Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddraft Amlinellol ar gyfer 2026-27 ar 14 Hydref 2025, wedi’i dilyn gan Gyllideb Fanwl ar 3 Tachwedd 2025.
Mae Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn dyrannu £26.7 biliwn mewn DEL refeniw a chyfalaf, sy’n gynnydd o £846 miliwn, neu 3.3%, o'i gymharu â 2025-26.
Cyn dadl y Senedd ar y Gyllideb Ddrafft ar 16 Rhagfyr, mae'r erthygl hon yn nodi'r hyn rydym wedi'i ddysgu yn ystod gwaith craffu.
Dull "busnes fel arfer" o bennu cyllidebau adrannol
Ym mis Gorffennaf 2025, dywedodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, wrth y Cyfarfod Llawn ei fod yn cynllunio cyllideb “busnes fel arfer” ar gyfer 2026-27. Roedd hyn yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn ailddatgan dyraniadau cyllideb 2025-26 yn unol â “chwyddiant”. Ni fyddai'n canolbwyntio ar flaenoriaethau newydd na pholisïau ffres.
Penderfynodd yr Ysgrifennydd Cabinet beidio â dyrannu'r holl arian o fewn y Gyllideb Ddrafft, gyda £380 miliwn wedi’u dal yn y gronfa wrth gefn. Mae hyn yn cynnig llwyfan i ganiatáu trafodaethau gydag Aelodau a grwpiau pleidiau "sy'n credu y gellir cytuno ar gyllideb fwy uchelgeisiol".
Nododd adroddiad Amlinellol y Gyllideb Ddrafft 2026-27 mai'r dull o ddyrannu cyllid i adrannau oedd cymryd llinell sylfaen ddiwygiedig 2025-26 ac ychwanegu:
- cynnydd o 2.2% i'r adnoddau cyllidol a ddarperir ar gyfer elfennau cyflog y sector cyhoeddus ym mhob adran.
- cynnydd o 2% ar gyfer adnoddau cyllidol nad ydynt yn gysylltiedig â chyflogau, cyfalaf cyffredinol a chyfalaf trafodiadau ariannol.
Mae hefyd nifer cyfyngedig o addasiadau eraill.
Gydag Adroddiad Llywodraeth Cymru ar Gyllideb Ddrafft Fanwl 2026-27 (a gyhoeddwyd ar 3 Tachwedd) cyhoeddwyd tablau Llinellau Gwariant yn y Gyllideb ('BEL'), ac roeddynt yn nodi cynlluniau gwariant pob Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diweddaru'r tablau sy'n cefnogi ei chynlluniau gwario, a gyhoeddodd gyda Chyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27.
Mae'r tablau BEL yn dangos nad yw yr Ysgrifenyddion Cabinet wedi cymhwyso'r codiadau a ddefnyddir i gyfrifo cyfanswm y cyllid ar gyfer eu portffolio ar draws y BEL, gyda rhai cyllidebau yn cael eu cadw ar Linell Sylfaen Ddiwygiedig 2025-26 mewn termau arian parod (sy'n cynrychioli gostyngiad mewn termau real), gyda rhai yn gostwng mewn termau arian parod. Mae’r Gyllideb Ddrafft Fanwl yn nodi bod "pob un o Ysgrifenyddion y Cabinet wedi gwneud penderfyniadau ynghylch sut y mae'r cynnydd chwyddiannol yn cael ei ddyrannu o fewn eu portffolios." Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
Cynlluniau gwario cychwynnol yw'r rhain. . Y Gyllideb Ddrafft yw dechrau proses y gyllideb – nid ei diwedd…
Datrys y pos cynhyrchiant
Mae Cymru yn rhannu 'pos cynhyrchiant' y DU, sy’n derm a ddefnyddir i ddisgrifio yr arafu yn nhwf cynhyrchiant y DU ers Argyfwng Ariannol Byd-eang 2008 a 2009. Mae ein herthygl ddiweddar ar gynhyrchiant yn edrych ar beth ydyw a'i bwysigrwydd. Mae cyfnod hir o gynhyrchiant araf yn cyfyngu ar dwf economaidd, refeniw treth a gwariant cyhoeddus.
Esboniodd yr Ysgrifennydd Cabinet sut mae Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn mynd i'r afael ag elfennau cynhyrchiant, gan gynnwys buddsoddi mewn gweithlu medrus, seilwaith a defnyddio rhanbarth ehangach Caerdydd fel crynhoad economaidd i ysgogi cynhyrchiant.
Mae Adroddiad y Gyllideb Ddrafft Fanwl 2026-27 Llywodraeth Cymru yn cyfeirio'n benodol at gynhyrchiant ond am y GIG yn unig.
Yn ystod gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft 2026-27, dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) wrth y Pwyllgor Cyllid bod angen i wella cynhyrchiant a chanlyniadau'r sector cyhoeddus fod yn rhan allweddol o wella stori cynhyrchiant Cymru yn gyffredinol.
Roedd Dadansoddiad Cyllidol Cymru’n cymharu ymagwedd Llywodraeth Cymru â chynllun cynaliadwyedd cyllidol Llywodraeth yr Alban sy'n sôn am arbedion effeithlonrwydd, cynhyrchiant, twf cyfrif pennau, ac ati. Dywedodd nad yw wedi gweld hynny gan Lywodraeth Cymru.
O ran cynhyrchiant yn y sector preifat, dywedodd FSB Cymru y gallai canolbwyntio ar rai gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru sy'n gweithio newid y duedd cynhyrchiant yng Nghymru, a dywedodd Sefydliad y Cyfarwyddwyr, efallai mai’r arfer gorau fyddai cael rhagor o "lythrennedd cynhyrchiant" ymhlith busnes a llywodraeth.
A yw'r Gyllideb Ddrafft yn rhoi digon o bwyslais ar atal?
Yn ystod gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft 2026-27, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid bod y gyllideb eleni yn rhoi pwyslais cryf ar fuddsoddi mewn atal. Aeth yr Ysgrifennydd Cabinet ymlaen i nodi bod buddsoddiad i atal digartrefedd, ymhlith meysydd eraill yn 2025-26, yn cael ei ailddatgan ar gyfer 2026-27.
Yn ystod gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru:
[…]we need to understand…how much are we spending on preventative activity, and then we can start to assess what are we getting for that, what is its impact.
O ran sut y gellir mesur agenda ataliol mewn canlyniadau, awgrymodd Sefydliad Bevan y gellid defnyddio bod llai o bobl yn defnyddio gwasanaethau argyfwng, fel llety dros dro a banciau bwyd, fel canlyniadau ar gyfer atal.
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wrth y Pwyllgor "Rwy'n credu bod gennym rywfaint o ffordd i fynd i wella sut rydym yn ystyried atal mewn penderfyniadau cyllidebol".
Dywedodd Cyngor ar Bopeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid ei fod bendant yn cymeradwyo'r iaith ynghylch atal a'r camau sydd wedi'u cymryd yn y gyllideb hon ac yn y blynyddoedd blaenorol, ond heb os, mae angen mynd ymhellach.
Sut mae Cyllideb Hydref y DU yn effeithio ar Gymru?
Cynyddodd y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 £237 miliwn yn dilyn Cyllideb Hydref y DU 2025 (26 Tachwedd). O hyn, mae £186 miliwn yn gyllid refeniw a £14 miliwn yn gyllid cyfalaf, gyda £37 miliwn o ganlyniad i’r ffaith bod effaith net gadarnhaol gyffredinol trethi datganoledig yn uwch nag ar adeg y gyllideb ddrafft. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael dros £500 miliwn o gyllid ychwanegol dros y cyfnod hyd at 2029-30 drwy weithredu Fformiwla Barnett.
Yn ei hymateb i Gyllideb Hydref y DU 2025, mae Llywodraeth Cymru yn nodi buddsoddiadau yng Nghymru, gan gynnwys gorsaf bwer Wylfa a pharthau twf AI, ac ychwanega y caiff £547 miliwn ei “[d]dychwelwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno rhaglen Cronfa Twf Lleol newydd”.
Nododd Cyllideb Hydref 2025 y DU y bydd terfynau benthyca cyfalaf blynyddol a chronnol Llywodraeth Cymru, terfyn cyffredinol Cronfa Wrth Gefn Cymru, a therfynnau’r cyllid blynyddol y gellir ei dynnu i lawr yn cael eu codi 10%. O 2027-28, bydd pob un o’r terfynnau hynny yn cael eu huwchraddio‘n flynyddol yn unol â chwyddiant. Bydd llywodraeth y DU hefyd yn darparu hepgoriad dros dro o ran terfynnau tynnu i lawr Cronfa Wrth Gefn Cymru yn 2026-27.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn ymestyn y drefn o rewi trothwyon treth bersonol (treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) am dair blynedd arall, tan fis Ebrill 2031. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn disgwyl y bydd cyfanswm hyn yn codi £23 biliwn erbyn 2030-31.
Gwnaeth Cyllideb y DU newidiadau i drethiant incwm y DU o asedau, gan greu cyfraddau treth ar wahân ar gyfer incwm eiddo o fis Ebrill 2027, a fydd yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Bydd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â llywodraethau datganoledig Cymru a'r Alban i roi’r gallu iddynt bennu cyfraddau incwm eiddo yn unol â’u pwerau treth incwm cyfredol yn eu fframweithiau cyllidol.
Mae rhagor o newidiadau i gyllid a threthiant i Gymru yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n ymwneud â chynlluniau pensiwn aberthu cyflog, dileu'r terfyn dau blentyn ar Gredyd Cynhwysol a newidiadau i leihau biliau ynni cartrefi.
Effaith chwyddiant a chyflogau
Mae rhagolygon newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o chwyddiant a thwf cyflog yn uwch na'r amcangyfrifon oedd ar gael pan osodwyd cyllideb ddrafft "chwyddiant" Llywodraeth Cymru, sy'n lleihau'r cynnydd mewn termau real yn y Gyllideb Ddrafft.
Nododd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) “… “…even if all this unallocated money for day-to-day resource spending was put into the NHS, that would still be only roughly in line with the estimates of what you need to just keep things steady”.
Datganodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y pwysau sy’n parhau, ar ôl tynnu allan y galw, oddeutu 4% o'r gwariant cyllidebol, a fyddai'n gofyn am gynnydd o 5.4% mewn cyllid allanol cyfanredol.
Cytundeb cyllideb
Ar 9 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru. Fel rhan o hynny, bydd £180 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i iechyd a gofal cymdeithasol a £112.8 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol. Mae'r cytundeb hefyd yn amlinellu y bydd £120 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i Lywodraeth nesaf Cymru.
Bydd y newidiadau hyn, ynghyd ag unrhyw newidiadau eraill a wneir gan Lywodraeth Cymru y tu allan i'r cytundeb, yn cael eu hadlewyrchu yng Nghyllideb Derfynol 2026-27, i'w chyhoeddi ar 20 Ionawr 2025.
Beth sydd nesaf?
Dydd Llun (15 Rhagfyr 2025) yw'r terfyn amser i bwyllgorau gyhoeddi eu hadroddiadau ar y gyllideb, a fydd ar gael ar wefan y Senedd . Caiff y Gyllideb Ddrafft ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Rhagfyr a bydd ar gael i'w gwylio'n fyw ar Senedd tv. Bydd pleidlais i nodi'r gyllideb ddrafft; ni fydd gan y bleidlais hon unrhyw effaith rwymol.
I gael rhagor o wybodaeth yn ychwanegol at yr erthygl hon, gweler ein arf rhyngweithiol ar Gyllideb Ddrafft 2026-27.
Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru