol.

Hyd yn hyn, mae Trysorlys EF wedi ariannu'n llawn y cynlluniau benthyciadau myfyrwyr ar y sail bod costau'n gymharol ar draws y pedair gwlad. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid, cyn belled ag nad yw cynllun Llywodraeth Cymru yn costio mwy na chynlluniau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, y bydd y Trysorlys yn parhau i dalu amdano.

Cyllid cyfalaf ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw ym maes addysg

Dyrannwyd £60.5m o’r cronfeydd cyfalaf cyffredinol wrth gefn i gefnogi rhaglenni cyfalaf mewn ysgolion, a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys:

  • £35m i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyfalaf hanfodol ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru.
  • £25.5m i gefnogi'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach, gyda thrawsnewidiad cyfalaf buddsoddi i arbed a chynnal a chadw cyfalaf.

Pan ofynnwyd i'r Pwyllgor Cyllid sut y bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol hwn yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad o ran cynnal a chadw ysgolion, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

[…] there's a lot of our estate that is very modern and in a very good state of repair, and, since 2018, we've invested over £300 million in the running maintenance of other buildings. So, the extra £60 million, particularly in the schools context, continues to make an inroad into any backlogs.

Beth nesaf?

Dyma fydd y Gyllideb Atodol derfynol ar gyfer 2025-26, ac wrth i'r diddymiad agosáu, dyma fydd un o'r dadleuon olaf i'w chynnal yn ystod y Chweched Senedd.

Gallwch ddilyn y ddadl ar SeneddTV.

Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru