Atal hunanladdiad – busnes i bawb a chyfle i bawb

Cyhoeddwyd 14/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 20 Chwefror 2018, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei ymchwiliad i atal hunanladdiad.

Mae hunanladdiad yn un o brif achosion marwolaethau ymhlith pobl dan 35 oed, a hunanladdiad yw prif achos marwolaeth dynion dan 50 oed. Er bod yna grwpiau o bobl sy'n cael eu dynodi fel grwpiau risg uwch, gall y broblem hon effeithio ar unrhyw un. Mae pob marwolaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn cael effaith sylweddol ar fywydau cylch ehangach o bobl. Er gwaethaf hyn, clywodd y Pwyllgor mai prin y sonnid am y mater hwn. Mae'r stigma sy'n parhau i fod yn gysylltiedig â hunanladdiad yn golygu bod llawer o bobl sy'n hel meddyliau am hunanladdiad yn amharod i ofyn am gymorth. Yn ogystal, pan fyddant yn gofyn am gymorth, mae eu profiadau yn aml yn negyddol.

Prif neges yr adroddiad yw bod hunanladdiad yn fusnes i bawb. Bydd codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn annog pobl i geisio cymorth ac yn ysgogi ymateb mwy tosturiol i bobl mewn trallod.

“This is everyone's business. We can't leave it to people in white coats and people whose vehicles have blue lights. Your child may only have one chance to speak to somebody and that may be you.' We need to translate that message right across the country”.

(Ged Flynn, Prif Weithredwr, Papyrus)

Mae'r Pwyllgor yn cytuno bod atal hunanladdiad yn gyfle i bawb. Mae adroddiad y Pwyllgor yn argymell bod adnoddau hyfforddi sydd ar gael eisoes – adnoddau sy'n ceisio rhoi hyder i bobl ymyrryd pan fyddant yn pryderu y gallai rhywun fod mewn perygl o hunanladdiad – yn cael eu cyflwyno'n fwy eang. Mae'r enghreifftiau a amlygwyd yn cynnwys Small Talk Saves Lives, sef ymgyrch Network Rail, mewn partneriaeth â'r Samariaid, Heddlu Trafnidiaeth Prydain a'r diwydiant rheilffyrdd ehangach, a See.Say.Signpost, sef adnodd hyfforddi ar-lein 20 munud rhad-ac-am-ddim a gynhyrchwyd gan y Zero Suicide Alliance.

Clywodd y Pwyllgor hefyd y byddai sicrhau gwell hyfforddiant ar iechyd meddwl ac atal hunanladdiad yn galluogi'r rhai sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen i ymateb yn sensitif ac effeithiol wrth ymdrin â pherson mewn trallod emosiynol. Awgrymodd rhanddeiliaid y dylai hyfforddiant ar atal hunanladdiad gael yr un ffocws â chymorth cyntaf neu CPR, gan dynnu sylw at y ffaith bod meddygon teulu, er enghraifft, yn llawer mwy tebygol o ddod i gysylltiad â phobl sy’n teimlo’n hunanladdol nag â phobl y mae arnynt angen CPR.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn galwad y Pwyllgor am fframwaith cymwyseddau hyfforddiant i'w weithredu yng Nghymru, yn debyg i'r hyn a ddatblygwyd ar gyfer Lloegr. Bydd gwefan newydd Cymru gyfan ar gyfer hunanladdiad, sef cymraeg.talktometoo.wales, a lansiwyd ar ddiwedd mis Ionawr, yn dwyn ynghyd adnoddau gwybodaeth, cymorth a hyfforddiant ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes atal hunanladdiad.

Mynediad at wasanaethau

Mae'n debygol y bydd unrhyw gynnydd mewn ceisiadau am gymorth yn arwain at fwy o alw am wasanaethau iechyd meddwl. Mae gallu unigolion ledled Cymru i gael mynediad at y cymorth y mae ei angen arnynt eisoes yn destun pryder. Dywedodd rhanddeiliaid fod trothwyon uchel ar gyfer cael mynediad at wasanaethau, yn ogystal ag amseroedd aros hir, gan nodi bod iechyd meddwl unigolion yn gallu dirywio'n sylweddol wrth iddynt aros am apwyntiad. Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet:

“I wouldn't tell anyone in this committee, or outside it, that where we are is acceptable. For all the progress we've made, over a period of time, there's still much more to do. So, no, some of the waiting times are not acceptable. We are investing more, and we'll need to see if that investment deliver results that mean that people don't wait an excessive length of time for that support, whether it's going to be urgent at the crisis end, or at the more standard end, because all of those things matter to avoid problems escalating”.

Un thema a gafodd ei hailadrodd drwy gydol yr ymchwiliad oedd y ffaith nad yw iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethu. Ail neges bwysig y Pwyllgor, sy'n neges ehangach, yw bod angen mwy o gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt hwn yn ei ymateb (PDF, 578kb) i adroddiad y Pwyllgor, ac yn datgan y bydd ei gynllun cyflenwi iechyd meddwl newydd ar gyfer 2019-22 (y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori yn y gwanwyn) 'yn cynnwys thema barhaol ar gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl'.

Cymorth i bobl yn dilyn achos o hunanladdiad

Clywodd y Pwyllgor gan bobl â phrofiad byw o hunanladdiad, ac am yr effaith ddinistriol y mae'n ei chael ar deuluoedd, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Mae’n hysbys hefyd bod pobl sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd hunanladdiad mewn perygl uwch o gyflawni hunanladdiad eu hunain.

Mae grwpiau cymorth, fel y rhai sy'n cael eu cynnal gan Survivors of Bereavement by Suicide (SoBS) a Sefydliad Jacob Abraham yng Nghaerdydd, yn gallu cynnig achubiaeth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â hunanladdiad rhywun sy'n annwyl iddynt. Fodd bynnag, mae mynediad cyfyngedig i grwpiau o'r fath (sy'n dibynnu ar eu hymdrechion eu hunain i godi arian) yng Nghymru.

Un o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg drwy gydol yr ymchwiliad oedd yr angen i fabwysiadu dull gweithredu gwell a mwy cyson ym maes ôl-ymyrraeth. Ystyr ôl-ymyrraeth yw'r camau a gymerir i gefnogi pobl sydd wedi profi profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i hunanladdiad, fel teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chyfoedion.

Dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru, fel un o'i blaenoriaethau pennaf, ddatblygu a gweithredu strategaeth ôl-ymyrraeth Cymru gyfan ar gyfer hunanladdiad, yn unol â'r alwad a wnaed yn 2018 yn yr adolygiad canol cyfnod o strategaeth atal hunanladdiad Llywodraeth Cymru, sef Siarad â fi 2. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn adolygu'r llwybr ôl-ymyrraeth sydd ar waith yn Lloegr fel mater o frys, a bydd yn gweithio gyda'r Grŵp Cynghori Cenedlaethol i'w addasu ar gyfer Cymru.

Pobl ifanc

Mynegodd y Pwyllgor bryder am y cynnydd a welir mewn problemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc, a galwodd ar leoliadau addysgol i chwarae rôl fwy o ran datblygu gwydnwch emosiynol plant a phobl ifanc ac o ran darparu cymorth iechyd meddwl iddynt.

Roedd y Pwyllgor yn llwyr gymeradwyo'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad Cadernid Meddwl, sy'n ymdrin ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc (Ebrill 2018). Mewn perthynas â hunanladdiad yn benodol, roedd yr adroddiad hwnnw'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol i:

  • ddarparu canllawiau i ysgolion ynghylch siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio, i chwalu’r syniad y bydd unrhyw drafodaeth yn arwain at ymateb 'heintus' (dylid blaenoriaethu ysgolion lle bu hunanladdiad neu amheuaeth o hunanladdiad);
  • sicrhau bod hyfforddiant iechyd meddwl sylfaenol, gan gynnwys sut i siarad am hunanladdiad, yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus.

Dynion

Mae dynion yn parhau i fod deirgwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad na menywod. Dynodir dynion canol oed yn grŵp sy'n arbennig o agored i niwed. Mae strategaeth atal hunanladdiad Llywodraeth Cymru, sef Siarad â fi 2, yn dweud:

"Dynion rhwng 30 a 49 oed yw’r grŵp â’r gyfradd hunanladdiad uchaf bellach ac ymddengys fod hyn yn broblem gynyddol i ddynion yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus yng Nghymru.

Efallai fod yr hinsawdd economaidd gyfredol yn cynyddu’r ffactorau risg i’r grŵp yma gan wneud dynion canol oed yn bobl sy’n flaenoriaeth ar gyfer canolbwyntio ymdrechion atal."

Mae'n bosibl nad yw llawer o ddynion yn chwilio am gymorth mewn ffyrdd traddodiadol, nac yn bodloni'r meini prawf triniaeth safonol, ac mae angen datblygu dulliau newydd o weithredu. Clywodd y Pwyllgor am fentrau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, gan gynnwys rhaglenni yn y sector cymunedol a'r sector gwirfoddol (er enghraifft Men's Sheds), am bencampwyr iechyd meddwl yn y byd chwaraeon neu'r byd teledu, ac am y broses o ddarparu gwybodaeth neu gymorth mewn lleoliadau nad ydynt yn lleoliadau iechyd meddwl ond sy'n cael eu mynychu'n aml gan ddynion (gan gynnwys dynion a allai fod yn agored i niwed), gan gynnwys, er enghraifft, canolfannau gwaith, canolfannau Cyngor ar Bopeth, a digwyddiadau chwaraeon (er enghraifft, It Takes Balls to Talk).

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hunanladdiad ymhlith dynion fel blaenoriaeth genedlaethol. Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid dyrannu cyllid er mwyn adnabod a gweithredu ffyrdd arloesol o annog dynion i geisio cymorth, ac er mwyn cyflwyno mentrau llwyddiannus sy'n bodoli eisoes ar raddfa ehangach.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. Mae ymateb y Llywodraeth hefyd yn tynnu sylw at ymgyrch Amser i Newid Cymru, sef Mae Siarad Yn Holl Bwysig (a gaiff ei lansio ar 21 Chwefror 2019). Bwriad yr ymgyrch hon yw mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl dynion.

Y dyfodol

Cydnabyddir bod angen dull cydgysylltiedig, amlasiantaethol wrth geisio atal hunanladdiad, ac mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud cyfanswm o 31 o argymhellion mewn amrediad eang o feysydd. (Yn ogystal â'r materion a drafodir uchod, mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, rhannu gwybodaeth am gleifion sy'n peri risg, gofal mewn argyfwng, lleihau mynediad at bethau y gellir eu defnyddio i gyflawni hunanladdiad, ac adrodd yn gyfrifol am hunanladdiad.)

Cafodd holl argymhellion y Pwyllgor eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, er bod rhai ohonynt ond wedi'u derbyn 'mewn egwyddor'.

Wrth annerch cynhadledd genedlaethol Siarad â Fi 2 yng Nghaerdydd ar 31 Ionawr 2019, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd y byddai cyllid ychwanegol o £0.5 miliwn yn cael ei ddarparu bob blwyddyn i gefnogi ymdrechion i atal hunanladdiad yng Nghymru.

Yn ei adroddiad, mae'r Pwyllgor yn ei gwneud yn glir ei fod yn bwriadu cadw golwg fanwl ar y cynnydd a wneir yn y meysydd gweithredu y mae wedi'u nodi. Mae llawer iawn o waith i'w wneud, yn ôl y Pwyllgor, ond mae camau y gellid eu cymryd ar unwaith i gefnogi pobl yn y broses o geisio'r cymorth sydd ei angen arnynt, ac i annog pob un ohonom i estyn allan pan fyddwn yn ymwybodol bod rhywun mewn trallod.

Cymorth a chefnogaeth

Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi, angen siarad â rhywun neu’n teimlo fel lladd eich hun, gallwch gysylltu â’r Samariaid.

  • Rhadffôn 24 awr y dydd o unrhyw ffôn ar 116 123.
  • Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm, 7 diwrnod yr wythnos)
  • E-bost: jo@samaritans.org
  • Gwefan: Samariaid Cymru

Erthygl gan Philippa Watkins, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru