Bathodynnau Glas: Sut i wneud cais a sut i apelio?

Cyhoeddwyd 07/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dyma'r ail erthygl mewn cyfres o flogiau yn trafod cynllun y Bathodynnau Glas. Roedd y blog ddoe yn esbonio'r meini prawf o ran asesu a chymhwysedd ar gyfer derbyn Bathodyn Glas.

Mae'r cynllun Bathodynnau Glas yn drefniant cenedlaethol ar gyfer darparu consesiwn parcio i bobl anabl, sydd mewn grym ar draws y DU.

Gwneud cais am Fathodyn Glas

Gellir gwneud cais am Fathodyn Glas ar-lein neu drwy ofyn am ffurflen gan yr awdurdod lleol perthnasol. Os yw'r unigolyn yn gymwys heb asesiad pellach, bydd y broses o wneud cais yn gymharol syml. Os nad yw'r unigolyn yn gymwys yn awtomatig, ond yn hytrach yn gymwys yn amodol ar asesiad pellach, bydd angen iddo gwblhau rhan ychwanegol o'r ffurflen gais i esbonio pam y mae arnyn nhw angen y bathodyn.

Dylai'r sawl sy'n gwneud cais glywed y naill ffordd neu'r llall o fewn 6-8 wythnos, gan ddibynnu ar eu hawdurdod lleol.

Adnewyddu a dychwelyd

Bydd angen i'r sawl sy'n gwneud cais adnewyddu eu bathodyn ar ôl tair blynedd, neu pan fydden nhw’n peidio â derbyn y budd-dal a oedd yn gysylltiedig â'u bathodyn, er enghraifft y Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Rhaid dychwelyd y Bathodyn Glas i'r awdurdod lleol os nad yw’r sawl sy'n ei ddal ei angen bellach, er enghraifft, os yw eu cyflwr yn gwella. Gall deiliad y Bathodyn Glas dderbyn dirwy o £1,000 os nad ydyn nhw’n dychwelyd y Bathodyn Glas yn yr amgylchiadau hyn.

Pryd all awdurdod lleol wrthod cais?

Gall awdurdod lleol wrthod cais am Fathodyn Glas os:

  • Nad yw’r unigolyn yn gymwys drwy’r categori awtomatig neu ddewisol am Fathodyn Glas;
  • Yw'r unigolyn wedi camddefnyddio Bathodyn Glas yn y gorffennol a chanddo o leiaf un collfarn o ganlyniad;
  • Oes gan yr awdurdod lleol sail resymol i gredu nad yr unigolyn yw’r person mae’n honni ydyw;
  • Oes gan yr awdurdod lleol sail resymol i gredu y byddai'r unigolyn yn caniatáu i eraill ddefnyddio'r Bathodyn Glas; neu
  • Yw'r awdurdod lleol yn credu nad yw'r unigolyn yn preswylio yn ei ardal.

Apelio yn erbyn penderfyniad cymhwysedd

Nid oes hawl gyfreithiol gan y sawl sy'n gwneud cais i apelio os nad yw'n boddhau meini prawf cymhwysedd y Bathodyn Glas. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod gan awdurdodau lleol weithdrefn yn ei lle ar gyfer apeliadau. Os oes gan yr awdurdod lleol weithdrefn apeliadau yn ei lle, dylai'r sawl sy'n gwneud cais ofyn am fanylion y weithdrefn honno, a dilyn y camau perthnasol er mwyn apelio. Dylid rhoi esboniad ysgrifenedig manwl i'r unigolyn pam y gwrthodwyd eu cais.

Ar ôl derbyn yr esboniad hwn, dylai'r unigolyn egluro i’r awdurdod lleol pam y mae'n credu i'r penderfyniad hwnnw fod yn anghywir, gan ddarparu tystiolaeth i gefnogi ei achos.

Apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad arall

Os gwrthodwyd cais unigolyn oherwydd iddo gamddefnyddio'r Bathodyn Glas yn y gorffennol, gall apelio i Dîm Bathodynnau Glas Llywodraeth Cymru. Gall y sawl sy'n gwneud cais hefyd apelio os ydyn nhw wedi derbyn hysbysiad yn mynnu eu bod yn dychwelyd eu Bathodyn Glas am iddyn nhw ei gamddefnyddio neu oherwydd bod y bathodyn wedi'i roi ar sail anonestrwydd. Rhaid anfon unrhyw apêl at Dîm Bathodynnau Glas Llywodraeth Cymru:

Y Tîm Bathodynnau Glas,

Uned Cludiant Integredig Trafnidiaeth,
Cymru Llywodraeth,
Cymru Parc,
Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ

Rhaid i’r apêl gael ei wneud o fewn 28 diwrnod i wrthod y cais, ac mae'n rhaid i’r unigolyn roi manylion eu hachos yn llawn, gan nodi pam y maen nhw’n apelio.

Nid oes gwrandawiad, ond bydd y swyddfa apeliadau yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol perthnasol i ofyn ar ba sail y gwrthodwyd y cais am fathodyn, gan yna wneud penderfyniad. Os oes gan yr unigolyn fathodyn eisoes, bydd yn dal i weithio nes y gwneir penderfyniad ynglyn â’r apêl.

Os gwrthodir yr apêl, gall yr unigolyn apelio i'r llys ynadon.

Os yw unigolyn yn anhapus gyda'r ateb i'w gwyn, gall gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Bydd yn ystyried y cais ac yn penderfynu a wnaeth y cyngor y penderfyniad anghywir.

Mae llawer o'r wybodaeth uchod wedi'i gymryd oddi ar wefan Advisernet Cymorth ar Bopeth.

Dyma'r ail erthygl mewn cyfres o flogiau yn trafod y cynllun Bathodynnau Glas. Bydd y blog yfory yn esbonio'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ar y cynllun Bathodynnau Glas.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o Pixabay gan stevepb. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Bathodynnau Glas: Sut i wneud cais a sut i apelio? (PDF, 164KB)