Cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fanc Datblygu Cymru, dyma rywfaint o wybodaeth gefndir berthnasol a’r hyn sydd wedi digwydd ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.
Mae’r Pwyllgor wedi craffu ar berfformiad blynyddol y Banc Datblygu o’r blaen, fel y nodir yn ei adroddiadau blynyddol. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i’r Pwyllgor gynnal ymchwiliad manwl i’r sefydliad, sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Saith mlynedd ar ôl i Banc Datblygu gael ei sefydlu, mae’r ymchwiliad wedi edrych ar sut mae’n gweithredu.
O’r 13 argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor, derbyniodd Llywodraeth Cymru saith yn llawn a phump 'mewn egwyddor', gan wrthod un.
Cafwyd ymateb y Banc Datblygu mewn dwy ran (ym mis Medi a mis Hydref) yn nodi’r cynnydd a wnaed a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor.
O ddychwelyd at y cylch craffu blynyddol arferol, rhoddodd y Banc Datblygu dystiolaeth i’r Pwyllgor ar 20 Tachwedd.
Roedd y sesiwn yn ymdrin â pherfformiad y Banc Datblygu, fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf, a chynnydd y Banc wrth ymateb i rai o argymhellion y Pwyllgor.
Dyma rai o’r cyflawniadau lefel uchel yn 2023-24:
- Effaith cyfanswm o £175 miliwn ar economi Cymru, i lawr o £238 miliwn yn 2022-23.
- Buddsoddiad uniongyrchol o £125 miliwn i fusnesau Cymru (22.5% yn y gogledd, 44% yn y canolbarth a’r gorllewin, a 33.5% yn y de-ddwyrain). Mae hyn yn gynnydd bach iawn ar y buddsoddiad uniongyrchol o £124 miliwn a gyflawnwyd yn 2022-23.
- £50 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol gan fanciau a chyd-fuddsoddiadau eraill yn y sector preifat (i lawr o £114 miliwn yn 2022-23 a £64 miliwn yn 2021-22).
- Cyfanswm y buddsoddiadau ecwiti oedd £12.2 miliwn yn 2023-24. Mae hyn £10 miliwn yn is na'r flwyddyn flaenorol ac yn is na'r cyfartaledd blynyddol ar gyfer tymor presennol y llywodraeth, sef £15.5 miliwn.
- 491 o fuddsoddiadau wedi eu gwneud, i lawr ychydig o 516 yn 2022-23.
- 4,406 o swyddi wedi eu creu neu eu diogelu yng Nghymru, o gymharu a tharged o 3,779.
- Maint cytundeb cyfartalog yn £255,000, i fyny ychydig o £240,000 yn 2022-23.
Wrth edrych yn ôl ar berfformiad y Banc Datblygu yn 2023-24, dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Pwyllgor iddi fod yn flwyddyn weddol ac nad oedd yn credu iddi fod yn eithriadol.
Mewn perthynas ag Argymhelliad 12 o adroddiad y Pwyllgor, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cysylltu eto i gwmpasu’r adolygiad o’r Banc Datblygu sydd ar y gweill ar gyfer 2026.
Gallwch wylio’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor ar y Banc Datblygu yn fyw ar Senedd.tv ddydd Mercher 27 Tachwedd.
Pigion gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru