“Awdurdod dilyffethair”? Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/09/2022   |   Amser darllen munud

Er mwyn lleihau'r tarfu ar ei hymadawiad â'r UE, newidiodd y DU gyfraith yr UE i gyfraith ddomestig a'i galw'n gyfraith yr UE a ddargedwir. Roedd cyfraith yr UE a ddargedwir yn golygu bod cyfreithiau cyn Brexit yn parhau i fod ar waith er mwyn osgoi bylchau yn y gyfraith ar feysydd pwysig fel safonau cynhyrchion, lles anifeiliaid a chyfraith cyflogaeth. 

Bron tair blynedd yn ddiweddarach, mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn parhau i fod ar waith ac mae gwahaniaeth barn am yr hyn y dylai'r DU ei wneud am y sefyllfa.    

Dyma‘r hyn y mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yn ymwneud ag ef. Dyma gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer y 2,400 o ddarnau o gyfraith yr UE a ddargedwir yr amcangyfrifir eu bod yn parhau i fod mewn grym.  

Mae'r Bil yn cadarnhau mai cynllun Llywodraeth y DU yw dileu’r holl olion o gyfraith yr UE oddi ar y llyfr statud erbyn deng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhaliwyd y refferendwm ar Brexit fan bellaf (23 Mehefin 2026), gyda rhai eithriadau ar gyfer Gogledd Iwerddon.  

Yn ôl Llywodraeth y DU, ni fydd lle ar gyfer cysyniadau cyfraith yr UE yn ein llyfr statud mwyach 

Mae llawer, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn dadlau bod hyn yn peri risg i ddeddfwriaeth bwysig sy'n diogelu’r amgylchedd, safonau bwyd a hawliau gweithwyr. Dywed y Cwnsler Cyffredinol y gallai'r Bil roi awdurdod dilyffethair i Weinidogion y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig, ac arwain at safonau is.  

Mae'r erthygl hon yn rhoi cyflwyniad i'r Bil.  

Hanfodion cyfraith yr UE a ddargedwir 

Mae categorïau gwahanol o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n adlewyrchu ei tharddiad yng nghyfraith yr UE. Dyma’r tri phrif gategori: 

  1. Deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE, sef cyfraith ddomestig i roi effaith i gyfraith yr UE yn y DU; 
  2. Deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, sef cyfraith yr UE a oedd yn gymwys yn awtomatig yn y DU fel Aelod-wladwriaeth; 
  3. Cyfreithiau eraill yr UE a ddargedwir, sy'n cwmpasu holl hawliau a rhwymedigaethau eraill yr UE.  

Mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn cwmpasu llawer o feysydd datganoledig, fel yr amygylchedd, ac yn effeithio ar eraill, fel yr economi.  

Mae dangosfwrdd cyfraith yr UE a ddargedwir Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod 2,400 o ddarnau o gyfraith yr UE a ddargedwir mewn grym, gan gynnwys 570 ar yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig, 318 ar fusnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol, 137 ar iechyd a gofal cymdeithasol, 35 ar dechnoleg ddigidol, diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon ac 16 ar addysg.   

Dywed Llywodraeth y DU, na fwriadwyd erioed i gyfraith yr UE a ddargedwir fod ar y llyfr statud am gyfnod amhenodol. Cyn diwedd 2023, mae'n bwriadu adolygu cyfraith yr UE a ddargedwir gyda'r llywodraethau datganoledig i benderfynu beth i’w gadw, ei ddiwygio neu ei ddileu. 

Gwrthodwyd cais Llywodraeth Cymru i'r dangosfwrdd nodi pa ddeddfwriaeth a ddargedwir a’r hyn sy’n ddatganoledig, a sut y gellid effeithio ar ddeddfwriaeth Cymru. Yn ddiweddar, dywedodd wrth y Senedd nad yw’n bwriadu asesu cyfraith yr UE a ddargedwir i ganfod hyn, a’i bod yn dibynnu ar Lywodraeth y DU ar gyfer y penderfyniad hwn.    

Hanfodion y Bil 

Diben y Bil yw dileu mwyafrif gyfraith yr UE a ddargedwir erbyn diwedd 2023 oni bai y caiff ei 'harbed' gan Weinidogion hyd at 23 Mehefin 2026. Byddai'n gwneud y canlynol: 

  • machludo’r rhan fwyaf o gyfreithiau’r UE a ddargedwir fel eu bod yn dod i ben ddiwedd 2023, gan gynnwys dileu goruchafiaeth cyfraith yr UE, egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE, a hawliau'r UE sy'n uniongyrchol effeithiol; 
  • ailenwi cyfreithiau’r UE a ddargedwir sy'n weddill yn ‘gyfraith gymathedig’ a dileu ei statws arbennig; 
  • darparu mecanwaith estyn hyd at 23 Mehefin 2026 ar gyfer diwygiadau mwy cymhleth; 
  • rhoi pwerau i Weinidogion wrthdroi trefn goruchafiaeth mewn cyfraith, fel bod cyfraith ddomestig yn cael ei hadfer fel y ffurf uchaf ar gyfraith ar lyfr statud y DU; 
  • rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ddiwygio, diddymu a disodli cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith gymhathedig yn haws; 
  • darparu mwy o ddisgresiwn i lysoedd domestig ymadael â chyfraith achosion cyfraith yr UE a ddargedwir; 
  • diddymu'r Targed Effaith Busnes fel rhan o ddiwygiadau rheoleiddiol eraill. 

Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn weithredu  mewn meysydd datganoledig

Byddai'r Bil yn galluogi Gweinidogion y DU neu Gweinidogion Cymru i weithredu ar eu pen eu hunain, neu ar y cyd, er mwyn:

  • i wneud rheoliadau sy’n dynodi pa offerynnau cyfraith yr UE a ddargedwir mewn meysydd datganoledig a gaiff eu diogelu (h.y. offerynnau nad ydynt yn destun cymal machlud 31 Rhagfyr 2023, na machlud estynedig). Byddai rheoliadau o’r fath yn destun y weithdrefn negyddol yn y Senedd, pan mae gan y Senedd gyfnod o 40 niwrnod i wrthwynebu a dirymu.
  • ailddatgan isgyfraith a hawliau eraill yr UE a ddargedwir* erbyn diwedd 2023, ac isgyfraith gymathedig cyn 23 Mehefin 2026;
  • dirymu isgyfraith yr UE a ddargedwir heb ei disodli erbyn diwedd 2023, ac isgyfraith gymathedig cyn 23 Mehefin 2026;
  • disodli isgyfraith yr UE a ddargedwir â'r un amcanion erbyn diwedd 2023, ac isgyfraith gymathedig cyn 23 Mehefin 2026
  • disodli isgyfraith yr UE a ddargedwir â threfniadau eraill erbyn diwedd 2023, ac isgyfraith gymathedig cyn 23 Mehefin 2026;
  • addasu isgyfraith yr UE a ddargedwir i ystyried newidiadau neu ddatblygiadau technolegol mewn dealltwriaeth wyddonol; a
  • datrys materion cydnawsedd rhwng deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a chyfraith ddomestig erbyn diwedd 2023, ac isgyfraith gymathedig cyn 23 Mehefin 2026.

 

*Mae'r Bil yn diffinio isgyfraith yr UE a ddargedwir fel unrhyw gyfraith a ddargedwir gan yr UE nad yw'n ddeddfwriaeth sylfaenol ac unrhyw gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ddeddfwriaeth sylfaenol y mewnosodwyd ei thestun drwy is-ddeddfwriaeth. Fel y nodwyd gan Bwyllgor Craffu ar Faterion Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin, nid yw cyfraith yr UE a ddargedwir yn cyd-fynd yn fanwl â chategorïau o ‘ddeddfwriaeth sylfaenol' ac 'is-ddeddfwriaeth'. 

Mae gan Weinidogion y DU yr un pŵer i wneud rheoliadau ar eu pen eu hunain, gan gynnwys mewn perthynas â chyfraith yr UE a ddargedwir. Mae hyn yn olygu gall Gweinidogion y DU ailddatgan isgyfraith a hawliau eraill yr UE a ddargedwir, ac isgyfraith gymathedig, ac hefyd ddirymu, ddisodli neu addasu gyfraith yr UE a ddargedwir fel y disgrifir uchod. Byddai defnydd o’r pŵer hwnnw gan Weinidogion y DU yn destun y weithdrefn negyddol yn Senedd y DU.

Y prawf ar gyfer defnyddio llawer o'r pwerau hyn yw a yw Gweinidog o'r farn ei bod yn briodol.  

Pan yn ddirymu neu yn ddisodli isgyfraith yr UE a ddargedwir, ni chaiff Gweinidogion gynyddu baich rheoleiddio, gan gynnwys costau ariannol, rhwystrau masnach neu anghyfleustra gweinyddol. Cwestiwn allweddol fydd a yw hyn yn cyflwyno uchafswm rheoleiddiol i Lywodraeth Cymru, sydd eisiau gwella safonau cyn Brexit, pan fo'n bosibl.

Yr ymateb hyd yn hyn 

Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU gan ddweud y byddai'r Bil yn awdurdodi Gweinidogion y DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig ac yn lleihau safonau mewn meysydd pwysig. Mae'n nodi nad oedd gan Lywodraeth Cymru lawer o gysylltiad â'r Bil ac mae'n galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i gadw a pharchu statws cyfansoddiadol a setliad datganoli Cymru.  

Pan ofynnwyd am y ddeddfwriaeth arfaethedig ym mis Chwefror 2022, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y canlynol wrth y Senedd: 

What the UK Government can't do is have a bonfire of regulations in Wales, Scotland and Northern Ireland. 

Cwestiwn allweddol i Aelodau o’r Senedd yw i ba raddau y mae'r Bil yn gwneud hynny'n bosibl.   

Y camau nesaf 

Mae Llywodraeth y DU o’r farn bod dileu’r holl olion o gyfraith yr UE yn rhan bwysig o Brexit, yn unol â statws y DU fel cenedl fasnachu annibynnol, sofran.  

Byddai'r Bil yn galluogi Gweinidogion, ac nid seneddau, i newid tirwedd reoleiddio a chyfreithiol y DU yn sylweddol. Bydd y Senedd yn edrych yn fanwl ar y Bil yn fuan wrth benderfynu a ddylid rhoi neu wrthod rhoi cydsyniad. 


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru