Mae cyflymder datblygiad deallusrwydd artiffisial wedi cyflymu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol sgwrsbotiau yn denu sylw eang. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud “Gall sefydlu'r dechnoleg a'r seilwaith ehangach yma yng Nghymru arwain at fanteision enfawr i’r economi”.
Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Medi ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ddeallusrwydd artiffisial a'r economi, mae ein herthygl yn mynd i’r afael â’r holl wybodaeth, ac yn archwilio beth allai defnydd cynyddol o dechnolegau deallusrwydd artiffisial ei olygu i economi, busnesau a gweithwyr Cymru.
Mae'r graffig isod yn egluro rhai o'r termau allweddol a ddefnyddir yn yr erthygl hon.
Sut olwg sydd ar sector deallusrwydd artiffisial Cymru, ac i ba raddau mae busnesau'n defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial?
Mae gwaith ymchwil ddiweddar a gynhyrchwyd ar gyfer Llywodraeth y DU yn dangos bod nifer y cwmnïau deallusrwydd artiffisial yng Nghymru wedi dyblu rhwng 2022 a 2024. Fodd bynnag, dim ond 1.4% o leoliadau swyddfeydd cwmnïau deallusrwydd artiffisial cofrestredig yn y DU sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 21% o fusnesau'r DU yn defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial ym mis Mehefin 2025, ddwywaith cymaint ag yr oeddent pan holwyd ym mis Medi 2023. Roedd 14% arall yn bwriadu mabwysiadu rhyw fath o dechnoleg deallusrwydd artiffisial yn y tri mis nesaf.
Fodd bynnag, canfu arolwg y llynedd gan y Brifysgol Agored a Siambr Fasnach Prydain nad oedd dros hanner busnesau Cymru yn hyderus ynghylch defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial newydd. Canfu Adolygiad Mabwysiadu Technoleg Llywodraeth y DU fod y rhwystrau allweddol i fusnesau sy'n mabwysiadu technolegau deallusrwydd artiffisial yn cynnwys cyfyngiadau ariannol; diffyg sgiliau rheoli a’r gweithlu; diffyg ymwybyddiaeth o dechnoleg a'i manteision a'i risgiau; ansicrwydd polisi a rheoleiddio; a diffyg mynediad at seilwaith technolegol.
Clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am bwysigrwydd darparu cefnogaeth ymarferol i fusnesau sydd â diddordeb mewn defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial newydd. Amlygodd yr Athro Rossi Setchi o Brifysgol Caerdydd mai’r hyn sydd ei angen yw ‘cymorth ymarferol, cyngor ymarferol’ er mwyn helpu busnesau i drosi syniadau yn rhywbeth pendant.
Galwodd AMPLYFI, cwmni deallusrwydd marchnad sy'n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial ac sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, am strategaeth glir mewn tri maes lle mae Cymru yn ‘gwneud y rhan fwyaf o’r pethau cywir’, ond nad yw’n eu gwneud mewn ‘ffordd gydgysylltiedig a strategol’:
There are essentially three pillars that any sector needs to flourish. The first is access to talent, the second is access to capital, and the third is access to market.
Pa effeithiau allai technolegau deallusrwydd artiffisial eu cael ar dwf economaidd a chynhyrchiant?
Mae barn gyffredinol bod technolegau deallusrwydd artiffisial yn cynnig y potensial ar gyfer gwelliannau cynhyrchiant sylweddol. Mae gwaith ymchwil gan PwC ar gyfer Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd cynhyrchiant cynyddol sy'n deillio o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg yn cyfrannu tua 8.4% at CMC real erbyn 2035. Cred yr Athro Alun Preece o Brifysgol Caerdydd y bydd cynhyrchiant cynyddol yn deillio o 'gynyddu deallusrwydd' – caniatáu i bobl wneud mwy gyda’r adnoddau sydd ganddynt, yn hytrach na chael eu rhoi allan o swydd. Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru yn dadlau y gellid gwella cynhyrchiant cyn belled â bod gweithwyr yn rhan o'r sgwrs, ac yn awgrymu y gallai hyn arwain at oriau gwaith byrrach.
Ar 17 Medi, cytunodd Llywodraethau’r DU a'r Unol Daleithiau ar bartneriaeth dechnoleg, a gyhoeddwyd yn ystod ymweliad gwladol yr Arlywydd Trump â'r DU. Ochr yn ochr â'r cytundeb, cyhoeddodd cwmnïau technoleg yr Unol Daleithiau hefyd fuddsoddiad cyfunol o £31 biliwn yn sector deallusrwydd artiffisial y DU. Mae'r DU wedi bod yn weithgar wrth geisio sicrhau buddsoddiad gan yr Unol Daleithiau, yn ogystal â chyhoeddi partneriaethau gyda chwmnïau technoleg fel OpenAI.
Mae Llywodraeth y DU yn creu parthau twf deallusrwydd artiffisial i gefnogi buddsoddiad mewn canolfannau data. Dywedodd y Prif Weinidog fod Cymru “mewn sefyllfa unigryw i elwa o'r cynlluniau seilwaith AI, gyda gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu canolfannau technoleg, adnoddau a rennir a chanolfannau data”. Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod capasiti canolfan ddata Cymru yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr ac eithrio Llundain, ac mae cynlluniau ar gyfer adeiladu canolfannau data pellach. Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi safle ar gyfer parth twf deallusrwydd artiffisial yng Nghymru erbyn diwedd 2025.
Mae pryderon ynghylch defnydd ynni a dŵr canolfannau data, ac mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi crynhoi’r rhain, ynghyd ag ymatebion posibl. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu Cyngor Ynni Deallusrwydd Artiffisial i archwilio sut y gellir pweru uchelgeisiau deallusrwydd artiffisial y llywodraeth gyda ffynonellau ynni glân a chyfrifol. Fodd bynnag, ymunodd Llywodraeth y DU â'r Unol Daleithiau drwy wrthod llofnodi datganiad Paris ar ddeallusrwydd artiffisial cynhwysol a chynaliadwy.
Pa effeithiau allai technolegau deallusrwydd artiffisial eu cael ar weithwyr?
Mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU yn awgrymu erbyn 2035 y bydd tua 10 miliwn o weithwyr y DU mewn rolau lle bydd deallusrwydd artiffisial yn rhan o’u rôl neu gyfrifoldebau mewn rhyw ffordd, gyda 3.9 miliwn arall mewn rolau’n uniongyrchol mewn deallusrwydd artiffisial. Canfu pôl diweddar gan TUC fod 60% o ymatebwyr Cymru yn pryderu ynghylch effaith deallusrwydd artiffisial a thechnolegau newydd ar eu swydd.
Mae barn gymysg ynghylch sut y bydd technolegau deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar gyflogaeth. Holodd Adolygiad Pissarides y Sefydliad ar gyfer Dyfodol Gwaith dros 1,000 o gwmnïau yn y DU, a chanfod bod 78% o gwmnïau a oedd wedi mabwysiadu technolegau newydd wedi dweud eu bod wedi creu swyddi, tra bod 55% wedi dweud bod technoleg newydd wedi disodli neu ddileu swyddi.
Fodd bynnag, dywed y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus fod 4.4 miliwn o swyddi ledled y DU mewn perygl oherwydd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan godi i 8 miliwn o swyddi yn y senario gwaethaf. Dywed y bydd yr effaith hon yn cael ei theimlo i ddechrau gan rolau gweinyddol, a gyflawnir yn bennaf gan fenywod, gyda swyddi sydd â chyflog uwch yn fwy tebygol o gael eu heffeithio yn ddiweddarach.
Dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gall rhagfarn a gwahaniaethu ddigwydd drwy gydol y broses recriwtio pan ddefnyddir deallusrwydd artiffisial, er enghraifft drwy hysbysebu swyddi ar-lein wedi'u targedu i ddod o hyd i ymgeiswyr, ac wrth ddewis ymgeiswyr. Mae'r Athro Lina Dencik o Goldsmiths, Prifysgol Llundain, hefyd wedi nodi'r potensial ar gyfer defnydd rheolaethol o dechnolegau deallusrwydd artiffisial i gryfhau neu greu anghydraddoldebau, fel technoleg sy'n seiliedig ar ddata yn cael ei defnyddio i 'reoli' gweithwyr hŷn. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, corff tair rhan sy'n cynnwys cyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig, undebau llafur a Llywodraeth Cymru, wedi llunio canllawiau ar reoli technoleg sy'n rheoli pobl.
Mae busnesau ac undebau llafur yn cytuno ar yr angen i flaenoriaethu hyfforddiant a datblygu sgiliau ar gyfer technolegau deallusrwydd artiffisial. Mae TUC Cymru yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi hyfforddiant deallusrwydd artiffisial i'r gweithlu, gan ganolbwyntio ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio, beth yw’r risgiau, pa gwestiynau i’w gofyn, pwysigrwydd cael bod dynol yn gyfrifol am y penderfyniadau y mae’n eu gwneud. Yn yr un modd, dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:
…there's an interest in adopting AI tools, but we also know that there's a high level of poor digital literacy in Wales as well, so looking at how our education institutions can now meet the demand of the economy, meet the demand of our firms is really, really key.
Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig ‘sgiliau digidol a deallusrwydd artiffisial arloesol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru’, ac y bydd yn datblygu canolfannau rhagoriaeth deallusrwydd artiffisial gyda phartneriaid i gefnogi cyfnod pontio teg i weithwyr.
Beth sydd nesaf?
Mae deallusrwydd artiffisial yn faes sy'n symud yn gyflym ac, fel y dywed y cynllun gweithredu ar gyfleoedd deallusrwydd artiffisial a ddatblygwyd gan Matt Clifford, ‘ni all neb ddweud gyda sicrwydd sut olwg fydd ar ddeallusrwydd artiffisial ymhen degawd’. Bydd sut y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymateb i ddatblygiadau dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf yn hollbwysig i'r economi a'r gymdeithas.
Gallwch wylio'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Maddy Phillips a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.