Sut y gall cymunedau yng Nghymru sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau lleol yn parhau i fod ar gael i bobl leol?
Mae rhai cymunedau wedi ateb y cwestiwn hwn drwy gymryd rheolaeth dros yr asedau hynny eu hunain. Gallai hynny olygu prynu’r ased, ei rentu ar brydles neu ei reoli. Weithiau mae'n golygu creu ased o’r newydd.
Pa heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n cymryd rheolaeth dros ased cymunedol, a pha gymorth sydd ar gael i gymunedau sydd am fwrw ymlaen â phrosiect o’r fath? Dyma oedd rhai o’r cwestiynau a gafodd eu hystyried gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn haf 2022 fel rhan o’i ymchwiliad i asedau cymunedol.
Beth yw ased cymunedol?
Parc chwarae, canolfan hamdden, canolfan gymuned, rhandiroedd, toiledau cyhoeddus – mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o asedau a welwn mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau wedi mapio dros 400 o asedau ar hyd a lled Cymru y mae'r gymuned yn berchen arnynt neu'n eu rhedeg. Mae hyn yn dangos yr amrywiaeth eang o asedau sydd o dan reolaeth gymunedol. Er enghraifft, mae sinema ym Merthyr, coetir yn Abertawe a phwll nofio yn Wrecsam.
Ond mae mwy iddi na dim ond tir ac adeiladau. Yr ased mwyaf sydd gan unrhyw gymuned yw ei phobl - pobl leol sydd â’r sgiliau, yr ymrwymiad a’r wybodaeth am eu cymunedau eu hunain sy’n fodlon rhoi o’u hamser, yn wirfoddol yn aml, i helpu i redeg ased cymunedol.
Cymryd rheolaeth
Gall asedau ddod o dan reolaeth gymunedol mewn ffyrdd gwahanol. Weithiau, bydd corff cyhoeddus, awdurdod lleol fel arfer, yn dechrau’r broses o drosglwyddo ased i’r gymuned. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i helpu cyrff cyhoeddus sydd am gymryd rheolaeth dros asedau cyhoeddus , ac mae gan rai cyrff cyhoeddus eu polisi trosglwyddo asedau eu hunain a swyddogion penodedig i hwyluso’r broses.
Gall fod yn brofiad brawychus i gymuned gymryd cyfrifoldeb dros ased, yn enwedig un sy’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd. Gall yr angen i gorff cyhoeddus dorri costau ddylanwadu ar y broses drosglwyddo, a gallai unrhyw wasanaeth a gaiff ei ddarparu wneud colled.
Ond gall y penderfyniad i drosglwyddo ased weithio. Mae Ystadau Cymru wedi cyhoeddi astudiaethau achos sy’n dangos y gall trosglwyddo asedau lwyddo os yw cyrff cyhoeddus a chymunedau yn ddigon ymrwymedig.
Mae heriau penodol ynghlwm wrth ddod ag asedau’r sector preifat o dan reolaeth gymunedol. Gall cystadlu ar y farchnad agored i brynu tir neu adeiladau fod yn ormod i gymunedau ag adnoddau ariannol cyfyngedig sy’n cystadlu yn erbyn prynwyr sydd â phocedi dwfn.
Mae risgiau a rhwymedigaethau’n wynebu’r rhai sy’n cymryd cyfrifoldeb dros ased. Bydd y grŵp cymunedol yn gyfrifol am drwsio unrhyw do sy'n gollwng, am ddelio â materion staffio ac am dalu biliau ynni sydd wedi codi gymaint. Efallai y bydd rhai grwpiau’n gallu troi at bobl yn eu cymuned eu hunain sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol, bydd angen cymorth a chanllawiau ar eraill i sicrhau bod eu prosiect yn llwyddo.
Yr heriau
Wrth i brosiect fynd rhagddo, o’r dechrau un nes bydd yn ases cymunedol sefydledig, bydd heriau gwahanol yn codi.
I ddechrau, efallai na fydd grŵp cymunedol hyd yn oed yn bodoli'n gyfreithiol i reoli’r ased. Bydd angen iddynt ystyried a oes angen iddynt fod yn gorff cyfansoddiadol ffurfiol, er enghraifft drwy sefydlu ymddiriedolaeth neu elusen i fwrw ymlaen â’r prosiect. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt wneud hynny cyn cael cyllid, neu cyn y gellir trosglwyddo ased o’r sector cyhoeddus.
Mae sicrhau cyllid i sefydlu ased cymunedol ac i sicrhau y gall barhau yn y tymor hir yn rhan o bob prosiect. Gall grantiau neu fenthyciadau helpu, er enghraifft gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, y Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol neu Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Gan ddibynnu ar yr ased, efallai y bydd cyfle i ddatblygu ffrwd incwm, fel llogi ystafelloedd, agor caffi neu godi tâl mynediad. Mae Sefydliad Bevan wedi tynnu sylw at y cyfleoedd y mae perchnogaeth gymunedol yn eu cynnig i greu cyfoeth cymunedol, er enghraifft, drwy greu gwaith yn lleol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol.
Mae gan gymunedau mewn rhannau eraill o'r DU hawliau nad ydynt yn bod yng Nghymru. Er enghraifft, yn yr Alban mae’r Community Right to Buy ac, yn Lloegr, mae'r Community Right to Bid.
Cyhoeddwyd dau adroddiad y 2022 a oedd yn ystyried y posibilrwydd o ddiwygio’r gyfraith, yn ogystal â rhai o’r heriau eraill sy’n wynebu perchnogaeth gymunedol yng Nghymru. Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, mae’n ymddangos bod cymunedau Cymru “ymhlith y rhai sydd wedi’u grymuso leiaf o holl ynysoedd Prydain” ac, ym marn Cwmpas, byddai trosglwyddo tir ac asedau i berchnogaeth gymunedol yn arwain at ragor o dai cymunedol.
Beth oedd argymhellion y Pwyllgor?
Roedd adroddiad y Pwyllgor ar asedau cymunedol yn cynnwys 16 o argymhellion, a chafodd pob un ohonynt heblaw un eu derbyn yn llawn, neu mewn egwyddor, gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad i sefydlu comisiwn, fel y cynigiodd Cwmpas, i sbarduno syniadau arloesol ynghylch trosglwyddo tir ac asedau i’r gymuned.
Argymhellodd y Pwyllgor y gallai comisiwn ystyried agweddau penodol gan gynnwys sut i roi’r cymorth angenrheidiol i gymunedau sydd am fwrw ymlaen â chynllun i drosglwyddo asedau, a gallai hefyd ystyried dulliau deddfwriaethol posibl o rymuso cymunedau.
Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar asedau cymunedol ar 12 Ionawr 2023. Gallwch wylio'r ddadl ar Senedd.tv.
Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru