Wrth gyflwyno’r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) ym mis Medi 2025, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddweud y bydd yn sicrhau nad yw anghyfiawnderau trasig y gorffennol, a methiannau sefydliadol, byth yn digwydd eto.
Cyflwynwyd y Bil mewn ymateb i nifer o ddigwyddiadau a sgandalau mawr gan gynnwys trychineb Hillsborough, sgandal Windrush a thân Tŵr Grenfell. Yn dilyn y sgandalau hyn a rhai eraill, honnwyd fod awdurdodau cyhoeddus wedi gweithredu’n amddiffynnol neu wedi dal gwybodaeth yn ôl. Mae'r Bil, sy'n ceisio sicrhau bod gan awdurdodau gyfrifoldebau cyfreithiol i weithredu'n onest, hefyd yn cael ei adnabod fel Cyfraith Hillsborough.
Byddai'r Bil, hefyd, yn gwneud ymddygiad amhriodol difrifol mewn swydd gyhoeddus yn drosedd. Byddai'r drosedd yn berthnasol i Aelodau o’r Senedd yn ogystal â Gweinidogion Cymru.
Fe gafodd bil tebyg ei gyflwyno gan yr Aelod Seneddol, Andy Burnham yn 2017, fel Bil Aelod Preifat, ond fe syrthiodd y Bil pan ddiddymwyd Senedd y DU. Fe wnaeth Plaid Lafur y DU ymrwymo i gyflwyno Deddf Hillsborough yn ei maniffesto yn 2024.
Mae'r erthygl hon yn crynhoi darpariaethau allweddol yn y Bil, eu harwyddocâd i Gymru, a rôl (neu ddiffyg rôl) Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygiad.
Darpariaethau allweddol yn y Bil
Dyletswydd o ran gonestrwydd a chymorth
Byddai Cymal 2 o'r Bil yn gosod dyletswydd o ran gonestrwydd a chymorth (‘duty of candour and assistance’) ar awdurdodau cyhoeddus a swyddogion cyhoeddus. Mae hynny’n golygu y byddai’n ofynnol arnyn nhw i weithredu gyda didwylledd, tryloywder a gonestrwydd (‘candour, transparency and frankness’) wrth gymryd rhan mewn ymholiadau ac ymchwiliadau. Byddai'n anelu at atal awdurdodau rhag cuddio unrhyw ran a chwaraewyd, yn dilyn trychinebau neu sgandalau. Mae cyflwyno dyletswydd o'r fath wedi bod yn alwad ers tro byd gan grŵp ymgyrchu Hillsborough Law Now.
Byddai’r ddyletswydd hon yn berthnasol i Weinidogion Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, megis cyrff y GIG.
Byddai cymal 5 yn creu trosedd newydd am fethu’n fwriadol â chydymffurfio â’r ddyletswydd.
Safonau ymddygiad moesegol
Byddai Cymal 9 yn cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad moesegol, a chymryd camau i’w cynnal. Diffinnir ymddygiad moesegol yn unol ag Egwyddorion Nolan.
Byddai, hefyd, yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus fabwysiadu cod ymddygiad moesegol (‘code of ethical conduct’) a ddylai amlinellu'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan bobl sy'n gweithio i'r awdurdod. Rhaid i'r awdurdod roi gwybod i'w weithwyr am y cod, a phenderfynu ar sancsiynau am ei dorri.
Byddai'r darpariaethau hyn yn berthnasol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, ond nid i'r Senedd, na seneddau eraill yn y DU, oherwydd bod gan y rheini eu prosesau eu hunain ar gyfer sefydlu safonau moesegol, a’u gorfodi.
Camarwain y cyhoedd
Byddai Cymal 11 yn creu trosedd newydd o gamarwain y cyhoedd. Byddai'r drosedd yn berthnasol lle mae awdurdod cyhoeddus neu swyddog cyhoeddus yn gweithredu gyda’r bwriad o gamarwain y cyhoedd (neu’n ddi-hid ynghylch y posibilrwydd hwnnw) ac yn gwybod, neu y dylen nhw wybod, bod eu gweithred yn amhriodol iawn. Mae'r 'cyhoedd' yn y cyd-destun hwn yn golygu cyhoedd y DU, neu ran o gyhoedd y DU. Ni fyddai'n berthnasol mewn achosion o ryngweithio unigol.
Diben y drosedd yw dal yr achosion mwyaf difrifol o swyddogion neu awdurdodau cyhoeddus yn camarwain y cyhoedd, yn hytrach nag achosion o gamarwain yn ddamweiniol neu’n anfwriadol.
Mae achosion pan allai hyn fod yn berthnasol yn cynnwys y canlynol:
… the chief executive of a hospital instructing staff to lie to the press about a major incident in order to avoid criticism, a police force issuing a public statement that they know gives a false account of events or a cover-up by a government department about the harmful consequences of a policy.
Ni fyddai'r drosedd yn berthnasol i berson sy'n arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â materion datganoledig. Er enghraifft, mae'n annhebygol y byddai'n berthnasol i weithiwr awdurdod lleol sy'n ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig â gofal neu addysg, gan fod y rhain yn faterion datganoledig. Fodd bynnag, gall fod yn berthnasol i weithiwr sy'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu iechyd a diogelwch, gan fod y rhain yn fateron a gadwyd yn ôl.
Camymddwyn mewn swydd gyhoeddus
Byddai'r Bil yn cyflwyno dau drosedd newydd yn ymwneud â chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, gan ddiddymu'r drosedd gyfraith gyffredin bresennol. Mae'r troseddau newydd hyn yn adeiladu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith, sy'n nodi bod y drosedd bresennol yn cael ei hystyried yn eang fel un wan ei diffiniad.
Mae Cymal 12 yn creu trosedd newydd o ‘weithredoedd amhriodol difrifol’ (‘seriously improper acts’). Byddai'r drosedd hon yn berthnasol lle mae rhywun sy’n ddeiliad swydd gyhoeddus yn defnyddio'r swydd honno er budd ei hun neu rywun arall, neu er mwyn peri i berson arall ddioddef niwed, gan wybod (neu y dylai wybod) bod y weithred yn amhriodol iawn. Mae Cymal 13 yn creu trosedd newydd o ‘dorri dyletswydd i atal marwolaeth neu anaf difrifol’ (‘breach of duty to prevent death or serious injury’). Byddai'r drosedd hon yn berthnasol lle mae person sy'n ddeiliad swydd gyhoeddus yn peri, neu'n creu risg sylweddol o beri, i berson arall ddioddef niwed difrifol, gan dorri dyletswydd i atal niwed o'r fath.
Byddai’r darpariaethau hyn yn berthnasol i Weinidogion Cymru, Gweision Sifil, Aelodau o’r Senedd, a staff Comisiwn y Senedd, yn ogystal ag aelodau a staff awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, swyddogion heddlu a gweithwyr tân ac achub.
Cymorth cyfreithiol heb brawf modd
Byddai Cymal 18 o'r Bil yn ehangu argaeledd cymorth cyfreithiol heb brawf modd, i olygu pan fydd awdurdod cyhoeddus yn cael ei gynrychioli mewn unrhyw gwest fel person â buddiant, y bydd cymorth cyfreithiol ar gael i deuluoedd sydd wedi colli rhywun.
Mae hyn yn dilyn llawer o alwadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael ag anghydbwysedd posibl mewn pŵer a allai godi, pan fydd cyrff cyhoeddus ag adnoddau sylweddol yn rhan o achosion cyfreithiol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, barn Llywodraeth y DU yw y dylai awdurdodau cyhoeddus, neu’r adrannau o’r llywodraeth sy’n gyfrifol amdanynt, gyfrannu at gostau cymorth cyfreithiol i deuluoedd sydd wedi colli rhywun pan eu bod yn berson â buddiant, mewn cwest. Gan fod cymorth cyfreithiol yn fater a gadwyd yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy'n deillio o hyn.
Trafodaethau rhynglywodraethol
Gan fod y Bil yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru, sy’n ymwneud â materion datganoledig, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (y Memorandwm). Er bod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, yn datgan yn y Memorandwm ei fod yn cefnogi egwyddorion y Bil, mae hefyd yn codi pryderon ynghylch ymgysylltiad Llywodraeth y DU ar y Bil.
Mae’r Memorandwm yn nodi mai “ychydig o ymgysylltu a chyfranogiad a fu wrth ddatblygu'r Bil” i Lywodraeth Cymru, a bod gwybodaeth wedi’i rhannu’n bennaf “er gwybodaeth”. Fe gafodd Llywodraeth Cymru ddrafft terfynol y Bil ar 11 Medi, tri diwrnod gwaith cyn oedd disgwyl iddo gael ei gyflwyno i Senedd y DU. Darparwyd nodiadau esboniadol i Lywodraeth Cymru, ddiwrnod cyn cyflwyno'r Bil.
O ganlyniad, mae'r Memorandwm yn nodi y bu sicrhau “ymgysylltiad digonol” i ddeall “y cwmpas, y goblygiadau a'r effaith” o ran y Bil yn “heriol”.
Mae’r Memorandwm yn nodi, hefyd, anghytundebau rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU ynghylch pa ddarpariaethau sydd angen cydsyniad y Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio rhagor o wybodaeth cyn y gall argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad.
O'r Mesur i'r Ddeddf
Fe allwch chi ddilyn cynnydd y Bil drwy Senedd y DU yma. Cyn y cam diwygio terfynol, bydd y Senedd yn pleidleisio ynghylch a ddylai roi ei chydsyniad deddfwriaethol. Yn y cyfamser, fe fydd dau o bwyllgorau’r Senedd, sef y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Chyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, yn ystyried y Memorandwm.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael yn y nodiadau esboniadol a’r briff hwn gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru