Roedd Sam Rowlands AS yn llwyddiannus yn sgil pleidlais ar gyfer Biliau Aelod ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei gynnig ar gyfer y Bil ganiatâd y Senedd i fwrw ymlaen ar 26 Hydref 2022.
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 24 Tachwedd 2023, gyda Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyd-fynd ag ef. Cynhaliwyd y Datganiad Deddfwriaethol ar 29 Tachwedd, pan fo Sam Rowlands wedi cyflwyno’r Bil ac Aelodau’r Senedd wedi trafod ei gynigion yn y Cyfarfod Llawn.
Byddai’r Bil yn rhoi dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod cwrs addysg awyr agored breswyl yn cael ei ddarparu unwaith, yn rhad ac am ddim fel rhan o’r cwricwlwm, i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir (y rhai sy’n cael addysg mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru). Mae’r Bil hefyd yn sefydlu rhwymedigaeth statudol i Weinidogion Cymru ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i wneud hyn.
Nod y Bil yw rhoi cyfle i bob plentyn mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru i gael profiad o addysg awyr agored breswyl, beth bynnag fo’i gefndir economaidd-gymdeithasol, anableddau, anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cefndir diwylliannol neu leoliad daearyddol. Nodir yn y Memorandwm Esboniadol (y Memorandwm) y “bydd hyn yn newid profiad addysg awyr agored breswyl o fod yn weithgaredd cyfoethogi i fod yn elfen o hawl yn y Cwricwlwm i Gymru”.
Cyfeiriwyd y Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer craffu Cyfnod 1. Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth gyda Sam Rowlands AS, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i glywed eu barn am y Bil cyn cyflwyno adroddiad i’r Senedd.
Gallwch ddilyn y trafodion ar dudalennau gwe’r Pwyllgor.
Rydym wedi cyhoeddi Crynodeb manwl o’r Bil a geirfa ddwyieithog i roi rhagor o wybodaeth.
Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru