Mae Estyn wedi dweud mai cymysg yw’r darlun ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Nghymru, gyda pheth arfer gref yn ogystal â meysydd allweddol y mae angen eu gwella.
Yn ei adroddiad blynyddol, mae Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, yn rhoi trosolwg o ansawdd y ddarpariaeth addysg yn seiliedig ar arolygon a gynhaliwyd ym mlwyddyn academaidd 2023/24. Mae hefyd yn gwneud sylwadau ar rai materion allweddol.
Cymerodd Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd dystiolaeth gan y prif arolygydd ynghylch ei adroddiad ar 5 Mawrth a bydd gan holl Aelodau’r Senedd gyfle i gael dadl arno ddydd Mawrth 18 Mawrth.
Negeseuon cyffredinol
Dywed y prif arolygydd nad yw ansawdd yr addysgu a’r asesu yn aml yn ddigon da, gyda dros hanner yr ysgolion uwchradd ac un rhan o dair o’r ysgolion cynradd a arolygwyd yn cael argymhelliad i wella’r addysgu.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu diffygion o ran hunanwerthuso a hunan-wella ysgolion sy’n “atal cynnydd gormod o ddysgwyr.” Mae yna hefyd fylchau amlwg o ran pa mor dda y mae ysgolion yn datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion. Fodd bynnag, mae’r prif arolygydd yn dweud bod cefnogaeth o ran diogelu a lles yn gyson gryf ar draws y rhan fwyaf o ysgolion, ac mae agweddau cadarnhaol ymysg disgyblion tuag at ddysgu.
Llythrennedd a rhifedd
Er bod disgyblion yn gyffredinol yn datblygu sgiliau darllen sylfaenol, dywed y prif arolygydd nad ydynt bob amser yn gwneud digon o gynnydd ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd a dechrau ysgol uwchradd i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd mwy datblygedig.
Mae Estyn yn pryderu’n fawr am rifedd ac yn dweud bod gormod o amrywiaeth wrth addysgu mathemateg. Mathemateg yw un o’r prif feysydd ble mae heriau o ran recriwtio athrawon, sy’n cael eu trafod yn adroddiad y prif arolygydd.
Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Mathemateg a Rhifedd ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, wedi nodi camau i wella llythrennedd disgyblion. Mae data ar asesiadau personol disgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 yn dangos dirywiad mewn darllen a rhifedd hefyd, sy’n cyd-fynd â’r pandemig a’i effeithiau.
Presenoldeb disgyblion
Fel yr amlinellir yn adroddiad blynyddol y prif arolygydd yn ogystal â’n herthygl ni fis Tachwedd, mae presenoldeb disgyblion ymhell islaw’r lefelau cyn y pandemig.
Mae’r data diweddaraf fesul pythefnos a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru (28 Chwefror) yn dangos bod presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn 92.8% a phresenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn 89.0% ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Mae’r lefelau wedi codi o’u pwynt isaf yn 2022/23, ond dywedodd y prif arolygydd y byddai’n cymryd dros ddeng mlynedd ar y gyfradd wella bresennol i bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd wella i lefelau cyn y pandemig (94.7% mewn ysgolion cynradd a 93.8% mewn ysgolion uwchradd, yn 2018/19).
Mae’r meysydd pryder a amlygwyd gan y prif arolygydd yn cynnwys lefelau absenoldeb parhaus (a ddiffinnir fel disgybl sy’n colli mwy na 10% o’r ysgol) a phresenoldeb disgyblion difreintiedig, fel y’u mesurir gan y rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM). Mae’r prif bwyntiau’n cynnwys:
- Gwnaeth absenoldeb parhaus fwy na dyblu rhwng 2018/19 a 2022/23 cyn gostyngiad bach yn 2023/24. Mae’n parhau tua dwywaith y gyfradd cyn y pandemig, sef 24.7% mewn ysgolion cynradd a 37.1% mewn ysgolion uwchradd.
- Yn 2023/24 ehangodd y bwlch presenoldeb rhwng disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion eraill i 5.5 pwynt canran mewn ysgolion cynradd a 10.3 pwynt canran mewn ysgolion uwchradd (gweler Tabl 1 isod).
- Roedd 47% o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd a 61% o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd yn absennol yn gyson yn 2023/24 (gweler Tabl 2 isod).
Tabl 1: Presenoldeb yn ôl cymhwyster prydau ysgol am ddim
% y sesiynau a fynychwyd | |||
Ysgolion cynradd | |||
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Y gwahaniaeth mewn pwyntiau canran | |
2018/19 | 92.1 | 95.3 | 3.2 |
2022/23 | 87.1 | 92.9 | 5.8 |
2023/24 | 87.9 | 93.4 | 5.5 |
Ysgolion uwchradd | |||
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Y gwahaniaeth mewn pwyntiau canran | |
2018/19 | 89.5 | 94.7 | 5.2 |
2022/23 | 79.4 | 89.8 | 10.4 |
2023/24 | 79.9 | 90.2 | 10.3 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 2 Medi 2024 i 28 Chwefror 2025, Tabl 4
Tabl 2: Absenoldeb parhaus yn ôl cymhwyster prydau ysgol am ddim
% y disgyblion sy'n colli 10% neu fwy o sesiynau | |||
Ysgolion cynradd | |||
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Y gwahaniaeth mewn pwyntiau canran | |
2018/19 | 26.9 | 9.7 | 17.2 |
2022/23 | 51.8 | 22.4 | 29.4 |
2023/24 | 46.9 | 18.8 | 28.1 |
Ysgolion uwchradd | |||
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim | Y gwahaniaeth mewn pwyntiau canran | |
2018/19 | 35.5 | 13.4 | 22.1 |
2022/23 | 64.3 | 33.9 | 30.4 |
2023/24 | 61.4 | 30.9 | 30.5 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Absenoldebau mewn ysgolion cynradd: Medi 2023 i Awst 2024, Tabl 11 ac Absenoldebau mewn ysgolion uwchradd: Medi 2022 i Awst 2023
Mae’r prif arolygydd yn nodi dau brif reswm pam mae arweinwyr ysgolion yn dweud bod presenoldeb yn parhau i fod mor isel. Yn gyntaf, mae rhagor o ddisgyblion sy’n absennol yn gyson neu’n gwrthod mynychu’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y disgyblion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Yn ail bu newid diwylliant ymhlith rhieni, sydd bellach yn rhoi llai o bwys ar eu plant yn mynychu ysgolion yn rheolaidd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi dweud bod gwella presenoldeb yn un o’i phrif flaenoriaethau.
Ysgolion sy’n achosi pryder
Yn achos ‘ysgolion sy’n achosi pryder’, mae Estyn yn parhau i roi ysgolion mewn tair lefel o weithgarwch dilynol: ‘adolygu gan Estyn’ a dau gategori ymyriadau statudol: ‘angen gwelliant sylweddol’ ac ‘angen mesurau arbennig’ (mae’r rhain yn eu trefn o’r lefel isaf i’r lefel uchaf o bryder). Yn 2023/24:
- O ran ysgolion uwchradd, roedd angen gweithgarwch dilynol ar 10 o’r 31 ysgol a arolygwyd. Rhoddwyd dwy mewn mesurau arbennig a barnwyd bod angen gwelliant sylweddol ar ddwy ohonynt, tra bod chwech wedi cael eu rhoi mewn adolygiad Estyn.
- O’r 259 o ysgolion cynradd a arolygwyd, roedd angen gweithgarwch dilynol ar 32 o ysgolion. Rhoddwyd 10 mewn mesurau arbennig a barnwyd bod angen gwelliant sylweddol ar wyth ohonynt, tra gosodwyd 14 mewn adolygiad Estyn.
Yn ôl Estyn mae nifer yr ysgolion uwchradd mewn categori statudol “pryderu’n fawr” ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weld sut y gellir cynnig mwy o gefnogaeth i’r ysgolion hyn. Ymgymerodd y prif arolygydd i ddarparu’r ffigyrau diweddaraf i’r Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg o ran nifer yr ysgolion mewn categori statudol, ac a oes unrhyw dueddiadau rhanbarthol neu ddemograffig.
Trefniadau gwella ysgolion
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ‘Rhaglen bartneriaeth gwella ysgolion’. Mae partneriaethau awdurdodau lleol newydd yn cael eu datblygu i ddisodli’r consortia rhanbarthol o dan fodel a hyrwyddir gan adolygiad Llywodraeth Cymru o dan ofal yr Athro Dylan Jones. Sefydlwyd y consortia rhanbarthol ddegawd yn ôl yn dilyn yn pryderon am gapasiti awdurdodau lleol i wella safonau addysgol. Cafodd swyddogaethau gwella ysgolion awdurdodau lleol eu cyfuno ar lefel weithredol, er bod y cyfrifoldeb statudol yn parhau gydag awdurdodau lleol.
Pwysleisiodd y prif arolygydd bwysigrwydd cynnal cydweithrediad o fewn y trefniadau gwella ysgolion newydd ac y byddai mynd yn ôl at fodel lle mae 22 awdurdod lleol yn cymryd dulliau gwahanol yn drychineb. Dywedodd ei adroddiad y bydd y trefniadau newydd ond yn llwyddo os yw’r amcanion dros gydweithio yn glir.
Gostyngiad mewn cyfraddau cwblhau prentisiaethau
Yn ogystal ag ysgolion, mae Estyn yn arolygu’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 gan gynnwys prentisiaethau mewn dysgu seiliedig ar waith. Mae chwe choleg addysg bellach a phedwar darparwr hyfforddiant annibynnol wedi’u contractio gan Lywodraeth Cymru (bellach Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) i ddarparu prentisiaethau. Cyfanswm gwerth y contract prentisiaeth ar gyfer y flwyddyn 2024-25 yw £135 miliwn.
Arolygodd Estyn bedwar darparwr yn 2023/24 ac argymell bod pob un yn gwella’r cyfraddau y mae dysgwyr yn cyflawni eu prentisiaethau. Mae adroddiad blynyddol y prif arolygydd yn nodi, “Ar draws y rhwydwaith, roedd ychydig o ddysgwyr yn aros ar y rhaglen y tu hwnt i ddyddiadau gorffen disgwyliedig eu prentisiaeth, gyda nifer o ddysgwyr ymhell y tu hwnt i’w dyddiadau disgwyliedig”. Yn gyffredinol, “mae’r dysgwyr hyn yn y sectorau iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal, a lletygarwch ac arlwyo". Nodwyd y mater o gwblhau prentisiaethau hefyd yn adroddiad y llynedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at ‘gyfradd llwyddiant’, a fesurir fel canran y prentisiaid a gwblhaodd y fframwaith prentisiaeth llawn. Mae’r graff isod yn dangos cyfradd llwyddiant prentisiaethau yn ôl lefel prentisiaeth a’r flwyddyn academaidd. Ni chynhyrchwyd data ar gyfer 2019-20 na 2020-21 oherwydd pandemig Covid-19.
Canran y gyfradd llwyddiant prentisiaethau yn ôl lefel prentisiaeth
Ffynhonnell: Llwyddiant mewn prentisiaethau yn ôl blwyddyn a lefel academaidd, StatsCymru
Prentisiaethau sylfaen (sy’n cyfateb i TGAU) a welodd y gostyngiad mwyaf mewn cyfraddau llwyddiant ond yma hefyd y cafwyd yr adferiad mwyaf. Fodd bynnag, nid yw prentisiaethau lefel uwch wedi gwella yn yr un modd ac maent yn llawer is nag yr oeddent cyn y pandemig a ac yn is na lefelau prentisiaethau eraill.
Ar y cyfan, mae’r cyfraddau llwyddiant ar gyfer prentisiaethau yn is na’r lefelau cyn y pandemig ac maent i gyd ar neu’n is na 76%.
Sut i ddilyn y ddadl
Gallwch ddilyn y ddadl ddydd Mawrth yn fyw ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach. Mae’n debygol y bydd digon o drafod ar y prif heriau sy’n wynebu addysg yng Nghymru a sut y gellir gwella safonau a chanlyniadau.
Erthygl gan Michael Dauncey a Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru