Cyhoeddwyd 13/12/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
13 Rhagfyr 2013
Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_775" align="alignright" width="300"]

Llun: o Geograph gan David Hawgood. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Cyhoeddwyd y drydedd
gyfres o ddata blynyddol ar gyfer ysgolion uwchradd ar 12 Rhagfyr 2013.
Yn 2011, ymrwymodd cynllun gweithredu ugain pwynt y
Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data bandio ysgolion er mwyn gwella safonau ysgolion yn dilyn cyhoeddi canlyniadau PISA yn 2009.
Beth yw bandio?
Mae bandio yn defnyddio perfformiad cymharol ysgolion i grwpio ysgolion i un o bump o fandiau. Mae Ysgolion Band 1 yn ysgolion y mae eu data yn dangos perfformiad cyffredinol dda a chynnydd yn y mesurau’n gyffredinol. Ysgolion y mae eu perfformiad a’u cynnydd yn wan o’u cymharu ag ysgolion eraill yw Ysgolion Band 5.
Mae bandio yn grwpio ysgolion yn ôl amrywiaeth o ffactorau. Y bwriad yw bod y data’n cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o gynllunio, i dargedu cefnogaeth ac i herio o ran perfformiad. Ei fwriad yw nodi cryfderau, gwendidau ac arferion gorau ac i gefnogi unrhyw ymyrraeth.
Ni ellir defnyddio’r model bandio i fonitro newid dros gyfnod o amser, oherwydd ni wyddys a yw newid ym mand ysgol wedi digwydd oherwydd newidiadau ym mherfformiad yr ysgol honno ei hun, neu oherwydd bod ysgolion eraill wedi symud i fyny neu i lawr y bandiau.
Yn 2012/13 a 2013/14, cafodd pob ysgol ym Mand 4 a Band 5 gymorth ariannol ychwanegol o £10,000 yr un.
Sut mae’n gweithio?
Mae’r Bandiau yn seiliedig ar ddata perfformiad pobl ifanc 15 i 16 mlwydd oed:
- Y trothwy lefel 2 gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg;
- Caiff cyfartaledd cyfanswm y pwyntiau a ddyrannwyd fesul disgybl ar gyfer TGAU neu gymhwyster cyfatebol, a phwyntiau ar gyfer cyfanswm y dysgu sy’n cyfateb i 8 TGAU eu cyfrif (y sgôr pwyntiau wedi’i chapio);
- Presenoldeb; a
- Sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer Saesneg/Cymraeg a Mathemateg.
Caiff sgôr ysgol ei haddasu i ystyried canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Nid yw’r fethodoleg hon wedi newid ers i ddata bandio ysgolion gael eu cyhoeddi gyntaf, ond caiff y mesurau eu hadolygu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi yn 2013.
Pryderon ynglŷn â bandio
O’r dechrau, mae llawer o undebau athrawon wedi mynegi pryderon, ac maent yn honni:
Ymateb Llywodraeth Cymru
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru:
- Wedi pwysleisio erioed nad ‘tablau cynghrair’ yw data bandio ysgolion, ac nad yw ychwaith yn fater o enwi a chywilyddio ysgolion, ond dywed bod y data yn sefydlu blaenoriaethau ar gyfer cynnig cymorth gwahaniaethol ac yn nodi arferion gorau;
- Yn dweud bod y model bandio yn fodel cymharol, sy’n cyfeirio at beth yw’r norm, yn ystyried cyd-destun ysgolion, ac yn herio ysgolion hyd yn oed pan fydd eu perfformiad craidd yn dda.
- Yn dweud bod oddeutu tri chwarter yr ysgolion (168) wedi aros yn yr un band neu wedi symud un band i fyny / i lawr rhwng 2011 a 2012; mae’n dweud hefyd bod modd egluro’r holl newidiadau yn sgîl newidiadau mewn perfformiad, a bod ysgolion sy’n newid o nifer o fandiau â newidiadau nodedig o ran eu perfformiad;
- Yn dweud bod arolygon Estyn yn annibynnol a’u bod yn cynnwys ystod o ystyriaethau llawer ehangach, ac mae’n rhesymol disgwyl y bydd bandio a chanlyniadau arolygon yn gyffredinol yn dangos tueddiadau tebyg, ond ni fyddant yn gydnaws â’i gilydd.
- Yn dweud bod cynnydd yn y dysgwyr sy’n cyrraedd trothwy Lefel 2, gan gynnwys pasio ar radd C, neu’n uwch, yn y pynciau Saesneg, Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg yn yr arholiadau TGAU o bum pwynt canran yn fras yn yr ysgolion Band 4 a Band 5 rhwng 2011 a 2012.
Fodd bynnag, yn yr un cyfnod, bu lleihad yn nifer y dysgwyr sy’n cyrraedd y trothwy Lefel 2 o dri phwynt canran yn fras yn yr ysgolion Band 1.
Ble y gellir gweld y data?
Gellir gweld y data ar gyfer 2013 (ochr yn ochr â data ar gyfer blynyddoedd cynharach) ar
wefan Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi
gwefan Fy Ysgol Leol sydd hefyd yn cynnwys data ar niferoedd a nodweddion disgyblion, perfformiad ysgolion, presenoldeb, staffio a chyllid. Hefyd caiff ysgolion eu meincnodi yn erbyn ysgolion sydd â niferoedd tebyg o blant sy’n cael prydau ysgol am ddim, a chânt eu cymharu ag ysgolion yn yr un ‘teuluoedd’.
O ran ysgolion cynradd, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw wedi cael data digon cadarn i’w defnyddio ar gyfer cyfrif bandiau. Felly ni fydd yn bandio ysgolion cynradd tan 2014, a bydd y dasg honno’n seiliedig
ar y profion darllen a llythrennedd newydd. Fodd bynnag, mae cyfres o ddata perfformiad ysgolion cynradd ar y wefan ‘Fy Ysgol Leol’.