Beth sy’n digwydd mewn perthynas â Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)?

Cyhoeddwyd 05/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2022   |   Amser darllen munudau

Cafodd Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) ei gyflwyno yn y Senedd ar 13 Rhagfyr 2021 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (LJC) adroddiadau ar eu gwaith craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1. Nododd y ddau adroddiad bryderon am y Bil, gan gynnwys:

  • y ffaith bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ag effaith ôl-weithredol;
  • y ffaith bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru newid y pwerau presennol i wneud rheoliadau yn Neddfau Trethi Cymru;
  • y ffaith nad yw’r Bil yn darparu ar gyfer isafswm cyfnod o amser i’r Senedd gael craffu ar reoliadau.

Yn sgil y pryderon hyn, gwnaed gwelliannau i’r Bil yng Nghyfnod 2 er mwyn darparu mesurau diogelu ac er mwyn ceisio sicrhau bod y pwerau’n cael eu defnyddio mewn modd cyfrifol.

Ar 5 Gorffennaf 2022, bydd y Senedd yn cynnal dadl Cyfnod 3 ar y Bil ac yn pleidleisio ar welliannau arfaethedig a gyflwynwyd. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.

Beth mae’r Bil yn ei wneud?

Cynigia’r Bil roi pŵer newydd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio tair Deddf sy’n ymwneud â threthu yng Nghymru:

Byddai’r pŵer a roddir yn y Bil yn cael ei ddefnyddio i wneud newidiadau brys i Ddeddfau Trethi Cymru mewn ymateb i bedwar senario, sef:

  1. sicrhau bod trethi datganoledig Cymru yn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol;
  2. diogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru;
  3. ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (y rhai ble y mae gan Gymru dreth ddatganoledig gyfatebol) sy’n effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru neu a allai effeithio ar y swm hwnnw;
  4. ymateb i benderfyniadau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd sy’n effeithio ar sut y mae Deddfau Trethi Cymru, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt, yn gweithredu, neu a allai effeithio ar sut y maent yn gweithredu.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi crynodeb o'r Bil, sy’n darparu gwybodaeth ychwanegol am y Bil.

Pa newidiadau a wnaed yn ystod Cyfnod 2?

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 ar y Bil gan y Pwyllgor Cyllid ar 9 Mehefin 2022. O ganlyniad i’r trafodion hynny, cafwyd newidiadau i’r Bil. Mae’r newidiadau’n cynnwys:

Newidiadau ôl-weithredol

Mae’r gwelliant hwn yn mewnosod cyfyngiad newydd sy’n atal rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sydd ag effaith ôl-weithredol rhag bod yn gymwys o unrhyw ddyddiad cyn y dyddiad y cyhoeddwyd y newid deddfwriaethol neu y cafwyd hysbysiad yn ei gylch, naill ai drwy ddatganiad llafar gweinidogol neu ddatganiad ysgrifenedig.

Dywedodd y Gweinidog:

The restriction will only apply in cases where there is a negative tax impact. That is, where there is any new liability or increased liability to land transaction tax or landfill disposals tax on a taxpayer.

Nid yw’r cyfyngiad yn berthnasol i sefyllfaoedd pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r pŵer i wneud newidiadau ag effaith ôl-weithredol sy’n lleihau’r dreth a godir, ac sydd felly’n cael effaith gadarnhaol ar drethdalwyr.

Dywedodd y Gweinidog: “This is so that changes can be made to legislation to reduce taxpayers' liabilities to a date before the announcement.”

Graddfa’r newidiadau a ganiateir i Ddeddfau Trethi Cymru

Mae’r gwelliant hwn yn gwahardd Gweinidogion Cymru rhag defnyddio’r pŵer yn adran 1 o’r Bil i wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.

Mae hefyd yn cyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r gweithdrefnau presennol ar gyfer gwneud rheoliadau yn Neddfau Trethi Cymru, ac unrhyw weithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau yn y dyfodol sydd i’w cyflwyno i Ddeddfau Trethi Cymru.

Y weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed'

Bydd gofyn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ pan fydd angen sicrhau bod newidiadau yn dod i rym ar unwaith neu’n fuan wedi hynny. Bydd rheoliadau cadarnhaol ‘gwnaed’ yn cael effaith dros dro, a rhaid iddynt gael eu cymeradwyo o fewn cyfnod o 60 diwrnod Senedd ar y mwyaf i ddod yn barhaol.

O ran y rheoliadau sy’n cael eu gosod gerbron y Senedd gan ddefnyddio’r pŵer o fewn adran 1 o’r Bil, ac sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, rhaid iddynt gael ei gosod am gyfnod o 28 diwrnod o leiaf cyn i’r Senedd bleidleisio arnynt.

Dywedodd y Gweinidog:

This amendment is to provide sufficient time for the Senedd to scrutinise regulations before the motion to approve is heard and voted upon.

Cymal machlud

Mae’r gwelliant hwn yn cyfyngu ar hyd oes y pŵer a ddarperir gan adran 1 o’r Bil. Mae’n nodi y bydd y pŵer i wneud rheoliadau o fewn adran 1 yn dod i ben bum mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym, oddeutu mis Medi 2027. Bydd y rheoliadau a wneir cyn i'r pŵer ddod i ben yn parhau i fod yn ddilys.

Mae’r gwelliant hwn hefyd yn rhoi cyfle i’r Senedd nesaf ymestyn oes y pŵer i wneud rheoliadau o gyfnod arall o hyd at bum mlynedd.

Eglurodd y Gweinidog:

That extension is a once-only opportunity; it will not be a rolling renewal and is intended to permit that Senedd to ensure, if they wish, that the longer term arrangements are fully in place before removing the flexibility provided by this Bill.

Adolygu'r Ddeddf

Mae’r gwelliant hwn yn mynd i’r afael â’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, sef y dylid gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi casgliadau’r adolygiad a gynhelir ynghylch gweithrediad ac effaith y Ddeddf.

Mae’n mewnosod adran newydd ynghylch yr adolygiad dan sylw, sy’n broses y mae’n rhaid ei chwblhau heb fod yn hwyrach na phedair blynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym. Dywedodd y Gweinidog:

The timing of this review is intended to ensure that enough time has passed to make the review meaningful, but also so that the outcome of the review will be able to inform the development of the future architecture early in the next Senedd term.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Femorandwm Esboniadol diwygiedig ar 28 Mehefin 2022 er mwyn ymgorffori’r gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 2. Yn ogystal, cyhoeddodd  ddatganiad polisi drafft wedi'i ddiweddaru ynghylch dull Gweinidogion Cymru o wneud rheoliadau sydd ag effaith ôl-weithredol.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru