Ar 17 Mai 2023, dechreuodd Beyoncé gymal y DU o'i thaith yn perfformio rownd y byd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ble’r oedd y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu. Caewyd strydoedd y brifddinas ar gyfer paratoi i 60 o lorïau cynhyrchu a deunaw o fwsiau gyrraedd, a hedfannodd y seren ei hun i Gaerdydd, ac o’r ddinas, gydag awyren breifat yr un diwrnod.
Pan oedd Coldplay yn perfformio yn yr un stadiwm dair wythnos yn ddiweddarach, cyrhaeddodd Chris Martin, prif ganwr y grŵp, ar y trên. Ar ôl peidio â theithio ar gyfer canu yn 2019 nes y gellid mynd ar drywydd dulliau mwy cynaliadwy, roedd perfformiad Coldplay yng Nghaerdydd yn ddi-blastig, wedi'i bweru'n rhannol gan ynni adnewyddadwy, ac roedd yn cynnwys grwpiau cefnogi lleol er mwyn lleihau allyriadau.
Yna, pan fu Harry Styles yn perfformio yng Nghaerdydd yn ddiweddarach ym mis Mehefin, ar ôl y cyngerdd roedd y strydoedd fel pe bai "cyflafan bwâu pluog" wedi bod yn y ddinas. Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddai’r plu lliwgar a adawyd ar ôl yn cael eu casglu a’u "hanfon i gyfleuster gwastraff ynni i helpu i greu ynni gwyrdd".
Mae’r digwyddiadau diweddar hyn yng Nghaerdydd yn arwydd o broblem ehangach yn y diwydiannau creadigol. Mae'r sector yn un o'r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ond gallai'r twf hwn ddigwydd ar draul yr hinsawdd. Mae'r erthygl hon yn edrych ar effeithiau amgylcheddol y diwydiannau creadigol, a'r hyn sy'n cael ei wneud i weithio tuag at Weledigaeth sero net Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2050.
Sector twf uchel
Mae'r diwydiannau creadigol yn ffynnu, yn fyd-eang ac yn y DU. Yn ôl Creative Uk, yn 2019 roedd sector y diwydiannau creadigol yn cyfrannu:
- £115.9 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros (GVA) at economi'r DU, sy’n "fwy na’r sector awyrofod, y sector modurol, y sector gwyddorau bywyd a’r sector olew a nwy gyda'i gilydd";
- yn tyfu "bedair gwaith cyfradd economi'r DU gyfan"; ac yn
- creu swyddi "ar gyfartaledd deirgwaith cyfradd y DU, ac yn cyflogi dwy filiwn o bobl ar draws y DU".
Canfu ei adroddiad yn 2020 fod diwydiannau creadigol Cymru yn cynnwys 8,000 o fentrau, gydag oddeutu 500 o fentrau newydd yn ymuno â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hyn yn gwneud y diwydiannau creadigol yn un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. (Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, bod y diffiniad o ddiwydiannau creadigol a ddefnyddir yma yn cynnwys sectorau fel Technoleg Gwybodaeth, cyfrifiadura, dylunio a phensaernïaeth.)
Sector carbon uchel?
Daw'r twf hwn ar draul rhywbeth arall, fodd bynnag, gan y gall y diwydiannau creadigol feddu ar ôl troed carbon sylweddol. Gyda thwf bedair gwaith yn fwy na chyfradd economi'r DU gyfan cyn y pandemig, dylai cynaliadwyedd y diwydiannau creadigol fod yn ystyriaeth allweddol i lunwyr polisi a rhanddeiliaid.
Goblygiadau cludiant cynulleidfaoedd, artistiaid a setiau yw mai cerddoriaeth fyw yw un o'r sectorau mwyaf carbon-ddwys yn y diwydiannau creadigol. Canfu adroddiad diweddar ar y diwydiant cerddoriaeth dawns fod troellwyr disgiau (DJs) teithiol ar gyfartaledd yn allyrru 35 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn, sydd ddwywaith gymaint â’r gyllideb garbon bersonol a argymhellir. Roedd adroddiad amgylcheddol diweddaraf Cyngor y Celfyddydau yn Lloegr yn dweud bod Sefydliadau Portffolio Cenedlaethol Lloegr wedi teithio 17.6 miliwn cilomedr yn rhyngwladol rhwng 2021 a 2022, sy'n cyfateb yn fras i deithio rhwng Cymru a Chaliffornia 1,700 o weithiau.
Mae gwyliau, y mae tua 800 - 1000 ohonynt bob blwyddyn yn y DU, hefyd yn allyryddion mawr, ac mae’r ŵyl gyffredin yn cynhyrchu tua 500 tunnell o allyriadau carbon deuocsid (un dunnell o CO2 yn debyg i yrru 2,500 o filltiroedd). Cynhyrcha gwyliau yn y DU 28,500 tunnell o wastraff tirlenwi bob blwyddyn ac mae dros draean o bobl sy’n mynd i wyliau wedi cyfaddef eu bod wedi gadael pabell ar eu hôl ar ddiwedd y digwyddiad.
Ac er efallai y byddwn yn meddwl y gallai ffrydio cerddoriaeth leihau'r defnydd o ddeunyddiau ffisegol, daeth adroddiad yn 2019 i'r casgliad bod gwasanaethau ffrydio wedi arwain at "allyriadau carbon sylweddol uwch nag ar unrhyw amser blaenorol yn hanes cerddoriaeth".
Mae cynaliadwyedd yn broblem i'r sector sgrin hefyd. Yn 2021, roedd Ôl-troed carbon Netflix tua 1.5 miliwn tunnell o CO2. Daeth mwy na hanner yr allyriadau hynny yn sgil cynhyrchu deunydd. Yn ôl un adroddiad ar y diwydiant, mae ffilmiau ‘cyllideb fawr’ ar gyfartaledd yn cynhyrchu 2,840 tunnell o garbon deuocsid cyfwerth, sef swm fyddai'n cymryd coedwig 3,709 erw y flwyddyn i'w amsugno.
Yng Nghymru, mae'r sector sgrin yn ffynnu. Rhwng 2017 a 2021 tyfodd trosiant yn y sector 72 y cant i £575 miliwn (er ei bod yn debygol bod cynnydd mewn costau hefyd wedi cyd-ddigwydd â hyn). Yn ôl adroddiad Clwstwr mae 18 y cant o fentrau creadigol yng Nghymru yn y sector ffilm, teledu a radio, sy'n cyflogi dros 8,000 o bobl. Hefyd, mae Cymru wedi dod yn lleoliad ffilmio dymunol ac y mae galw mawr arni yn hyn o beth.
Beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn fwy cynaliadwy?
Yn wahanol i Gyngor y Celfyddydau yn Lloegr, nid yw Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol sy'n benodol ar yr amgylchedd. Yn hytrach, mae’r effaith amgylcheddol wedi'i chynnwys fel rhan o'i arolwg ehangach o gyllid sefydliadau Portffolio Celfyddydol Cymru (APW). Dangosodd ei adroddiad diweddaraf fod gan ychydig llai na thraean (29 y cant) o sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cymru System Monitro'r Amgylchedd. Mae gan 85 y cant o’r sefydliadau bolisi amgylcheddol.
Yn 2022, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru fod y Ganolfan Technoleg Amgen wedi’i phennu i greu Strategaeth newydd ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a'r Celfyddydau. Nod y strategaeth hon yw edrych ar sut mae'r celfyddydau'n cysylltu pobl â'r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd, ac ymchwilio pa gymorth sydd ei angen ar gyfer "artistiaid a sefydliadau celfyddydol er mwyn lleihau effaith amgylcheddol creu celf".
Bydd y strategaeth, a gynlluniwyd ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, yn darparu "map ffordd ar gyfer y celfyddydau" yng Nghymru i leihau allyriadau carbon, cadw natur a bioamrywiaeth, a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru o ran "sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a Chymru sero net erbyn 2050".
Arwain y ffordd: sgrin "werdd" Cymru
Mae arwyddion o newid i ddatgarboneiddio'r diwydiannau creadigol yn dod i'r amlwg. Mae'r asiantaeth datblygu ffilmiau, Ffilm Cymru, yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allanol i symud tuag at ddiwydiant sgrin mwy gwyrdd. Mae ei brif bolisi, sef Cymru Werdd, yn anelu at "gefnogi gweithwyr proffesiynol a chwmnïau yn y sector sgrin yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050". Rhan o hyn yw'r Gronfa Her Cymru Werdd, sef partneriaeth rhwng Ffilm Cymru a Clwstwr i ddyfarnu £75,000 i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu i ffyrdd cynaliadwy o weithio yn y diwydiant.
Mae’r consortiwm arloesi Media Cymru yn gweithio gyda Ffilm Cymru i ymestyn ei brosiect a’i nodau Cymru Werdd i droi Caerdydd a sector cyfryngau'r brifddinas-ranbarth o'i gwmpas yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau, gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Mae Ffilm Cymru hefyd yn rhan o’r rhaglen Rhanbarth Werdd, sy'n codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am offer, camau a pholisïau cynhyrchu ffilm cynaliadwy ar draws y sector ffilm Ewropeaidd.
Dyfodol diwydiant creadigol carbon isel yng Nghymru
Yn 2022 croesawodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, y "twf digynsail yn y sectorau creadigol dros y blynyddoedd diwethaf". "Bydd ein ffocws ar sgiliau", meddai, "yn parhau yn y flwyddyn newydd - er mwyn sicrhau y gallwn ateb y galw am sgiliau a thalent ar gyfer y sector cynyddol hwn."
Fel un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, rhaid ystyried effeithiau amgylcheddol y diwydiannau creadigol os yw Cymru am gyflawni sero net erbyn 2050.
Erthygl gan Nyle Bevan-Clark, intern PhD, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru