“Beth sy’n dod yn gyntaf, chwarae rygbi neu fwyta?”: mae anghydraddoldebau'n cynyddu o ran cymryd rhan mewn chwaraeon

Cyhoeddwyd 28/11/2022   |   Amser darllen munud

Ar 30 Tachwedd, bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig.

Fel sy’n wir am gynifer o feysydd, mae effaith y pandemig ar allu pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi bod yn anghyfartal. Mae data gan Chwaraeon Cymru (o fis Chwefror 2022), y corff cenedlaethol sy’n gweithio i ddatblygu chwaraeon, yn dangos bod bron i draean o oedolion yn teimlo bod y pandemig wedi cael effaith gadarnhaol ar eu harferion o ran ymarfer corff. Roedd y rhai a ganfu fod y gwrthwyneb yn wir yn cynnwys pobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol is a phobl sydd â phroblemau iechyd hirsefydlog – ac mae’r ddau ffactor hwn yn fwy cyffredin mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'n debyg y bydd y cynnydd mewn costau byw yn cynyddu'r anghydraddoldebau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y pandemig wedi tynnu sylw at fanteision gweithgarwch corfforol - sy'n lleihau cyfraddau marwolaeth o ganlyniad i COVID a llu o gyflyrau eraill. Fodd bynnag, gyda’r cynnydd bach yn y cyllid a ddyrennir i Chwaraeon Cymru yn cael ei lyncu gan chwyddiant, mae'n anodd gweld sut y gellir troi’r geiriau hyn yn rhagor o weithgarwch corfforol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (y Pwyllgor) y Senedd adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig, gan alw am ddull gweithredu cenedlaethol newydd a rhagor o gyllid. Gwrthododd Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad.

Rhagor o anghydraddoldebau yn ystod y pandemig

Yn fuan ar ôl y cyfnod clo cyntaf yng ngwanwyn 2020, comisiynodd Chwaraeon Cymru waith ymchwil i’r newid yng ngweithgarwch corfforol y genedl. Mae arolygon tebyg, a gynhaliwyd oddeutu pob chwe mis ers hynny, yn dangos sut y newidiodd ymddygiad, a pha batrymau a barhaodd ar ôl i’r cyfyngiadau ddod i ben.

Dangosodd yr arolygon cynnar fod cyfanswm yr ymarfer corff a wnaed gan bobl Cymru wedi parhau’n weddol gyson â’r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Yr hyn a newidiodd oedd y ffordd yr oedd y gweithgarwch hwn wedi’i ddosbarthu ar draws cymdeithas.

Yn yr arolwg cyntaf ym mis Mai 2020, dywedodd oedolion o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch eu bod yn gwneud mwy o ymarfer corff na chyn y pandemig. Adroddodd oedolion o grwpiau economaidd-gymdeithasol is bod lefelau eu gweithgarwch corfforol wedi gostwng.

Mae data o fis Chwefror 2022 yn dangos bod bron i draean o oedolion yn teimlo bod y pandemig wedi arwain at newidiadau cadarnhaol i’w harferion o ran ymarfer corff. Fodd bynnag, mae dros 40 y cant o oedolion yn teimlo bod y gwrthwyneb yn wir. Dynion, oedolion hŷn, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a phobl sydd â chyflwr neu salwch hirdymor yw’r bobl fwyaf tebygol o deimlo bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu harferion o ran ymarfer corff.

Yn y cyfamser, mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol gan Chwaraeon Cymru yn dangos bwlch cyson iawn o ganlyniad i amddifadedd o ran lefelau cyfranogiad plant a phobl ifanc oedran ysgol mewn chwaraeon. Yn 2022, roedd 32 y cant o ddisgyblion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (yn seiliedig ar gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim) yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu hwnt i’r hyn a nodir yn y cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 47 y cant o ddisgyblion yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae’r bwlch hwn o 15 pwynt canran wedi cynyddu ychydig (cynnydd o 2 bwynt canran) ers yr arolwg diwethaf yn 2018.

A yw lefelau cyllid yn ddigonol i sicrhau mai chwaraeon yw ‘offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad’?

Pan roedd y cyfnodau clo COVID-19 ar eu hanterth, ymarfer corff oedd un o'r ychydig resymau y gallai pobl adael eu cartrefi yn gyfreithlon. Roedd manteision lu gweithgarwch corfforol o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn cynnwys lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â COVID-19 ei hun. Unwaith yr oedd y cyfyngiadau wedi’u llacio, roedd yn ymddangos ein bod yn barod am ffocws cynyddol ar chwaraeon, a hynny ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y “pandemig wedi effeithio ar ein hiechyd corfforol, ac wedi creu argyfwng iechyd meddwl”, ac wedi ychwanegu y gall “chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad, ond mae angen mwy o flaenoriaethu traws-sector i greu'r newidiadau cynaliadwy hirdymor mewn cyfranogiad”.

Ymddengys mai gofal iechyd ataliol yw’r presgripsiwn cywir ar gyfer gwlad lle cynyddodd rhestrau aros y GIG 50 y cant rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022. Fodd bynnag, yn hytrach nag ymateb i’r her hon, mae’r cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru wedi aros yn wastad, gan gyfyngu ar allu’r sefydliad i fanteisio ar y momentwm hwn.

O gymharu â chyllideb derfynol 2021-2022, mae cyllid refeniw ar gyfer Chwaraeon Cymru wedi cynyddu o £22.4 miliwn i £22.7 miliwn yng nghyllideb derfynol 2022-23 (cynnydd o 1 y cant mewn termau arian parod). Rhagwelir y bydd y cyllid hwn yn cynyddu i £24.1 miliwn erbyn 2024-25 – cynnydd o 6 y cant mewn termau arian parod, ond ymhell islaw’r gyfradd chwyddiant gyfredol.

O gymharu â chyllideb derfynol 2021-2022, mae cyllid cyfalaf ar gyfer Chwaraeon Cymru wedi gostwng o £8.6 miliwn i £8 miliwn yng nghyllideb derfynol 2022-23 (gostyngiad o 7 y cant mewn termau arian parod). Rhagwelir mai £8 miliwn fydd lefel y cyllid hwn tan 2024-25.

Nid dim ond o’r gyllideb ar gyfer chwaraeon y daw’r arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddyrannu ar gyfer chwaraeon, ond o feysydd eraill o wariant cyhoeddus fel awdurdodau lleol ac ysgolion. Caiff rhai ymyriadau eu hariannu’n uniongyrchol o’r gyllideb iechyd: cafodd cyfanswm o £1.6 miliwn ei wario ar yr ymyriadau hyn yn 2021/22, neu 5 y cant o’r cyllid a ddyrannwyd i Chwaraeon Cymru y flwyddyn honno.

Mae Norwy a Seland Newydd yn aml yn cael eu nodi fel arweinwyr byd o ran nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Dywedodd Matthew Williams o Gymdeithas Chwaraeon Cymru wrth y Pwyllgor ei bod yn hynod bwysig pwysleisio bod y gwledydd hyn yn gwario rhwng 5 a 10 gwaith y swm yr ydym ni yn ei wario ar chwaraeon. Aeth ymlaen i ddweud: “Wales does very, very, very well on participation and on elite performance off a relatively small slice of investment.”

“Beth sy’n dod yn gyntaf - wyt ti’n dewis bwyta neu wyt ti’n chwarae rygbi?”

Mae dinasyddion preifat yn gwario llawer rhagor ar chwaraeon na'r wladwriaeth. Amcangyfrifodd Prifysgol Sheffield Hallam (mewn adroddiad ar gyfer Chwaraeon Cymru) fod defnyddwyr wedi gwario £167 miliwn ar gymryd rhan mewn chwaraeon yn 2019, dros bum gwaith yn fwy na chyllideb flynyddol Chwaraeon Cymru. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau i grebachu incwm aelwydydd mewn termau real, mae’n bosibl iawn y bydd yn rhaid i bobl mewn ardaloedd difreintiedig ailflaenoriaethu’r gwariant hwn i ymateb i anghenion mwy uniongyrchol.

“Beth sy’n dod yn gyntaf - wyt ti’n dewis bwyta neu wyt ti’n chwarae rygbi?” Dyna gwestiwn un hyfforddwr i’r Pwyllgor. Aeth ymlaen i ddweud: “Mae £15 yn swm enfawr i rai teuluoedd. I blant sy’n teithio i gemau oddi cartref, mae costau petrol yn enfawr. Mae’n siŵr o gael effaith barhaol.” Mae’r data diweddaraf gan Chwaraeon Cymru (mis Awst 2022) yn dangos bod 41 y cant o bobl yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Cynyddodd anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y pandemig, ac mae'n ymddangos y bydd y bylchau hyn yn tyfu’n fwy fyth oherwydd yr argyfwng costau byw. Dim ond un rhan yw’r duedd hon o ddarlun mwy ble mae anghydraddoldebau iechyd yn cynyddu yn ystod y degawd diwethaf. Mae’r gyfradd marwolaethau cynamserol oherwydd anhwylderau’r galon a chylchrediad y gwaed ym Mlaenau Gwent (un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru) bron i ddwbl y ffigur ar gyfer Bro Morgannwg (un o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig).

Daeth adroddiad diweddar arall gan y Pwyllgor i’r casgliad bod y sectorau chwaraeon a diwylliant yn arbennig o agored i effaith costau cynyddol – ac mae’r bylchau o ran cyfranogiad yn cynyddu, a risg y bydd lleoliadau fel pyllau nofio yn cau’n barhaol. Roedd yr adroddiad yn galw am gyllid ychwanegol wedi’i dargedu ar gyfer y sectorau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y “gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad”, ac yn fwy diweddar galwodd am waddol o gwpan y byd sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fechgyn a merched. Fodd bynnag, mae lefel wastad y cyllid sydd wedi’i ddyrannu at y sector a diffyg newidiadau sylweddol mewn polisi yn codi cwestiynau ynghylch sut y bydd cylch yr anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yn cael ei dorri.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru