Delwedd yn dangos pennau chwistrellu Mounjaro a Saxenda

Delwedd yn dangos pennau chwistrellu Mounjaro a Saxenda

Beth nesaf ar gyfer meddyginiaeth colli pwysau yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 08/10/2025

Bu cynnydd yn y galw am gyffuriau colli pwysau (megis Mounjaro) yn ystod y misoedd diwethaf.

Ar hyn o bryd, mae darpariaeth meddyginiaeth colli pwysau ar y GIG yng Nghymru wedi’i chyfyngu i wasanaethau rheoli pwysau arbenigol, ac mae llawer o bobl yn cael mynediad at y cyffuriau hyn drwy bresgripsiwn preifat neu ffynonellau eraill, yn aml ar-lein.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar argaeledd meddyginiaethau ar gyfer rheoli pwysau yn y GIG yng Nghymru, ac yn tynnu sylw at rai o’r prif bryderon am y farchnad gynyddol ar gyfer meddyginiaeth colli pwysau.

Pa feddyginiaethau colli pwysau sydd ar gael yn y GIG?

Mae nifer o feddyginiaethau wedi’u trwyddedu ar gyfer rheoli pwysau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys meddyginiaethau GLP-1 semaglwtid (Wegovy), liraaglwtid (Saxenda), a tirzepatide (Mounjaro).

Mae meddyginiaethau GLP-1 yn lleihau archwaeth drwy ddynwared yr hormon peptid tebyg i glwcagon-1 (GLP-1), sy’n cael ei ryddhau ar ôl bwyta ac yn gwneud i bobl deimlo’n llawn. Dylid eu defnyddio ochr yn ochr â deiet â llai o galorïau a mwy o weithgarwch corfforol.

(Sylwer: Mae Ozempic yn baratoad brand arall o semaglwtid. Yn y DU mae wedi’i drwyddedu ar gyfer trin diabetes math 2, nid ar gyfer rheoli pwysau).

Mae Orlistat (enwau brand Xenical, Alli, ac Orlos) yn fath gwahanol o feddyginiaeth sy’n gweithio drwy atal rhywfaint o’r braster o’r bwyd rydych yn ei fwyta rhag cael ei amsugno. Mae Orlistat (dan yr enw brand Xenical) ar gael ar bresgripsiwn (e.e. gan eich meddyg teulu), neu gellir ei brynu ar ddos is o fferyllfeydd (dan yr enwau brand Alli ac Orlos). 

A allaf gael meddyginiaeth colli pwysau gan fy meddyg teulu?

Yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), mae semaglwtid (Wegovy) a liraglwtid (Saxenda) ar gael i gleifion cymwys yn y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr drwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol yn unig (h.y. ni chaiff meddygon teulu eu rhagnodi).

Ym mis Rhagfyr 2024, argymhellodd NICE y gellir rhagnodi tirzepatide (Mounjaro) gan feddygon teulu, yn ogystal ag mewn gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol. Mae cleifion cymwys yn cynnwys y rhai sydd â:

  • mynegai màs y corff (BMI) o 35 kg/m2 o leiaf,
  • o leiaf un cyflwr meddygol sy’n gysylltiedig â phwysau (mae’r rhain yn cynnwys gorbwysedd, dyslipidemia, apnoea cwsg ataliol, clefyd cardiofasgwlaidd, a diabetes math 2).

(Defnyddir trothwy BMI is (fel arfer wedi'i ostwng 2.5 kg/m2) ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig De Asiaidd, Tsieineaidd, Asiaidd arall, y Dwyrain Canol, Du Affricanaidd neu Affricanaidd-Caribïaidd).

Oherwydd costau uchel gweithredu’r argymhelliad a phryderon am wasanaeth a chapasiti clinigol, mae’r GIG yn Lloegr a NICE wedi cytuno ar ddull gweithredu graddol dros 12 mlynedd.

Yn Lloegr, bydd Mounjaro yn dechrau bod ar gael mewn lleoliadau gofal sylfaenol i garfanau o gleifion cymwys â blaenoriaeth o fis Mehefin 2025. Dylai'r boblogaeth gymwys gyfan, fel yr amlinellir yng nghanllawiau NICE, gael mynediad cyn pen 12 mlynedd.

Ar hyn o bryd mae’n llai clir a all pobl yng Nghymru gael mynediad at Mounjaro drwy eu meddyg teulu, neu pryd y gallant ei gael. Mewn llythyr at fyrddau iechyd, meddygon teulu, a fferyllfeydd (Mai 2025), dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwaith yn cael ei wneud i benderfynu a fydd Mounjaro, a meddyginiaethau colli pwysau eraill a gaiff eu trwyddedu yn y dyfodol, ar gael yn y GIG yng Nghymru.

This work will consider implementation arrangements for primary care alongside the current specialist weight management services, assessment of capacity and costs, and developing safe and efficient delivery models that are scalable and sustainable. 

[…]

Welsh Ministers will make a decision regarding any extended deployment of tirzepatide [Mounjaro®] once this work is completed and we will write to NICE, local health boards and primary care contractors, outlining those arrangements in due course.

In the interim, tirzepatide, semaglutide and liraglutide, for weight loss should only be prescribed through specialist weight management services in the NHS in Wales.

Faint o bobl sy’n cymryd meddyginiaeth colli pwysau?

Nid yw hyn yn hysbys. Er y gall rhai data roi arwydd o’r cynnydd yn y galw, nid oes darlun cyffredinol cywir. Er enghraifft, adroddwyd y defnyddiodd 1.5 miliwn o bobl yn y DU, yn ôl amcangyfrifon, feddyginiaeth colli pwysau ym mis Mawrth 2025, a bod marchnad rheoli pwysau’r DU wedi tyfu 24.6% bob mis ers mis Hydref 2024.

Yn ôl arolwg diweddar y Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol, roedd 21% o oedolion wedi ceisio cael mynediad at feddyginiaeth colli pwysau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy fferyllfa wyneb yn wyneb neu ar-lein, gan godi i 35% o bobl 16-34 oed.

Mae’n amhosibl dweud faint o bobl all fod yn cael meddyginiaeth colli pwysau drwy ffynonellau anrheoleiddiedig, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol. Ond mae’n debygol nad yw meddyginiaeth yn briodol glinigol i rai o’r bobl hyn o leiaf.

Beth yw’r pryderon am feddyginiaeth colli pwysau?

Wrth gydnabod rôl meddyginiaethau colli pwysau fel rhan o lwybr gofal, rhybuddiodd adroddiad diweddar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ordewdra y gall llawer o bobl gael eu denu at ddefnyddio’r meddyginiaethau hyn heb gymorth priodol neu ddealltwriaeth o’r sgîl-effeithiau posibl, a heb y newidiadau eraill o ran ffordd o fyw sy’n angenrheidiol ar gyfer newidiadau tymor hir, cynaliadwy i’w pwysau.

Argymhellir defnyddio meddyginiaethau GLP-1 megis semaglwtid (Wegovy), a ragnodir yn y GIG mewn gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol yn unig, am hyd at ddwy flynedd. Y rheswm dros hyn yw mai dim ond am ddwy flynedd y mae pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn, ac oherwydd bod diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd ar gyfer defnyddio’r feddyginiaeth yn y tymor hir. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y canlynol wrth y Pwyllgor:

in two years' time, you are going to have an awful lot of people coming off Wegovy or other drugs, putting the weight back on, and they will be exactly back where they started, and all we have done is delay the wave of ill health.

Mae canllawiau NICE ar tirzepatide (Mounjaro) yn cynnwys rheol stopio dwy flynedd.

Ac er bod pryderon eisoes am gapasiti’r GIG i ateb y galw cynyddol am gyffuriau colli pwysau drwy ei wasanaethau ei hun, efallai y bydd effaith ganlyniadol ar y GIG hefyd o fonitro a thrin sgil-effeithiau meddyginiaeth a geir o fannau eraill. Mae diffyg data ar hyn o bryd i ddangos pa mor arwyddocaol y gall hyn fod.

Ar gyfer cyffuriau colli pwysau y tu allan i’r GIG, tynnwyd sylw at ystod arall o bryderon, gan gynnwys:

  • y rhwyddineb canfyddedig y gall pobl gael y meddyginiaethau hyn, a chadernid y dulliau a ddefnyddir gan ddarparwyr ar-lein i bennu addasrwydd clinigol;
  • pryderon bod rhai darparwyr preifat yn gosod targedau neu gymhellion rhagnodi amhriodol;
  • y cyflenwad anghyfreithlon o feddyginiaethau colli pwysau, a hefyd y risg o gael meddyginiaethau ‘ffug’ a all gynnwys sylweddau peryglus;
  • pryderon y gallai’r cynnydd mewn prisiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan weithgynhyrchydd Mounjaro gyfyngu ar fynediad cleifion a gwaethygu anghydraddoldebau iechyd.

Trafodir rhai o’r materion hyn yn fanylach yn y papur briffio hwn yn Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin (Ebrill 2025).

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dweud nad yw meddyginiaethau colli pwysau’n ateb tymor hir; nid ydynt yn mynd i’r afael ag achosion gorbwysau a gordewdra. Ond er nad ydynt yn ateb syml, mae’r defnydd ohonynt yn debygol o gynyddu, a hynny yn y GIG a’r tu allan iddo.

Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.