Etholaethau newydd, system bleidleisio wahanol a rhagor o Aelodau. Dyma rai o’r prif newidiadau sy’n dod yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.
Mae’r erthygl hon - y gyntaf yn ein cyfres ar yr etholiad sydd i ddod - yn edrych ar y newidiadau hyn yn fanylach.
Rhagor o Aelodau
Ym mhob un o etholiadau’r Senedd ers y cyntaf ym 1999, mae Cymru wedi ethol 60 Aelod.
Ar ôl i’r Senedd gytuno ar Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 y llynedd, bydd nifer yr Aelodau yn cynyddu i 96 o 2026 ymlaen.
Mae hyn yn golygu bod nifer Aelodau’r Senedd (ar gyfer poblogaeth o 3.2 miliwn) ychydig yn uwch na Chynulliad Gogledd Iwerddon, sydd â 90 o Aelodau ar gyfer poblogaeth o 1.9 miliwn o bobl, ac yn is na Senedd yr Alban, sydd â 129 o Aelodau ar gyfer poblogaeth o 5.5 miliwn.
Un o’r prif sbardunau a gyflwynwyd o blaid y newid hwn oedd sicrhau bod y Senedd yn gallu cyflawni ei chyfrifoldebau o ran polisi, ei chyfrifoldebau deddfwriaethol a’i chyfrifoldebau craffu. Mae ein herthygl a gyhoeddwyd ym mis Mai yn edrych ar waith Pwyllgor Senedd y Dyfodol ar sut y gallai Senedd fwy wella gwaith craffu, cryfhau atebolrwydd ac ehangu cynrychiolaeth.
Etholaethau newydd
Bydd yr 96 o Aelodau yn cael eu hethol o 16 o etholaethau newydd.
Ym mhob un o’r 16 o etholaethau newydd, bydd pleidleiswyr yn ethol chwe Aelod drwy’r system cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig (gweler isod).
Penderfynwyd ar yr etholaethau newydd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, corff annibynnol sy’n adolygu ffiniau etholiadol ar gyfer y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru. Roedd yn ofynnol i’r Comisiwn droi’r 32 o etholaethau presennol Cymru ar gyfer etholiadau Senedd y DU yn 16 o etholaethau Senedd Cymru.
Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn ar 11 Mawrth 2025. Gwnaeth Llywodraeth Cymru yr is-ddeddfwriaeth i ddwyn argymhellion y Comisiwn i rym ym mis Mehefin 2025.
Nid yw’r etholaethau hyn o reidrwydd yn barhaol, fodd bynnag - cynhelir adolygiad llawn o’r ffiniau cyn etholiad 2030.
I gael rhagor o wybodaeth am yr etholaethau newydd, gweler ein herthygl a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
System bleidleisio newydd
Bydd yr Aelodau’n cael eu hethol yn yr etholaethau newydd gan ddefnyddio system etholiadol newydd – a elwir yn gynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig.
O dan y system hon, bydd pleidleiswyr yn pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Bydd pleidiau gwleidyddol yn dewis hyd at wyth ymgeisydd i sefyll ym mhob etholaeth, a dim ond fel unigolion y bydd modd i ymgeiswyr annibynnol sefyll. Bydd pleidiau yn categoreiddio eu hymgeiswyr yn y drefn y maent i’w hethol. Bydd chwe Aelod yn cael eu hethol o bob un o’r 16 o etholaethau.
Ar ôl i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholaeth, defnyddir fformiwla D’Hondt i gyfrifo faint o seddi y mae pob plaid wedi’u hennill. Yna, bydd seddi’n cael eu dyrannu i ymgeiswyr y blaid yn y drefn y maent wedi’u rhestru. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, caiff ei ethol i un o’r chwe sedd.
Bydd enwau a safleoedd ymgeiswyr ar gael yn y cyfnod cyn yr etholiad, a byddwch yn gallu gweld enwau a threfn ymgeiswyr y blaid ar y papur pleidleisio. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu newid y drefn y mae ymgeiswyr y blaid yn cael eu hethol - bydd y pleidiau wedi penderfynu ar y drefn cyn yr etholiad.
Byddwn yn edrych ar y system etholiadol yn fanylach mewn erthygl yn ddiweddarach yn y gyfres hon.
Tymhorau byrrach i’r Senedd
O 2026 ymlaen, bydd etholiadau cyffredinol y Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, yn lle pob pum mlynedd. Mae hyn yn golygu bod yr etholiad nesaf ar ôl 2026 wedi’i drefnu ar gyfer 2030.
Cynhaliwyd etholiadau’r Senedd bob pedair blynedd am ei thri thymor cyntaf, fodd bynnag, newidiwyd hyn i bob pum mlynedd gan Ddeddf Cymru 2014. Y rheswm dros hyn oedd atal etholiadau’r Senedd ac etholiadau cyffredinol y DU rhag digwydd ar yr un diwrnod ar ôl i hyd tymhorau Senedd y DU o bum mlynedd gael ei bennu yn 2011.
Wrth gyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), dywedodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y pryd:
…tymhorau pedair blynedd oedd yn arferol i Gymru ar ôl datganoli a dim ond mewn ymateb i Ddeddf Seneddau Tymor Penodol y DU 2011 y newidiwyd hyn. Mae’r Ddeddf honno wedi cael ei diddymu wedi hynny, ac rwyf i o’r farn y byddai dychwelyd i dymhorau pedair blynedd yn fwy priodol o ran cydbwyso ystyriaethau adnewyddu democrataidd ac atebolrwydd i bobl Cymru.
Gofynion cymhwystra newydd ar gyfer ymgeiswyr
Mae gofynion cymhwystra penodol ar gyfer pobl sy’n dymuno sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Senedd a gwasanaethu fel Aelodau o’r Senedd.
Er enghraifft, i sefyll mewn etholiad, rhaid i berson fod yn 18 oed o leiaf ac yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad, yn ddinesydd tramor cymwys, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu’n ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig.
O 2026 ymlaen, bydd angen i ymgeiswyr (ac Aelodau) hefyd fod wedi’u cofrestru ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru (h.y. wedi’u cofrestru i bleidleisio). Mae hyn yn golygu bod rhaid i ymgeiswyr fod yn preswylio yng Nghymru er mwyn gallu sefyll. Byddai’r gofyniad hwn yn para drwy gydol eu hamser fel Aelod o’r Senedd.
Bydd cynghorwyr tref a chymuned hefyd yn cael eu hanghymhwyso rhag gwasanaethu fel Aelodau o’r Senedd am y tro cyntaf, gan eu dwyn yn unol â’r rheolau presennol ar gyfer aelodau o gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol. Mae hyn yn golygu, os bydd Cynghorydd yn ennill sedd yn y Senedd, y byddai angen iddo ymddiswyddo o’i rôl yn y cyngor.
Bydd rhagor o wybodaeth am gymhwystra i sefyll fel ymgeisydd ar gael mewn erthygl ddiweddarach yn y gyfres.
Yr wybodaeth ddiweddaraf
Yr erthygl hon yw’r gyntaf o lawer yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi yn y cyfnod cyn yr etholiad. Bydd y rhain yn cynnwys erthyglau sy’n esbonio beth yw datganoli, beth mae angen ichi ei wybod fel ymgeisydd, beth yw’r system etholiadol newydd a mwy.
Bydd yr holl erthyglau yn cael eu cyhoeddi ar hafan y gyfres etholiadau.
Erthygl gan Adam Cooke a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.