Ar 11 Mehefin 2025, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ganlyniad Adolygiad Gwariant 2025: beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?
Beth yw Adolygiad Gwariant?
Mae Adolygiadau Gwariant Llywodraeth y DU yn pennu cyfansymiau gwariant cyffredinol y llywodraethau datganoledig i raddau helaeth gan fod y rhan fwyaf o'u cyllid yn dod o grantiau bloc a gânt gan Lywodraeth y DU.
Mae'r newid blynyddol mewn grantiau bloc yn cael ei bennu i raddau helaeth gan fformiwla Barnett, sy'n addasu'r grantiau fel bod pob gweinyddiaeth yn fras yn cael yr un newid fesul punnoedd y pen â newidiadau gwariant cymharol yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gwneud addasiad grant bloc i ystyried datganoli trethi i Gymru.
Roedd Cyfnod 1 o'r Adolygiad Gwariant 2025, y cyhoeddwyd ei ganlyniad yng Nghyllideb yr Hydref 2024, yn pennu cyllidebau adrannol y DU ar gyfer 2025-26. Lansiodd Llywodraeth y DU Gyfnod 2 ym mis Rhagfyr 2024. Cyhoeddwyd canlyniadau hyn yn yr Adolygiad Gwariant hwn ac maent yn pennu cyllidebau adrannol ar gyfer gwariant refeniw tan 2028-29 a buddsoddiad cyfalaf tan 2029-30.
Bydd cyllid refeniw yn cynyddu i Gymru, ond bydd cyllid cyfalaf yn lleihau
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £22.4 biliwn bob blwyddyn ar gyfartaledd gan Lywodraeth y DU rhwng 2026-27 a 2028-29. Mae hyn yn cynnwys £1.6 biliwn ychwanegol bob blwyddyn ar gyfartaledd drwy fformiwla Barnett, sy'n cynnwys £1.4 biliwn o refeniw am y tair blynedd nesaf a £200 miliwn o gyfalaf am y pedair blynedd nesaf.
Dywed Llywodraeth y DU y bydd cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru (sy'n ariannu gwariant adrannol 'o ddydd i ddydd') yn cynyddu 0.9% ar gyfartaledd blynyddol mewn termau real rhwng 2025-26 a 2028-29. Bydd yr Alban yn gweld twf ar gyfartaledd blynddol mewn termau real o 0.8%, a bydd Gogledd Iwerddon yn gweld twf ar gyfartaledd blynyddol mewn termau real o 0.4% dros yr un cyfnod. Tra bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn gostwng ar gyfartaledd blynyddol o 0.9% mewn termau real rhwng 2025-26 a 2029-30, bydd y llywodraethau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweld cynnydd dros yr un cyfnod (cyfradd twf ar gyfartaledd blynyddol o 0.3% a 0.7%, yn y drefn honno, dros yr un cyfnod).
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gael dros 20% yn fwy o gyllid y pen na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU ledled y DU.
Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn dweud, dros gyfnod Senedd bresennol y DU (2023-24 i 2028-29), y bydd cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru yn tyfu'n gymharol llai nag y gwnaeth yn y tymor seneddol blaenorol (2018-19 i 2023-24).
Cyhoeddi £445 miliwn ar gyfer “gwelliannau i’r rheilffyrdd” yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi o leiaf £445 miliwn yn y rheilffyrdd yng Nghymru dros 10 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys £302 miliwn ar gyfer gorsafoedd Adolygiad Burns, Croesfan Gogledd Cymru, Seidin Padeswood a Chyffordd Gorllewin Caerdydd. Mae hefyd yn cynnwys £48 miliwn i Lywodraeth Cymru uwchraddio rhwydwaith rheilffyrdd Llinellau Craidd y Cymoedd a chynyddu cysylltedd ledled Cymru, yn ogystal â £95m drwy'r Strategaeth Seilwaith deng mlynedd.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod y cyhoeddiad "yn dechrau mynd i'r afael â'r tanwariant hanesyddol o ran buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru".
Fodd bynnag, dywedodd Dadsansoddi Cyllid Cymru fod yr arian ar gyfer y rheilffyrdd yn siomedig iawn yng nghyd-destun colli symiau canlyniadol gan fod HS2 yn cael ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr yn hytrach na phrosiect i Loegr yn unig. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn amcangyfrif fod cyfanswm yr arian a gollwyd o HS2 rhwng 2016-17 a 2029-30 bellach yn £845 miliwn, ac y bydd yn parhau i dyfu’n sylweddol mewn Adolygiadau Gwariant yn y dyfodol.
Mae fformiwla Barnett yn destun dadl o ran gwariant sy'n gysylltiedig â’r rheilffyrdd yng Nghymru, yn arbennig felly mewn perthynas â HS2. Mae'r un mater bellach yn cael ei godi mewn perthynas â'r Prosiect Rheilffordd Dwyrain-Gorllewin.
Mae’r Datganiad o Bolisi Ariannu yn darparu ffactorau cymharedd a ddefnyddir yn fformiwla Barnett i gyfrifo'r dyraniadau perthnasol i’r llywodraethau datganoledig.
Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, nid yw Cymru'n cael dyraniad grant bloc mewn meysydd gwariant allweddol fel HS2, rheilffyrdd rhwydwaith a phrosiectau rheilffyrdd oherwydd bod cynllunio ac ariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru, ac eithrio Llinell Graidd y Cymoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, wedi'u cadw'n ôl. Felly, mae Llywodraeth y DU yn cymhwyso ffactor cymharedd o 0% i'r meysydd hyn.
Mae'r Datganiad o Bolisi Ariannu yn dangos bod gan Gymru ffactor cymharedd o 33.5% ar gyfartaledd, gyda chynnydd yng nghyllid Llywodraeth y DU ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth. Mae hyn yn cymharu â ffactor cymharedd o 95.6% ar gyfartaledd ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.
£118 miliwn pellach ar gyfer diogelwch tomenni glo
Y llynedd, roedd Cyllideb yr Hydref y DU yn cynnwys £25 miliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer diogelwch tomenni glo. Mae £118 miliwn pellach wedi'i gyhoeddi yn yr Adolygiad Gwariant hwn. Yn flaenorol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru amcangyfrif y gallai gostio rhwng £500 a £600 miliwn i atgyweirio tomenni glo. Fodd bynnag, mae bellach yn dweud mai amcangyfrif dros dro oedd hwn ac y bydd yn cyhoeddi ffigur wedi'i ddiweddaru. Dywedodd Canghellor y Trysorlys mai £118m yw’r ffigur y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano gan Lywodraeth y DU a’i bod wedi cyflawni hynny’n llawn. Diogelwch tomenni glo yw pwnc Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), sydd yng Nghyfnod 3 o ran gwaith craffu'r Senedd ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, clywodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol fod gwahaniaeth rhwng maint yr her a’r arian sydd ar gael i adfer tomenni glo risg uchel.
Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet fod y buddsoddiad ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn diogelwch tomenni glo, gan gynnwys y cyllid a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad Gwariant, bellach dros £220 miliwn.
Bydd cyllid twf lleol yn aros ar lefelau 2025-26, ond bydd bron 40% yn is nag yn 2024-25
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai’n cyflwyno cronfa twf lleol o 2026-27 yn lle'r Cronfa Ffyniant Gyffredin, a oedd yn cymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE. Yng Nghymru, Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU a Swyddfa Cymru fydd yn gweithredu'r gronfa, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Ym mis Mawrth 2023, pan oedd yn Arweinydd yr Wrthblaid, dywedodd Prif Weinidog y DU fod gwyro heibio Llywodraeth Cymru yn y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ‘warthus’. Ymrwymodd i adfer rôl gwneud penderfyniadau i Lywodraeth Cymru, gan ddweud ei bod yn bryd i Gymru adafael yn yr awenau.
Mae Aelodau wedi mynegi pryderon ynghylch a fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu'r ymrwymiad hwn, o ystyried geiriad dogfennaeth yr Adolygiad Gwariant. Ar 18 Mehefin 2025, dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ei bod wedi cael sicrwydd diamheuol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mai Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar hyn ac yn ei reoli, gan ychwanegu ei bod wedi ei gwneud yn gwbl glir y bydd yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am hyn. Nid yw manylion gweithredol y gronfa yn glir eto.
Dywed Llywodraeth y DU y bydd Cymru yn cael yr un swm o gyllid mewn termau arian parod (£211 miliwn y flwyddyn) ym mhob un o'r tair blynedd ariannol nesaf fel y mae wedi gwneud drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2025-26. Fodd bynnag, bydd Cymru yn cael 38% yn llai drwy'r gronfa twf lleol yn 2026-27 na'r £343 miliwn a gafwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2024-25, gan fod Cyllideb yr Hydref 2024 gan Lywodraeth y DU yn parhau â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar lefel is dros flwyddyn drawsnewid yn 2025-26. Mae'n ymddangos y bydd y cyllid hefyd yn cwmpasu ystod ehangach o feysydd na'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan ei fod yn cynnwys buddsoddiad yng nghyfran Cymru o gynigion Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn cydlyniant cymunedol, adfywio a gwella'r parth cyhoeddus.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi manylion yr Adolygiad Gwariant a beth yw’r goblygiadau i Gymru. Mae disgwyl iddo wneud datganiad yn nodi dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran ei Chyllideb Ddrafft nesaf ar 1 Gorffennaf.
Erthygl gan Božo Lugonja, Gareth Thomas, Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.