Mae'r syniad o greu banc datblygu i roi cyllid i fusnesau wedi bod yn bwnc trafod ers tro. Gan y bydd banc o'r fath yn cael ei sefydlu yn y Pumed Cynulliad, beth fydd yn ei wneud ac a allai wneud busnesau Cymru yn fwy cystadleuol?
Mae’r modd y mae busnesau Cymru yn cael gafael ar gyllid wedi bod yn fater o bwys yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r trafodaethau ar y pwnc wedi canolbwyntio ar gyllid i fusnesau bach a chanolig, ac i ba raddau y gall y rhain gael gafael ar gyllid o ffynonellau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Roedd y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i greu banc datblygu. Pam y gallai fod angen banc datblygu ar Gymru? Er bod y marchnadoedd sy’n rhoi cyllid i fusnesau bach a chanolig yn gwella, mae rhai'n dadlau bod angen cynyddu'r cyllid sydd ar gael ledled y DU i gydbwyso twf economaidd. Mae'r ffaith mai cwmnïau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr sy'n cyfrif am 71 y cant o gyfanswm yr ecwiti a fuddsoddir mewn busnesau bach a chanolig yn brawf o hynny.
Beth yw'r trefniadau ar hyn o bryd ar gyfer rhoi cymorth i fusnesau yng Nghymru?
Cyllid Cymru sy'n rhoi’r rhan fwyaf o'r cymorth ariannol drwy'r sector cyhoeddus i ficrofusnesau hyd at rai canolig eu maint yng Nghymru. Mae Busnes Cymru wedyn yn helpu busnesau i gael gafael ar gyllid ac yn cynnig arweiniad a gwybodaeth gyffredinol.
Mae Chwarae Teg wedi galw am gymorth busnes penodol i fenywod, gan gynnwys cyllid, a hynny gan eu bod o’r farn bod gan fenywod anghenion neilltuol yn y maes hwn. Dywedir bod entrepreneuriaid benywaidd yn teimlo’n ansicr am eu gallu i gael gafael ar gyllid, a gall hynny eu rhwystro rhag sefydlu eu busnesau eu hunain. Ystyrir bod hynny'n un o'r prif resymau pam y mae busnesau bach a chanolig sy’n cael eu harwain gan fenywod yn llai tebygol o ddefnyddio cyllid allanol na'r busnesau y mae dynion yn eu harwain. Sut y gallai banc datblygu weithio? Mae llawer o benderfyniadau i'w gwneud o hyd ynglŷn â strwythur y banc a beth yn union y gallai ei gyflawni. Fodd bynnag, mae Llywodraeth flaenorol Cymru a Cyllid Cymru wedi edrych ar atebion posibl ac wedi dechrau datblygu cynllun busnes. Mae sawl model posibl y gellid ei fabwysiadu. Mae'r rhain yn cynnwys y 'model hybrid' a ffafriwyd gan y Llywodraeth flaenorol, lle byddai'r banc datblygu yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â methiannau yn y farchnad gyllid mewn sectorau pwysig.Beth yw banc datblygu a beth mae'n ei wneud?
Sefydliad sy'n eiddo i'r wladwriaeth yw banc datblygu cyhoeddus, yn gweithio mewn meysydd lle mae'r farchnad yn methu er mwyn ychwanegu at y cyllid y gall busnesau bach gael gafael arno o'r sector preifat. Mae'n datrys rhai o’r problemau y mae busnesau bach yn eu hwynebu wrth gael gafael ar gyllid, oherwydd gall fod yn fwy o risg i arianwyr yn y sector preifat roi’r cyllid hwn.
Gallai swyddogaethau newydd banc datblygu gynnwys:- darparu ystod ehangach o gynhyrchion a gwasanaethau dyled ac ariannu ecwiti i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cyllido;
- targedu sectorau a mathau arbennig o fusnesau sy'n cael trafferthion penodol wrth gael gafael ar gyllid, fel microfusnesau a busnesau newydd;
- bod yn fanc sy’n ei ariannu ei hun ac, o bosibl, yn peidio â dibynnu ar gyllid grant na chymorth gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r cronfeydd sydd ganddo;
- gweithio gyda'r byd academaidd i wella’r data am fusnesau ac i wella dealltwriaeth o'r sector; a
- sicrhau bod busnesau yn cael y cyfuniad cywir o gymorth ariannol ac anariannol gan ystyried argymhellion yr Adolygiad Parod i Fenthyca.
- BDRC Continental, SME Finance Monitor (Saesneg yn unig) (2011-15)
- British Bankers Association, SME Statistics: Banking support for UK small and medium-sized enterprises (Saesneg yn unig)
- British Business Bank, Small Business Finance Markets Report 2015-16 (Saesneg yn unig)
- Cyllid Cymru, Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2014-15 (Saesneg yn unig) (2015)
- Cyllid Cymru, Canllaw termau buddsoddi (gwefan)
- Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Banc Datblygu i Gymru, A feasibility study into the creation of a Development Bank for Wales (Saesneg yn unig) (2015)
- Jones-Evans, Yr Athro Dylan ar gyfer Llywodraeth Cymru, Adolygiadau o Fynediad at Gyllid (2013)
- Lloyd-Griffiths, Robert ar gyfer Llywodraeth Cymru, Lending Ready: Aligning Business Support and Finance Review (Saesneg yn unig) (2015)
- Y Pwyllgor Cyllid, Cyllid Cymru (2014)
- Y Ganolfan Ymchwil Newid Diwylliannol-Gymdeithasol (CRESC), What Wales Could Be (Saesneg yn unig) (2015)