Mae'r wythnos waith safonol pum niwrnod wedi bod yn arferol yn y DU ers hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Bu galwadau yn ddiweddar, fodd bynnag, am leihau hyn er mwyn gwella lles y gweithlu, cynyddu cynhyrchiant, a bod o fudd i’r amgylchedd.
Bydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn dechrau ymchwilio i’r mater hwn ar 27 Mehefin. Bydd yn ystyried deiseb y mae wedi’i chael gan Mark Hooper, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cynnal treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.
Sut allai wythnos waith pedwar diwrnod weithio?
Rhan allweddol o'r ymgyrch am wythnos waith pedwar diwrnod yw lleihau oriau gwaith, ond nid cyflogau. Hoffai ‘4 Day Week Global’, sef sefydliad dielw sy'n ymgyrchu dros sefydlu wythnos waith pedwar niwrnod, fodel '100-80-100'. Mae hyn yn cynnwys bod gweithwyr yn cael 100 y cant o’u cyflog cyfredol, eu bod yn gweithio 80 y cant o’u horiau gwaith a bod busnesau'n cynyddu eu cynhyrchiant 100 y cant.
Mae enghreifftiau hefyd o achosion pan mae gweithwyr wedi newid i wythnos waith pedwar diwrnod, ond wrth barhau i weithio'r un faint o oriau ag o'r blaen. Er enghraifft, mae Gwlad Belg wedi nodi cynlluniau i roi'r hawl i weithwyr a gyflogir gan fusnesau sydd â mwy nag 20 o weithwyr ofyn am gael gweithio eu horiau gwaith rheolaidd mewn pedwar diwrnod.
Beth yw'r dadleuon o blaid ac yn erbyn newid i wythnos waith pedwar diwrnod?
Mae cefnogwyr wythnos waith pedwar diwrnod wedi dadlau y byddai’r manteision a ganlyn yn dod yn ei sgil:
- Dywed 4 Day Week Global fod buddion lles i weithwyr o weithio wythnos pedwar diwrnod, gan gynnwys gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith; gwell iechyd corfforol a meddyliol; a gweithwyr hapusach sy’n cael rhagor o foddhad o’u gwaith.
- Mae 4 Day Week Global hefyd yn dyfynnu tystiolaeth o Siapan a Seland Newydd bod wythnos waith pedwar diwrnod yn arwain at well cynhyrchiant ar draws gwahanol wledydd a sectorau. Mae Cyngres yr Undebau Llafur yn dweud y bydd datblygiadau technolegol yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant a fydd yn caniatáu i weithwyr weithio llai o oriau.
- Mae’r felin drafod Autonomy yn dweud bod “arwyddion cryf” y gall byrhau'r wythnos waith helpu i leihau llygredd aer a lleihau'r ôl troed carbon drwy ostwng lefelau cymudo a newid ymddygiad o ran gweithgareddau carbon isel.
- Mae'r Grŵp Cyllideb Menywod wedi gwneud sylw y gallai wythnos waith fyrrach gyfrannu at ragor o gydraddoldeb rhywiol, gan y byddai dynion yn cymryd rhagor o gyfrifoldeb am ofal di-dâl a gwaith tŷ.
Fodd bynnag, codwyd pryderon ynghylch effeithiau negyddol posibl wythnos waith pedwar diwrnod, a’r heriau y byddai’r rhain yn eu cyflwyno:
- Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) wedi dweud nad “dulliau anhyblyg” fel wythnos waith pedwar diwrnod yw’r dull cywir pan “mae gweithio hyblyg yn dod yn bwysicach nag erioed”.
- Mae academyddion o Sefydliad Fraser of Allander yn awgrymu efallai na fydd rhai sectorau'n gallu cyfateb i'w cynhyrchiant presennol o fewn wythnos waith pedwar diwrnod, fel maes iechyd, addysg a gwasanaethau personol fel trin gwallt. Gallai llai o oriau gwaith arwain at lai o elw neu fod angen rhagor o arian cyhoeddus ar gyfer y sectorau hyn.
- Mae’r Athro Abigail Marks wedi awgrymu bod rhai sectorau o’r economi, fel gwasanaethau brys a lletygarwch, a allai ddweud nad yw natur eu gwaith yn caniatáu wythnos waith pedwar diwrnod.
- Bu Ymddiriedolaeth Wellcome yn ystyried gweithredu wythnos waith pedwar diwrnod, ond penderfynodd beidio â gwneud hynny gan ei fod yn “rhy gymhleth yn weithredol i’w roi ar waith”. Canfu ei bod yn anodd cysoni anghenion timau gwahanol y cwmni, sy'n gweithio mewn patrymau gwaith gwahanol.
Beth yw barn Llywodraeth Cymru am wythnos waith pedwar diwrnod?
Ym mis Rhagfyr 2021, gwnaeth y Prif Weinidog sylwadau ar ddatblygiadau wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ a'r Alban, a dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn “parhau i edrych ar y profiad y mae eraill yn ei gael” ac yn “dod â’r wybodaeth honno yn ôl i Gymru i weld pa bosibiliadau sydd i ni".
Yn fwy diweddar, cydnabu Gweinidog yr Economi waith y cwmni Autonomy a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar yr wythnos waith pedwar diwrnod. Awgrymodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau â diddordeb brwd yn y maes hwn o lunio polisi, a pharhaodd drwy ddweud:
…if there are businesses that want to trial a four-day working week, we would be interested in having a properly constructive conversation about how that would fit into the work we're already doing, whether we could support them, and how then we take on board the learning that comes from those, to see whether it could be applied more generally, whether in public services or, indeed, the wider economy.
Beth yw barn sefydliadau eraill ledled Cymru?
Cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Autonomy adroddiad ym mis Chwefror a oedd yn galw am dreialu wythnos waith fyrrach yng Nghymru. Hoffai pe bai:
- Wythnos waith fyrrach yn cael ei threialu yn y sector cyhoeddus datganoledig;
- Strategaethau caffael y sector cyhoeddus yn cael eu defnyddio i annog amser gweithio am gyfnodau llai yn y sector preifat; ac
- Undebau llafur yn cael eu grymuso i'w galluogi i drafod oriau gwaith byrrach.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi safbwyntiau amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru a fu’n ymwneud â’i ddatblygiad, gan gynnwys cyflogwyr, undebau llafur, a sefydliadau’r trydydd sector.
Mae CBI Cymru wedi dweud, fodd bynnag, er y gallai wythnos waith pedwar diwrnod lwyddo ar gyfer rhai sefydliadau, nid yw'n ymarferol i eraill. Mae’n awgrymu y gallai orlwytho busnesau gyda rhagor o newidiadau ar ben gweithio hybrid a gweithio gartref, ac mae’n ansicr a fyddai lleihau oriau gwaith yn arwain at ragor o gynhyrchiant.
Pa gynlluniau peilot sydd ar waith yng Nghymru a thu hwnt?
Mae 4 Day Week Global wedi sefydlu nifer o gynlluniau peilot ar draws y byd i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod. Bydd un o'r rhain yn parhau am chwe mis yn y DU, a dechreuodd yn gynharach y mis hwn. Mae 70 o gyflogwyr yn cymryd rhan ledled y DU (gan gynnwys Merthyr Valley Homes), pan fydd cyfanswm o 3,300 o weithwyr yn symud i wythnos waith pedwar diwrnod.
Mae 4 Day Week Global hefyd wedi sefydlu rhaglen beilot yn Iwerddon, sy'n gweithredu am chwe mis o fis Chwefror 2022. Fel rhan o’r rhaglen beilot, mae Llywodraeth Iwerddon yn ariannu gwaith ymchwil ar effeithiau economaidd, effeithiau cymdeithasol ac effeithiau amgylcheddol wythnos waith pedwar diwrnod, a bydd yn ystyried yr effeithiau ar gyflogwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot.
Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun peilot pedwar diwrnod gwaith yr wythnos, gan gynnwys ymrwymiad i ddarparu £10 miliwn o gyllid i gefnogi busnesau i dreialu wythnos o’r fath.
Mae’n bosibl mai Gwlad yr Iâ sy’n fwyaf adnabyddus am fabwysiadu wythnos waith fyrrach. Cynhaliodd Llywodraeth Gwlad yr Iâ a Chyngor Dinas Reykjavik dreialon ar wahân rhwng 2015 a 2019, pan newidiodd gweithwyr o wythnos waith 40 awr i wythnos waith 35-36 awr am yr un cyflog. Mae dau sefydliad sy'n eiriol dros wythnos waith fyrrach, sef melin drafod Autonomy o’r DU a'r sefydliad Alda o Wlad yr Iâ, wedi dadansoddi effeithiau’r cynlluniau peilot hyn.
Canfuwyd, ers i'r treialon gael eu cynnal, mae 86 y cant o weithwyr Gwlad yr Iâ naill ai'n cael eu cyflogi ar gontractau gydag oriau gwaith byrrach am yr un cyflog, neu ar gontractau sy'n rhoi'r hawl iddynt gael yr un cyflog am weithio oriau byrrach. Er bod y rhai sy'n gweithio oriau safonol wedi gweld gostyngiadau cymharol fach o ran oriau, gwelodd gweithwyr shifft y sector cyhoeddus, fel nyrsys, ostyngiad mwy yn nifer yr oriau y disgwylir iddynt weithio.
Beth sydd nesaf?
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Pwyllgor Deisebau yn clywed gan randdeiliaid sydd ag amrywiaeth o safbwyntiau ar y mater, cyn y gwneir argymhellion i Lywodraeth Cymru. Gallwch wylio'r sesiwn dystiolaeth ar Senedd TV.
Erthygl gan Gareth Thomas ac Isobel Pagendam, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru