Ar 13 Mai 2026, amlinellodd y Brenin flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn seneddol newydd. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchu dur, ansawdd dŵr ac addysg.
Mae’r erthygl hon yn nodi pa rai o’r cynigion hyn sy’n berthnasol i Gymru.
Mae rhai o’r Biliau a grybwyllwyd yn yr araith wedi’u cario drosodd o’r sesiwn seneddol flaenorol. Y rhain yw:
- Bil y Lluoedd Arfog;
- Y Bil Llysoedd a Thribiwnlysoedd;
- Y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch (Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth);
- Bil Helyntion Gogledd Iwerddon;
- Y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd);
- Y Bil Rheilffyrdd; a
- Bil Cynrychiolaeth y Bobl.
Rôl y Senedd
O dan Gonfensiwn Sewel, ni fydd Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y Senedd. Pan fo darpariaethau mewn Biliau yn ymwneud â materion datganoledig, bydd Llywodraeth Cymru fel arfer yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, gan nodi a yw’n argymell y dylai’r Senedd roi ei chydsyniad i’r darpariaethau hynny.
Pan fo darpariaethau mewn Biliau yn berthnasol i Gymru ond yn ymwneud â meysydd sydd wedi’u cadw i Senedd y DU, nid yw’r Senedd yn pleidleisio ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad.
Pa Filiau fydd yn berthnasol i Gymru?
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS, wedi nodi 30 o Filiau sy’n ymestyn i Gymru ac yn berthnasol iddi, naill ai'n llawn neu'n rhannol, gan gynnwys dau Fil ar ffurf drafft. Nodir y rhain isod.
Daw gwybodaeth a dyfyniadau isod o'r ddogfen briffio gefndir ar Araith y Brenin.
Bil Cynrychiolaeth y Bobl, i ddiwygio etholiadau’r DU drwy, er enghraifft, ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl 16 a 17 oed ym mhob etholiad yn y DU a diwygio’r rheolau ar roddion gwleidyddol. Cafodd y Bil hwn ei gario drosodd o'r sesiwn seneddol flaenorol. Ym mis Mawrth 2026, gosododd Llywodraeth Cymru ar y pryd Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, gan argymell y dylai’r Seithfed Senedd roi cydsyniad i ddarpariaethau sy’n ymwneud â materion datganoledig.
Y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd), gyda’r nod o gyflawni ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i gyflwyno 'Deddf Hillsborough’. Cafodd y Bil hwn hefyd ei gario drosodd o’r sesiwn flaenorol. Ystyriodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd flaenorol Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y pryd ar gyfer y Bil. Rydym wedi ysgrifennu o’r blaen am yr hyn y byddai’r Bil yn ei olygu i Gymru.
Y Bil Diddymu Teitlau Arglwyddol, i alluogi tynnu teitlau oddi ar Arglwyddi sydd wedi dwyn gwarth arnynt eu hunain ac sydd wedi methu â chadw at y safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus.
Bil Diwygio'r Heddlu, i greu Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol newydd, diddymu’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, a lleihau nifer yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Y Bil Llysoedd a Thribiwnlysoedd, a fyddai’n ymestyn pwerau dedfrydu llysoedd ynadon ac yn cyflwyno dulliau newydd o gynnal treialon gerbron barnwr yn unig mewn amgylchiadau penodol. Cafodd y Bil hwn ei gario drosodd o'r sesiwn seneddol flaenorol. Rydym wedi ysgrifennu o’r blaen am rai o'r diwygiadau arfaethedig.
Y Bil Mewnfudo a Lloches, i weithredu’r prif ddiwygiadau a gyhoeddwyd yn y datganiad Adfer Trefn a Rheolaeth ym mis Tachwedd 2025.
Bil Helyntion Gogledd Iwerddon, i alluogi dioddefwyr a theuluoedd sydd wedi colli pobl ledled y DU i geisio gwybodaeth ac atebolrwydd drwy Gomisiwn Etifeddiaeth wedi’i ddiwygio. Cafodd y Bil hwn ei gario drosodd o'r sesiwn seneddol flaenorol.
Y Bil Grant Sofran, a fyddai'n ailosod y Grant Sofran ar ôl i’r gwaith presennol i adnewyddu Palas Buckingham ddod i ben.
Y Bil Digwyddiadau Chwaraeon, sydd â’r nod o sicrhau y gellir cyflwyno digwyddiadau chwaraeon mewn modd mor effeithlon â phosibl a gwella mantais gystadleuol [y DU] wrth wneud cais am dwrnameintiau byd-eang yn y dyfodol.
Y Bil drafft Gwahardd Towtio Tocynnau, i wneud ailwerthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau byw am fwy na’u pris gwreiddiol yn anghyfreithlon.
Bil y Diwydiant Dur (Gwladoli), a fyddai’n rhoi pwerau i Lywodraeth y DU drosglwyddo perchnogaeth ‘ymgymeriadau dur’ i berchnogaeth gyhoeddus (a ddisgrifir fel gweithgynhyrchu neu brosesu dur). Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd hyn yn ei galluogi i wladoli British Steel Ltd, yn amodol ar fodloni prawf budd y cyhoedd.
Y Bil Partneriaeth Ewropeaidd, i hwyluso’r gwaith o weithredu cytundebau newydd y cytunwyd arnynt gyda’r UE yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r cytundeb Dealltwriaeth Gyffredin rhwng y DU-UE yn paratoi’r ffordd i’r DU ddilyn rheolau’r UE mewn meysydd fel trydan, masnach allyriadau, a bwyd a diod. Rydym wedi ysgrifennu o’r blaen am yr hyn y gallai’r cytundeb hwnnw ei olygu i Gymru.
Y Bil Taliadau Masnachol, gyda’r nod o ddiwygio rheolau ynghylch taliadau hwyr rhwng busnesau.
Y Bil Diwygio Cystadleuaeth, gyda’r nod o wneud ymchwiliadau i gystadleuaeth yn gyflymach ac yn fwy rhagweladwy, lleihau’r baich ar fusnesau, a sicrhau bod defnyddwyr yn elwa’n gynt.
Y Bil Rheoleiddio ar gyfer Twf, gyda’r nod o wneud system reoleiddio'r DU yn addas ar gyfer y dyfodol fel ei bod yn chwarae rhan lawn wrth gyflawni twf a chefnogi arloesedd.
Y Bil Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd, gyda’r nod o foderneiddio sut mae'r sector ariannol yn cael ei reoleiddio, ei alluogi i dyfu a benthyca mwy i fusnesau, a gwella amddiffyniadau defnyddwyr.
Y Bil Dŵr Glân, a fyddai, ymhlith mesurau eraill, yn sefydlu rheoleiddiwr dŵr integredig newydd ar gyfer Lloegr. Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi gwneud nifer o ymrwymiadau maniffesto sy’n ymwneud â dŵr, gan gynnwys sefydlu rheoleiddiwr dŵr newydd yng Nghymru.
Y Bil Annibyniaeth Ynni, gyda’r nod o ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy domestig a diogelu safonau byw yn y tymor hir, gan gynnwys drwy sefydlu Asiantaeth Cartrefi Cynnes i helpu i gyflawni Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU.
Y Bil Rheoleiddio Niwclear, i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Adolygiad Rheoleiddio Niwclear i gefnogi cyflawni prosiectau niwclear yn gyflymach. Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd Wylfa, Ynys Môn, yn gartref i orsaf ynni newydd sy'n cynnwys adweithyddion modiwlaidd bach cyntaf y DU.
Y Bil Ardoll Generaduron Trydan, gyda’r nod o helpu i dorri’r cysylltiad rhwng prisiau trydan a nwy drwy symud generaduron hŷn i gontractau pris sefydlog newydd.
Y Bil Iechyd, i wella diogelwch a phrofiad cleifion yn GIG Lloegr. Gan fod iechyd wedi'i ddatganoli i raddau helaeth, mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Bil hwn yn berthnasol i Loegr yn unig.
Bil drafft Arferion Trosi, i gyflwyno gwaharddiad ar arferion trosi sy’n gynhwysol o bobl draws (y term a ddefnyddir am ymdrechion i newid, addasu neu atal cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd person). Bydd y Bil drafft yn ceisio llenwi’r bylchau yn y gyfraith droseddol er mwyn targedu arferion trosi.
Y Bil Mynediad Digidol at Wasanaethau, i gyflwyno ID digidol er mwyn moderneiddio’r ffordd y mae dinasyddion yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus.
Y Bil Diwygio Cyfunddaliad a Lesddaliad, a fyddai’n cyflwyno mesurau megis gwaharddiad ar ddefnyddio lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd a chap ar renti tir o £250 y flwyddyn. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fersiwn ddrafft o'r Bil hwn ym mis Ionawr 2026.
Bil y Lluoedd Arfog, gyda’r nod o sicrhau bod y fframwaith cyfreithiol yn parhau ar waith ar gyfer recriwtio a chynnal y Lluoedd Arfog, ac yn ymestyn dyletswydd gyfreithiol Cyfamod y Lluoedd Arfog. Cafodd y Bil hwn ei gario drosodd o’r sesiwn seneddol flaenorol y DU. Cyhoeddodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd flaenorol adroddiadau ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y pryd ar gyfer y Bil.
Y Bil Mynd i’r Afael â Bygythiadau Gwladwriaethol, i ddarparu modd i darfu ac atal gweithgareddau endidau sy'n gysylltiedig â'r wladwriaeth a'r rhai sy'n gweithredu ar y cyd â nhw, mewn ffordd sy’n cyfateb i waharddiad o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.
Y Bil Diogelwch Cenedlaethol, i greu troseddau newydd i ddiogelu’r DU rhag lledaeniad trais eithafol ar-lein, diwygio deddfwriaeth bresennol er mwyn gwella’r dirwedd seiber, a chau bylchau yn y ddeddfwriaeth bygythiadau gwladwriaethol, gan ei halinio’n agosach â deddfwriaeth terfysgaeth.
Y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch (Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth), gyda’r nod o wella amddiffynfeydd y DU yn erbyn ymosodiadau seiber. Cafodd y Bil hwn ei gario drosodd o'r sesiwn seneddol flaenorol. Cyhoeddodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd flaenorol adroddiadau ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y pryd.
Y Bil Rheilffyrdd, a fyddai’n anelu at sefydlu corff cryf i warchod teithwyr, symleiddio systemau tocynnau, a chyflwyno dyletswyddau i ddiogelu a thyfu’r diwydiant cludo nwyddau. Cafodd y Bil hwn ei gario drosodd hefyd. Ystyriodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd flaenorol dri Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y pryd ar y Bil. Rydym wedi ysgrifennu o’r blaen am yr hyn y gallai’r Bil ei olygu i Gymru.
Y Bil Hedfan Sifil (Diogelu Defnyddwyr a Diwygio Rheoleiddio), i gryfhau hawliau a gwarchodaethau defnyddwyr, hyrwyddo twf economaidd a darpariaeth seilwaith, a gwella diogelwch hedfan.
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Ar adeg ysgrifennu hyn, nid yw Llywodraeth newydd Cymru wedi ymateb i Araith y Brenin eto. Mae'n debygol y bydd yn nodi ei rhaglen ddeddfwriaethol ei hun dros y misoedd nesaf. Cadwch lygad ar wefan Ymchwil y Senedd am ein crynodeb o unrhyw gynigion newydd.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru