Cylch gorchwyl yr ymchwiliad
Wrth geisio sicrwydd bod gan y GIG yng Nghymru yr adnoddau priodol i ymdopi â'r pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu dros y gaeaf, bu ymchwiliad y Pwyllgor yn ystyried:- y pwysau cyfredol sy'n wynebu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, a pha mor barod oedd GIG a gwasanaethau cymdeithasol Cymru ar gyfer gaeaf 2016/17;
- a fu digon o gynnydd yn y Pedwerydd Cynulliad o ran lleihau'r pwysau ar ofal heb ei drefnu drwy fynd ati i gynllunio mewn ffordd integredig ar gyfer y gaeaf ar draws gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ambiwlans, a'r gwersi a ddysgwyd;
- y camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau gofal brys ac argyfwng, a'r system gyfan, gan sicrhau bod GIG Cymru yn datblygu gwydnwch i'r galw tymhorol ac i wella ei sefyllfa ar gyfer y dyfodol.
Casglu tystiolaeth
Ymgynghorodd y Pwyllgor ar hyn, ac mae'r ymatebion bellach wedi cael eu cyhoeddi. At hynny, cynhaliwyd nifer o sesiynau i glywed tystiolaeth gan ystod o gyrff proffesiynol a sefydliadau rhanddeiliaid gan gynnwys byrddau iechyd lleol, gwasanaethau cymdeithasol a chynrychiolwyr o blith darparwyr cartrefi gofal a gofal yn y cartref. Yn sgil y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor, daeth nifer o themâu i'r amlwg:- Integreiddio Gwasanaethau: roedd lle ar gyfer cynllunio ar y cyd yn well, ynghyd â darparu gwasanaethau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol, ac roedd y defnydd a wnaed o'r sector annibynnol yn gyfyngedig;
- Galw: mae cynnydd mewn galw yn ystod y gaeaf, ond mae pwysau sylweddol yn cynyddu drwy gydol y flwyddyn, a hynny'n bennaf oherwydd y boblogaeth yn heneiddio ac yn mynd yn fwy bregus, a llawer o'r boblogaeth honno â nifer o anghenion cymhleth. At hynny, mae nifer cynyddol o bobl â chyflyrau cronig sydd angen rhagor o gefnogaeth gan wasanaethau sylfaenol a chymunedol ynghyd â gwasanaethau'r ysbyty. Roedd tystiolaeth hefyd yn dangos nifer uwch o blant sydd angen gofal oherwydd problemau anadlu yn ystod tymhorau'r gaeaf;
- Capasiti'r gwasanaethau: mynegwyd pryderon ynghylch y capasiti ar gyfer diwallu'r galw hwn ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, â phwysau arbennig ar ofal sylfaenol a chymunedol, gwelyau mewn ysbytai a mwyfwy o bryderon ynghylch y sector cartrefi gofal a gofal yn y cartref;
- Gweithlu: trafferthion o ran recriwtio a chadw digon o feddygon teulu a doctoriaid, nyrsys a staff mewn ysbytai ar gyfer cartrefi gofal a gofal yn y cartref;
- Oedi wrth ryddhau: mae angen o hyd i sicrhau bod unigolion yn gallu cael eu rhyddhau yn saff, yn brydlon a chyda'r cymorth cywir pan nad ydynt angen gofal yn yr ysbyty mwyach;
- Modelau gofal newydd: galwyd am ddatblygu modelau gofal newydd ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol i atal unigolion rhag cael eu derbyn i'r ysbyty yn y lle cyntaf, ynghyd â gwahanol ddulliau o ran darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, gan gynnwys defnyddio gofal sylfaenol ac, o bosibl, meddygon ar stepan drws;
- Dysgu ac adolygu: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth a oedd yn crybwyll datblygiadau positif mewn sawl maes, gan gynnwys gwasanaethau ambiwlans a chynlluniau a gaiff eu hariannu gan Y Gronfa Gofal Canolraddol. Fodd bynnag, roedd pwyslais eglur bod angen rhannu arferion da a'u rhoi ar waith. Roedd tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod posibilrwydd ar gyfer gweithio'n fwy effeithiol mewn mannau, gan gynnwys y rhaglen frechu rhag y ffliw - gyda nifer y staff a oedd wedi derbyn y brechiad yn dal i fod yn isel - ynghyd â rhagor o eglurder o ran trefniadau gwaith mewn gofal sylfaenol.
Argymhellion y Pwyllgor
Nododd adroddiad y Pwyllgor nifer o gasgliadau ac argymhellion i'r Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon:- Dylai sicrhau rhagor o integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru;
- Dylid archwilio'r opsiynau ar gyfer galluogi trefniadau gwaith mwy effeithiol rhwng meddygon teulu a fferyllwyr mewn gwasanaethau ataliol cenedlaethol, megis y brechiad rhag y ffliw;
- Dylai Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod trefniadau ar droed ar gyfer sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu gan wasanaethau effeithiol, ac y rhennir arferion da cynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan ddysgu ohonynt;
- Dylai Ysgrifennydd y Cabinet adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ynghylch yr hyn a gyflawnwyd o ganlyniad i'r £50 miliwn ychwanegol a gafodd ei fuddsoddi;
- Dylid adolygu neu gomisiynu gwaith ymchwil ar effeithiolrwydd cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys;
- Dylid cyhoeddi dadansoddiad masnachol o wasanaethau cartrefi gofal a gofal yn y cartref, er mwyn cynnig darlun eglur o gapasiti a gwydnwch y sector;
- Dylid ystyried ar fyrder yr angen i wella hyfforddiant, datblygu sgiliau a goruchwylio yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
- Dylid bod yn eglur ynghylch yr arian sydd ar gael yn y tymor hir ar gyfer cynlluniau llwyddiannus a ariennir gan Y Gronfa Gofal Canolraddol, ynghyd â chynnig manylion hygyrch ar y modd y caiff arian y Gronfa ar gyfer 2017/18 ei ddefnyddio, a'r effaith y disgwylir iddo'i gael.
Erthygl gan Paul Worthington,wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.