Erthygl gan Chloe Corbyn a Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4097" align="alignnone" width="640"] Llun o Flickr gan Les Haines. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ers cyflwyno Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mae tirweddau o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu dynodi yn Barciau Cenedlaethol neu yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Mae Cymru yn gartref i bedwar AHNE (Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pen Llyn a Gŵyr - yn ychwanegol mae AHNE Dyffryn Gwy yn rhychwantu Cymru a Lloegr) a thri Pharc Cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri) sydd, gyda'i gilydd, yn cynnwys dros 25% o arwynebedd tir y wlad.Tirweddau Cenedlaethol: Gwireddu eu Potensial
Yn 2014, comisiynodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol yr Athro Terry Marsden, John Lloyd-Jones a Dr Ruth Williams i gynnal Adolygiad o Dirweddau Dynodedig. Diben yr adolygiad o dirweddau dynodedig oedd 'sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n eu hwynebu heddiw a’r hyn a ddaw yn y dyfodol, a datblygu hefyd ar eu statws yn rhyngwladol.' Cynhaliwyd yr adolygiad mewn dau gam - gyda phob cam yn cynnwys galwad am dystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, cymunedau o fewn y tirweddau dynodedig a'r cyhoedd yn ehangach. Cafodd gweithgareddau i gasglu tystiolaeth, gan gynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig, cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, gweithdai cyhoeddus ac ymgynghoriad ar-lein, eu cynnwys yn rhan o'r broses. Yn ystod cam un archwiliwyd y dynodiadau eu hunain gan ystyried diben y tirweddau hyn a rhinwedd dosbarthu tirweddau dynodedig Cymru o dan un math o ddynodiad. Yn ystod cam dau trafodwyd trefniadau llywodraethu tirweddau dynodedig. Adolygwyd trefniadau llywodraethu a rheoli a thrafodwyd argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil flog ar argymhellion cam un.Argymhellion
Mae'r adroddiad yn cyflwyno cyfres o argymhellion cydgysylltiedig. Cynhyrchodd y tîm adolygu gyfres o egwyddorion arweiniol a wnaeth, yn eu tro, lywio'r newidiadau arfaethedig i ddibenion tirweddau dynodedig yng Nghymru. Mae wedyn yn amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer y Tirweddau Cenedlaethol, ac yn argymell fframwaith llywodraethu newydd ar gyfer cyflawni. Mae'r argymhellion allweddol yn cynnwys: Argymhelliad 2: Ni ddylid cael un dynodiad yn unig fel bod y dynodiad AHNE a Pharc Cenedlaethol yn cael ei gadw yn y dyfodol ac Argymhelliad 3: Dylid cael un set o ddibenion statudol ac un ddyletswydd statudol gysylltiedig ar gyfer y ddau ddynodiad sy'n bodoli. Er bod yr adolygiad yn dod i'r casgliad y dylai'r ddau ddynodiad ar wahân gael eu cadw mae'n argymell y dylid cael un set o ddibenion statudol a nodir yn argymhelliad 6. Mae'r adolygiad yn nodi y bydd y dull hwn yn adlewyrchu statws cyfartal mewn cyfraith genedlaethol a rhyngwladol wrth ddathlu arwahanrwydd y tirweddau hyn. Argymhelliad 6: Dylai fod tri diben statudol cydglöedig ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, sef- Gwarchod a gwella’r dirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal;
- Hybu lles ffisegol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal;
- Hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad economaidd a chymunedol yn seiliedig ar reoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.