Cynghorau tref a chymuned (lle maent yn bodoli) yw'r haen o lywodraeth agosaf at y bobl. Maent yn amrywio’n sylweddol o ran maint a chyllideb, ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt £50,000 neu lai i'w wario'n flynyddol. Maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol, er enghraifft, digwyddiadau cymunedol, cynnal a chadw parciau a rhedeg llyfrgelloedd lleol, caffis a chanolfannau cymunedol ymhlith pethau eraill. Nododd Archwilio Cymru mewn adroddiad diweddar fod y sector cyfan wedi codi dros £245 miliwn rhwng 2019-20 a 2022-23, drwy’r praesept yn bennaf (tâl a godir ar dalwyr y dreth gyngor), drwy godi tâl am wasanaethau penodol a thrwy hawlio grantiau.
Fodd bynnag, clywodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd fod tua 30% o gynghorau tref a chymuned yn cyflwyno cyfrifon blynyddol sy'n cynnwys “gwallau rhifyddeg” sylfaenol. Mae llawer mwy o gynghorau’n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau statudol oherwydd eu bod yn gwneud gwallau gweithdrefnol eithaf sylfaenol.
Mae’r Pwyllgor a grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ar iechyd democrataidd cynghorau cymuned wedi gwneud argymhellion yn ddiweddar i fynd i'r afael â llawer o'r heriau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol. Bellach, mae’n fater i Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r sector llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol eraill, i roi rhai o'r argymhellion hyn ar waith. Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 21 Mai 2025.
A yw'r drefn archwilio yn “rhy anhyblyg”?
Mae llywodraethu da yn rhan hanfodol o reoli unrhyw sefydliad yn effeithiol. Fodd bynnag, o ran sefydliadau democrataidd, mae gofyniad cyfreithiol arnynt i ddiogelu arian cyhoeddus ac i gyfrif amdano a'i ddefnyddio’n briodol. Yn y pen draw, y nod yw meithrin ymddiriedaeth ac atebolrwydd ymhlith y bobl maent yn eu cynrychioli.
Yn ôl y dystiolaeth a welodd y Pwyllgor, yn ystod 2022-23, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru farn amodol ar gyfer tua hanner yr holl gynghorau cymuned oherwydd iddynt fethu â chydymffurfio â’u cyfrifoldebau statudol. Hynny yw, gwnaeth y cynghorau cymuned hyn naill ai fethu â darparu'r wybodaeth ofynnol ar gyfer archwiliad, neu roedd y wybodaeth a ddarparwyd ganddynt yn anghywir. Mae'n ymddangos bod hon yn broblem i'r sector cyfan ac nid yw wedi’i chyfyngu i gynghorau cymuned llai neu rai sydd â llai o adnoddau yn unig.
Mewn gwirionedd, mae dadansoddiad Archwilio Cymru yn dangos bod cynghorau sydd â chyllidebau rhwng £100,000 a £200,000 yn llawer mwy tebygol o gael barn amodol yn dilyn archwiliad llawn (79%) o gymharu â chynghorau sydd â chyllidebau o £20,000 neu lai (60/62%).
Barn archwilio amodol yn dilyn archwiliadau llawn 2022-23
Ffynhonnell: Dadansoddiad Archwilio Cymru o ganlyniadau archwilio 2022-23. Mae pob cyngor yn cael archwiliad gweithdrefnau cyfyngedig mewn dwy o'r tair blynedd ac archwiliad manylach yn ystod y drydedd flwyddyn (archwiliad llawn).
Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn awgrymu consensws eang bod y drefn archwilio bresennol yn “rhy anhyblyg" ar gyfer y sector. Dywedodd Un Llais Cymru, sef y corff cenedlaethol sy’n cynrychioli’r sector, fod y gyfundrefn archwilio yn anghymesur, ar gyfer cynghorau llai yn benodol, o ystyried yr elfen o risg ariannol sydd o dan sylw mewn gwirionedd.
Cydnabu Archwilydd Cyffredinol Cymru fod achos dros edrych eto ar y system. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r sector ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, fynd ati i “gyd-gynhyrchu system archwilio bwrpasol newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru”. Roedd Llywodraeth Cymru yn agored i'r argymhelliad, gan nodi y byddai'n gweithio gyda phartneriaid i “ystyried sut y gallai system ddiwygiedig edrych”.
Galw am i aelodau etholedig gael hyfforddiant gorfodol o ran y Cod Ymddygiad
Elfen allweddol arall o ymchwiliad y Pwyllgor oedd ymddygiad cynghorwyr. Clywodd y Pwyllgor nad yw hyn, ar adegau, yn cyd-fynd â’r disgwyliadau ar gyfer y rhai sy’n cyflawni swyddi cyhoeddus. O ran cynghorwyr cymuned yng Nghymru (p’un a ydynt wedi cael eu hethol neu eu cyfethol i gyngor), mae’n ofynnol iddynt ymrwymo i’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol pan fyddant yn derbyn y swydd. Set o egwyddorion a rhwymedigaethau yw’r Cod i arwain aelodau i gynnal safonau ymddygiad priodol wrth wasanaethu eu cymunedau.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion am ymddygiad cynghorwyr cymuned. Pwysleisiodd yr Ombwdsmon yn ei thystiolaeth fod nifer y cwynion, yng nghyd-destun cyffredinol y sector, yn isel. Fodd bynnag, dywedodd wrth y Pwyllgor fod cwynion am gynghorwyr cymuned wedi cynyddu 42% dros y pum mlynedd diwethaf. Cwynion am gydraddoldeb a pharch yw cyfran sylweddol o lwyth gwaith yr Ombwdsmon.
Er gwaetha’r gofynion i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad, nid oes rhwymedigaeth ar gynghorwyr cymuned ar hyn o bryd i gael hyfforddiant ar hyn, a hynny er bod hyfforddiant ar gael yn rhwydd drwy Un Llais Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu bwrsarïau i gefnogi’r gwaith o’i gyflwyno. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sylweddol “o blaid cyflwyno hyfforddiant gorfodol… ar y cod ymddygiad”, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr opsiynau. Cytunodd Llywodraeth Cymru “gwerth mewn gweithredu pellach” yn hyn o beth.
Wrth gwrs, os eir ati i sicrhau bod clercod cynghorau lleol gyda’r teclynnau a’r cymorth cywir i ymdrin ag anghydfodau yn lleol, gallai hynny atal problemau rhag gwaethygu yn y lle cyntaf. Mae'r Pwyllgor eisiau gweld awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol fel y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yn ei gwneud hi’n haws cael cymorth o'r fath. Ac er bod y Pwyllgor yn cydnabod y pwysau ar adnoddau awdurdodau lleol, roedd yn credu:
ei bod yn werth archwilio mecanweithiau i alluogi’r sector cynghorau tref a chymuned i gael cymorth gan swyddogion monitro a gwasanaethau AD prif awdurdodau.
Roedd Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r canfyddiad hwn, ond dywedodd mai mater i’r sector llywodraeth leol oedd hwyluso hyn, yn ymarferol, drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yr angen i wella seilwaith TG yn y sector
Mewn sector lle y mae gan tua 70% o gynghorau gyllidebau o £50,000 neu lai, nid oedd yn syndod clywed nad oes gan rai ohonynt y capasiti 'digidol' gofynnol. Ond canfu'r Pwyllgor fod y diffyg capasiti i fanteisio ar dechnoleg ddigidol gyda’r lleiaf o bryderon y sector, a bod llawer o gynghorau nad oes ganddynt y darpariaethau TG mwyaf sylfaenol, fel cyfeiriad e-bost corfforaethol ar gyfer eu clerc. Nododd y Pwyllgor fod defnyddio cyfeiriadau e-bost personol ar gyfer busnes swyddogol y cyngor wedi codi “pryderon difrifol“ ynghylch cydymffurfio â deddfwriaeth data a llwybrau archwilio pan fydd staff yn gadael.
Clywodd y Pwyllgor hefyd fod seilwaith TG yn rhwystro cynghorau lleol rhag cynnal cyfarfodydd hybrid. Gyda chyfran sylweddol o gyfarfodydd cynghorau cymuned yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol bach gwledig yn aml, mae diffyg seilwaith a chaledwedd hybrid sylfaenol yn broblem sylweddol.
Yn ystod ymchwiliad blaenorol ar Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol, cydnabu'r Pwyllgor yr heriau y mae rhai cynghorau cymuned a thref yn eu hwynebu, gan gynnwys y “pwysau ariannol o uwchraddio cyfleusterau”. Dywedodd ar y pryd y gallai hyn fod yn “feichus i’r rhai sy’n derbyn praeseptau is”. Gallai’r diffyg seilwaith hybrid hefyd effeithio ar amrywiaeth yr ymgeiswyr, gyda'r Pwyllgor yn nodi:
Mae’r gallu i gymryd rhan o bell mewn cyfarfodydd yn arf sylweddol o ran denu ystod ehangach o ymgeiswyr i sefyll etholiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi darparu cyllid o hyd at £300,000 i'r sector i gefnogi cynnydd o ran ei chynllun gweithredu iechyd digidol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gyfleoedd i rannu cymorth TG rhwng awdurdodau lleol a chynghorau cymuned. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth yr oedd y Pwyllgor yn awyddus i'w weld, gan nodi y dylai fod “disgwyliad bod awdurdodau lleol yn darparu cymorth TG” i gynghorau lleol drwy gytundebau lefel gwasanaeth.
Beth yw’r camau nesaf i gynghorau tref a chymuned?
Mae nifer fawr o heriau y mae angen i gynghorau tref a chymuned fynd i’r afael â nhw, ac mae'r sector yn ymwybodol iawn o'r rhain. Mae llawer ohonynt yn ymarferol eu natur, a chyda digon o adnoddau a chefnogaeth gellid ymdrin â nhw'n gymharol gyflym.
Fodd bynnag, mae heriau eraill sydd wedi ymwreiddio’n ddyfnach, sy’n gofyn am ymyrraeth a chyllid tymor hir, fel proffesiynoli rôl y clerc a gwella ymddygiad aelodau a staff. Gyda chyfran sylweddol o glercod yn gweithio ychydig o oriau yr wythnos yn unig, bydd sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r cymwysterau cywir i ymdopi â'r heriau sydd o'n blaenau yn faes allweddol i bob partner fynd i'r afael ag ef.
Gallwch wylio’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn fyw ar Senedd TV ddydd Mercher 21 Mai, neu ddarllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.
Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru