Beth mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i'n dyfodol? Crynodeb o adroddiad diweddar y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar yr effeithiau, y mesurau addasu a’r gwendidau.

Cyhoeddwyd 14/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

14 Ebrill 2014 Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 27 Medi 3013, rhyddhaodd Gweithgor 1 (Gweithgor 1 - y Sail Gwyddoniaeth Ffisegol) y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ei ganfyddiadau diweddaraf ynghylch y dystiolaeth am newid yn yr hinsawdd. Dyma oedd prif gasgliadau'r panel:

"Heb os, mae system yr hinsawdd yn cynhesu" ac "Mae’n amlwg bod dynoliaeth yn dylanwadu ar system yr hinsawdd."

Y pumed asesiad yw'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy'n rhoi'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o newid yn yr hinsawdd ac mae wedi'i rannu'n bedair rhan:

  • Gweithgor I - Y Sail Gwyddoniaeth Ffisegol
  • Gweithgor II - Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd - Addasu a Gwendidau
  • Gweithgor III - Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd
  • Adroddiad Synthesis

Wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad a chrynodeb Gweithgor II i'r rhai sy'n llunio polisi, sef Climate Change 2014: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Mae'r adroddiad yn ystyried gwendidau systemau dynol a naturiol, effeithiau a pheryglon newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, a photensial mesurau addasu a'u cyfyngiadau. Mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn dangos bod mwy o hyder ym maint dylanwad a chwmpas newid yn yr hinsawdd, o ganlyniad i ragor o ddata a ffyrdd newydd o ddadansoddi mesuriadau blaenorol.

Mae prif ganfyddiadau'r adroddiad yn cynnwys y rhai canlynol:

  • Mae newidiadau yn yr hinsawdd wedi cael effaith ar systemau naturiol a rhai dynol ar bob cyfandir ac ar draws y moroedd.
  • Mae ein tywydd yn newid - rydym ni'n cael llai o ddyddiau a nosweithiau poeth, a llai o ddyddiau a nosweithiau oer. Ar y cyfan, bydd mannau gwlyb yn mynd yn wlypach a mannau sych yn mynd yn sychach.
  • Mae llawer o rywogaethau'r tir a rhywogaethau dŵr croyw a morol wedi profi newid o ran yr ardaloedd daearyddol lle maen nhw'n byw, eu gweithgareddau tymhorol, eu patrymau mudo, eu niferoedd a'u hymwneud â rhywogaethau eraill mewn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd.
  • Mae effeithiau negyddol ar y cnydau a gynhyrchir yn fwy cyffredin nag effeithiau cadarnhaol. Mae disgwyl i newid yn yr hinsawdd newid y cnydau a gynhyrchir yn sylweddol yn ystod y degawdau i ddod, gan roi straen ar gynhyrchu bwyd.
  • Mae effeithiau eithafion diweddar o ran yr hinsawdd (fel tywydd poeth, sychder, llifogydd, seiclonau a thanau gwyllt) yn dangos bod rhai ecosystemau a nifer o systemau dynol yn agored iawn i niwed yn wyneb natur amrywiol presennol yr hinsawdd.

Mae peth cynnydd wedi ei wneud o ran addasu i hynny:

  • Mae addasu i newid yn yr hinsawdd yn dod yn rhan greiddiol o rai prosesau cynllunio
  • Yn Ewrop, mae polisïau addasu wedi eu datblygu ar bob lefel o lywodraeth, gyda pheth cynllunio ar gyfer addasu yn cael ei integreiddio yn rhan o'r gwaith o reoli'r arfordiroedd a dŵr, wrth ddiogelu'r amgylchedd a chynllunio tir, ac wrth reoli'r risg o ran trychinebau.

Mae'r adroddiad yn amlygu y bydd dewisiadau a wneir i addasu a lliniaru yn y tymor agos yn effeithio ar y risg o newid yn yr hinsawdd drwy gydol yr unfed ganrif ar hugain, a bod lefel uchel o ansicrwydd am wendidau yn y dyfodol a natur agored systemau dynol a naturiol cysylltiedig a'u hymateb i newid yn yr hinsawadd.

Mae'r ddelwedd isod yn dangos systemau ffisegol a biolegol a systemau dynol ledled y byd. Mae'r symbolau ag amlinell yn dangos cyfraniad bach at newid yn yr hinsawdd, tra bo'r rhai sydd wedi eu llenwi yn dangos cyfraniad sylweddol. Mae hyder mewn priodoli'r newid a geir i newid yn yr hinsawdd wedi ei nodi gan heiffen nesaf at y symbol. Fel y mae'r map yn ei ddangos, mae'r panel yn disgwyl i newid hinsawdd gael effeithiau sylweddol ar rewlifau, eira ac ia ym mhob rhanbarth, gan gael effaith fawr ar afonydd, llynnoedd, llifogydd a sychder yn Ewrop, Gogledd America, Asia, Affrica a'r Arctig.

wg2-ar5-impacts-map-final

Y neges y tu ôl i'r adroddiad yw na ddylai ansicrwydd am faint, adeg na lleoliad yr effeithiau ymarferol fod yn rheswm i oedi ynghylch gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Mae rhan olaf adroddiad y panel - gan Weithgor 3 - yn ymdrin â lliniaru, ac mae disgwyl y caiff ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2014.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyflawni ar gyfer Ymaddasufel rhan o'i Strategaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd ym mis Hydref 2011 ynghyd â chanllawiau statudol o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 ynghylch Paratoi ar gyfer Hinsawdd sy'n Newid – Rhan 3: Cynllunioym mis Mawrth 2013. Mae adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru Adroddiad Blynyddol ar Newid yn yr Hinsawdd yn nodi'r camau addasu y dylai sectorau unigol eu cymryd. Mae'r sylwadau annibynnol a gafwyd ynghylch yr adroddiad blynyddol gan Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn croesawu cyhoeddi'r canllawiau statudol ond mae'n mynegi pryderon ynghylch y diffyg cynnydd o ran cynhyrchu Cynlluniau Ymaddasu Sectorol.